Penodi’r Prifardd Aneirin Karadog fel Cydlynydd Prosiectau a Thiwtor y Gymraeg Canolfan Rhagoriaith
08.07.2021
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi’r Prifardd Aneirin Karadog fel Cydlynydd Prosiectau a Thiwtor y Gymraeg i Ganolfan Rhagoriaith.
Bydd Aneirin yn gweithio tridiau’r wythnos i Rhagoriaith, sef Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, ac yn cael y cyfle i weithio ar bob math o brosiectau difyr sy’n ymwneud â gwaith y Brifysgol. Fel rhan o’i swydd, bydd Aneirin yn dysgu ar y cwrs ‘Cymraeg mewn blwyddyn’, dysgu seminarau sy’n cyd-fynd gyda’r cwrs BA Addysg a TAR, dysgu ar y Cynllun Sabothol Cenedlaethol i athrawon, mireinio’r Gymraeg yn ogystal â chreu a golygu adnoddau i athrawon a disgyblion.
Cafodd Aneirin ei eni a’i fagu yn Llanrwst, cyn symud i Gwmllynfell a Phontardawe yn blentyn. Yna symudodd y teulu i Bontypridd lle wnaeth fyw am nifer o flynyddoedd, cyn ymgartrefu gyda’i deulu yng Nghwm Gwendraeth. Bu Aneirin yn gweithio yn Tinopolis am naw mlynedd fel ymchwilydd a gohebydd ar raglenni ‘Wedi 7,’ ‘Sam ar y Sgrîn,’ a ‘Heno’, cyn mynd i weithio’n llawrydd. Ers hynny, mae Aneirin wedi bod yn gweithio fel Bardd Plant Cymru ac fel bardd llawrydd. Y llynedd, graddiodd Aneirin gyda doethuriaeth yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe. Symudodd y teulu i Lydaw am flwyddyn lle bu Aneirin yn darlithio Saesneg allan ym Mhrifysgol Brest, ac ers dychwelyd i Gymru, mae wedi bod yn darlithio Llydaweg yn y Brifysgol yn Aberystwyth.
Pan welodd Aneirin hysbyseb i’r swydd, teimlodd ei bod hi’n berffaith ar ei gyfer gan fod hi’n swydd o safon, ac ar ei stepen drws. Fel person llawrydd roedd ymgeisio am swydd fel hyn yn golygu y byddai modd cael ychydig o strwythur i’w wythnos, ac yn gyfle iddo unwaith eto i allu gweithio fel rhan o dîm, yn ogystal â pharhau i weithio yn llawrydd. Mae’n edrych ymlaen at allu gwneud gwahaniaeth ac i weld datblygiad a chynnydd ymhlith y myfyrwyr y bydd yn eu dysgu.
Dywedodd Aneirin: “Rwy’n teimlo y bydda i’n cyflawni rhywbeth ychwanegol… rwy’n cael boddhad mawr o’r prosiectau creadigol rwy’n gwneud fel person llawrydd, ac yn edrych ymlaen at barhau i wneud hynny, ond rwy’n credu fod modd i mi gyfrannu mewn llefydd eraill hefyd. Mae gweld rhywun yn gafael mewn iaith yn wefr, ac yn ei hawlio hi, ac yn meddu arni hi.”
Wrth i Aneirin ddechrau ar ei swydd newydd, mae’n edrych ymlaen at gyflwyno ychydig o’i arbenigedd i’r swydd.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddod ag elfennau creadigol i mewn i bethau ac elfennau llenyddol neu farddol os oes lle. Rwy’n edrych ymlaen at yr elfen o allu gweithio ar brosiectau, a bod yn rhan o dîm, ond hefyd gweithio gydag athrawon sy’n dewis mynd ar y cwrs Cymraeg mewn blwyddyn… rwy’n credu fod e’n beth enfawr a hynod o bwysig o ran cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fod y cynllun yn bodoli. Fi’n edrych ymlaen at weld y cynnydd yn yr athrawon - y rheiny sydd â phrin dim Cymraeg ym mis Medi ac wedyn diwedd y flwyddyn ma’ nhw’n rhugl… ma meddwl am fod yn rhan o hwnna’n gyffrous.”
Yn ôl Aneirin, mae yna sawl ffrynt i’w hymdrechu i weithio arni er mwyn codi safon y Gymraeg ac i annog pobl i’w harddel a’u defnyddio. Cred Aneirin fod nifer o haenau gwahanol mewn cymdeithas yn yr ymdrech i gael pobl i siarad Cymraeg. Mae’r gwaith cenhadu mewn ysgolion a dewis y disgyblion i beidio’i defnyddio fel iaith yr iard yn hen stori, ond eto’i gyd yn dal i fodoli. Yna mae’r elfen o fewnfudwyr yn symud i siroedd, a’r pwysigrwydd o ddangos fod y Gymraeg yn bodoli, er mwyn iddyn nhw ei ddefnyddio o fewn eu cymunedau Cymreig newydd. Elfen arall yw i gael y rhai sy’n rhugl eu Cymraeg i ddefnyddio’u Cymraeg bob dydd ac i feithrin hyder ynddynt.
Dywedodd Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Rhagoriaith: “Mae'n bleser gyda ni groesawu Aneirin i'r tîm ac ry ni'n siŵr y bydd yn gaffaeliad mawr i'r Brifysgol. Bydd ei brofiadau helaeth ym maes ysgrifennu creadigol ac fel ieithydd yn cyfrannu'n sylweddol iawn at waith Rhagoriaith. Mae'n apwyntiad hynod gyffrous!”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476