Sioeau Haf Coleg Celf Abertawe 2021
05.07.2021
Bydd Coleg Celf Abertawe, Y Drindod, yn lansio ei Sioeau Haf – arddangosfa ddigidol eang yn dathlu gwaith a chyraeddiadau myfyrwyr sy’n graddio ar 8 Gorffennaf.
Mae’r arddangosfa ar-lein yn arddangos dosbarth 2021 meysydd celf a pherfformio, dylunio a’r cyfryngau.
Fel arfer, mae ein graddedigion gwych yn arddangos eu gwaith yn ein mannau oriel ac mewn lleoliadau ar draws y ddinas. Yn anffodus, mae’r pandemig COVID-19 yn golygu na fydd hyn yn digwydd yn 2021. Yn hytrach, bydd myfyrwyr yn dangos eu gwaith anhygoel yn ddigidol a wnaed yn bosibl gan eu hymdrechion anhygoel i archwilio posibiliadau arddangos, i ddatblygu platfformau cydweithredol, ac i greu presenoldeb digidol perthnasol.
Meddai Dr Mark Cocks, Deon Cynorthwyol Coleg Celf Abertawe, Y Drindod: “Mae’r newidiadau byd-eang digynsail a fu llynedd wedi newid y ffyrdd rydym yn gweld y byd o’n cwmpas. Yn ymarferwyr creadigol sy’n dechrau ennill eu plwyf mae ein myfyrwyr wedi cael eu gwthio i mewn i gyd-destun cymdeithasol o adfyfyrio, cydweithredu ac ymdrechu.
“Mewn ymateb, mae’r graddedigion hyn wedi dangos cadernid a ffocws eithriadol i ddarganfod ymatebion ysbrydoledig newydd i’r fflwcs diwylliannol sy’n dod i’r amlwg. Wedi’u cefnogi gan ein staff anhygoel a thrwy gydweithredu â diwydiant mae’r graddedigion hyn wedi ymestyn eu rhinweddau digidol a llunio sgiliau trosglwyddadwy ystwyth sy’n golygu eu bod yn barod am amrywiaeth o yrfaoedd yn y dyfodol.
“Mae’n eithriadol o bwysig i arddangos eu gwaith, i gyflwyno eu talentau a rhoi hwb i’w cyfleoedd. Mae Lois Davies o Batrwm Arwyneb a Thecstilau eisoes wedi ennill Gwobr Romo yn New Designers. Mae ei llwyddiant yn adeiladu ar lwyddiant graddedigion y presennol sy’n gweithio ar draws y diwydiannau creadigol. Dymunwn y gorau i raddedigion 2021 ar gyfer eu dyfodol cyffrous a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darganfod eu talentau o fewn yr arddangosfa wych hon.”
Mae Sioe Haf CCA 2020 yn arddangos gwaith gan fyfyrwyr o:
- Pensaernïaeth
- Celf a Dylunio Sylfaen
- Dylunio Modurol a Chludiant
- Hysbysebu Creadigol
- Technoleg Cerddoriaeth Creadigol
- Crefftau Dylunio
- Ffilm a Theledu
- Celf Gain
- Dylunio Graffig
- Darlunio
- Ffotograffiaeth
- Dylunio Cynnyrch a Dodrefn
- Dylunio Setiau
- Patrwm Arwyneb a Thecstilau
- MA Deialogau Cyfoes
Gallwch weld y sioeau ar-lein o 8 Gorffennaf, 2020 yn https://swanseacollegeofartsummershows.org
Dysgwch ragor am gyrsiau CCA yn uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celf-a-dylunio/
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk