Tîm Blynyddoedd Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn ffarwelio â chydweithwyr ar ôl blynyddoedd o wasanaeth.
02.08.2021
Wrth i’r tîm Blynyddoedd Cynnar nesáu at ddathlu 21 mlynedd, gyda thristwch y ffarweliwn â dau aelod allweddol o’n tîm a fu’n rhan annatod o ddatblygu’r rhaglenni Blynyddoedd Cynnar o’u canolfan wreiddiol yng Nghaerfyrddin i fod yn rhaglenni aml-gampws ar draws Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd.
Dechreuodd Ann-Marie Gealy, Cyfarwyddwr Academaidd Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg, ei gyrfa yn y Drindod Dewi Sant yn 1997 yn dilyn cyfnod fel athrawes ysgol gynradd. Bu’n gweithio’n wreiddiol yn yr Adran Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn datblygu’r arbenigedd pwnc Gwyddoniaeth. Yn ddiweddarach daeth yn Uwch Ddarlithydd mewn Plentyndod Cynnar, wedyn yn Gyfarwyddwr Rhaglen y Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar, yna’n Bennaeth Blynyddoedd Cynnar ac yn olaf yn Gyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg.
Esgorodd ei hamser yn arwain y tîm a’r rhaglenni Blynyddoedd Cynnar ar nifer o ddatblygiadau arloesol gan gynnwys y radd ddwy flynedd Dysgu Hyblyg Llwybr Carlam sy’n caniatáu i fyfyrwyr astudio gyda’r nos. Mae’r radd hon wedi bod yn allweddol i ganiatáu i fyfyrwyr weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar tra hefyd yn gallu astudio gyda'r nos. I lawer o fyfyrwyr y dull hyblyg hwn oedd yr unig ffordd y gallent gael mynediad i astudio addysg uwch. Arweiniodd Ann-Marie y gwaith o ddatblygu’r ddarpariaeth astudio yn ystod y dydd a chyda’r nos yn Abertawe a Chaerdydd yn ogystal â’r ddarpariaeth wreiddiol ar gampws Caerfyrddin. Mae hyn wedi caniatáu i fyfyrwyr o bob rhan o Orllewin a De Cymru i gael mynediad at Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar, gan wneud y Drindod Dewi Sant yn arweinydd o ran darparu hyfforddiant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae Alison Rees Edwards, Uwch Ddarlithydd yn y tîm Blynyddoedd Cynnar yn cofio Ann-Marie fel ei darlithydd a chydweithiwr. Dywedodd:
“Mae Ann-Marie wedi chwarae rhan annatod yn fy holl brofiadau i yn y Drindod Dewi Sant! Yn gyntaf, fel un o’m darlithwyr pan ymunais â’r rhaglen dysgu hyblyg yn 2005, a thrwy lwc i mi, yn ddiweddarach fel cydweithiwr pan fues i’n ddigon ffodus i ymuno â’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn 2009. Roedd ei hymennydd dadansoddol yn sicr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed fel myfyriwr, gan ymdrechu i gael y gorau allan ohonom i gyd. Rwy wedi dysgu cymaint ganddi; un o hoelion wyth y tîm Blynyddoedd Cynnar, a hefyd y Brifysgol, a dymunaf yn dda iddi ar ei hymddeoliad.” Alison Rees Edwards.
Mae gan Glenda Tinney hefyd atgofion melys yn astudio yn narlithoedd MA Ann-Marie. Dywedodd:
“Roedd darlithoedd Ann-Marie bob amser yn ysgogi’r meddwl ac wedi’u cynllunio i wneud i fyfyrwyr gwestiynu ac ail-gwestiynu syniadau. Dysgais gryn dipyn ganddi sy’n dal i ddylanwadu ar fy ngwaith heddiw. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr ag Ann-Marie ers blynyddoedd lawer, yn enwedig gan ein bod yn rhannu angerdd at ddysgu yn yr awyr agored a gwyddoniaeth. Mae’n braf cael arweinydd sy’n deall nad casglu annibendod ydw i ond storio deunyddiau hanfodol i fwynhau chwarae yn yr awyr agored! Diolch am bopeth.”
Daeth Gwyneth Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen y rhaglenni Dydd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant dros 10 mlynedd yn ôl, a hithau hefyd wedi dilyn astudiaeth ôl-raddedig yn y Drindod Dewi Sant.
Ar ôl dechrau fel darlithydd Blynyddoedd Cynnar, aeth Gwyneth yn ei blaen i fod yn Uwch Ddarlithydd ac ers blynyddoedd lawer mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhaglen y rhaglenni Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ac Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Mae Gwyneth wedi arwain y rhaglenni Blynyddoedd Cynnar trwy ddatblygiadau arloesol arwyddocaol, gan gynnwys sicrhau bod y rhaglenni wedi’u cydnabod gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel trwydded i ymarfer yn y blynyddoedd cynnar, y symud tuag at addysgu bloc (lle mae myfyrwyr yn astudio un modwl ar y tro) a darparu cyrsiau ar draws campysau Abertawe a Chaerfyrddin. Mae hyn yn eithriadol o ystyried bod Gwyneth hefyd yn byw ar ffarm ac yn cynorthwyo â gwaith y ffarm cyn ac ar ôl gwaith.
Fel y noda Alison Rees Edwards, y Cyfarwyddwr Rhaglen newydd ar gyfer y rhaglenni dydd blynyddoedd cynnar
“Gwyneth yw un o’r bobl fwyaf gweithgar a charedig rwy’n eu hadnabod. O’r eiliad y gwnes i gwrdd â hi, roedd fel pe bai wedi bod yn aelod o’r tîm Blynyddoedd Cynnar ers blynyddoedd. Bob amser yn broffesiynol, mae Gwyneth yn cwblhau popeth yn brydlon ac i safon uchel iawn. Byddaf yn gweld eisiau clywed am ei chŵn a’i defaid dros baned yn y Cwad. Pob dymuniad da i ti Gwyneth!”
Mae Glenda Tinney yn cofio Gwyneth yn ymuno â’r tîm. Ychwanegodd:
“Cefais y pleser o weithio gyda Gwyneth pan gyflwynodd ei modylau cyntaf ac rwy bob amser wedi mwynhau addysgu ar y cyd. Mae Gwyneth bob amser wedi bod mor weithgar a threfnus, felly mae bob amser wedi bod yn hawdd bod yn rhan o’i thîm. A dweud y gwir, rwy mor ddiolchgar bod Gwyneth wedi bod mor amyneddgar a charedig pan nad oeddwn i, efallai, mor drefnus.”
Mae Ann-Marie a Gwyneth hefyd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi’r cyd-destun ymchwil ac ymarfer blynyddoedd cynnar ehangach yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r ddwy wedi bod yn ymwneud â phrosiectau ymchwil i gefnogi a gwerthuso darpariaeth a dulliau plentyndod cynnar gan gynnwys prosiectau a ariennir gan BookTrust Cymru a JigSo Ceredigion. Caniataodd y prosiectau hyn iddynt ddilyn eu diddordebau personol ym maes lles, a datblygu iaith a llythrennedd. Mae Ann-Marie hefyd wedi cynnal ei diddordeb brwd mewn datblygu Gwyddoniaeth yn y Blynyddoedd Cynnar trwy ei gwaith a’i hymchwil yn gysylltiedig â’r Raddfa Cyd-feddwl Parhaus a Lles Emosiynol.
Dywedodd Jess Pitman, aelod newydd o’r tîm Blynyddoedd Cynnar.
“Rwy ond wedi gweithio gydag Ann-Marie a Gwyneth am gyfnod byr ond rwy wedi dysgu cymaint yn barod. Os gallaf fod yn ymarferydd hanner cystal â chi, byddaf i’n hapus. Diolch i’r ddwy ohonoch am eich holl gefnogaeth a charedigrwydd. A bientôt!”
Meddai Nat MacDonald, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer llwybr hyblyg gyda’r nos y rhaglenni Blynyddoedd Cynnar.
“Mae Ann-Marie a Gwyneth wedi bod yn rhan annatod o’r tîm blynyddoedd cynnar ers blynyddoedd lawer a byddwn yn gweld eu heisiau’n fawr iawn. Mae’r ddwy wedi bod yn fentoriaid gwych i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae eu hangerdd a’u hymroddiad i’n myfyrwyr a’n rhaglenni yn ysbrydoli pawb a diolch iddyn nhw mae gennym y tîm a’r rhaglen ardderchog sydd gennym heddiw. Bydd hi’n chwith heb Ann-Marie a Gwyneth, ac fel tîm byddwn yn ymdrechu i gynnal a datblygu’r gwaddol maent yn ei adael.”
Bydd y tîm a’r myfyrwyr Blynyddoedd Cynnar yn gweld eisiau Ann-Marie a Gwyneth yn fawr ac maent yn ddiolchgar iddynt am eu holl gefnogaeth a’u harweiniad. Heb os byddant yn parhau i fod ffrindiau agos i’r tîm Blynyddoedd Cynnar a theulu ehangach y rhaglen Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg. Bydd y tîm yn edrych ymlaen at gyfleoedd i gydweithio a chael gwybod y diweddaraf am eu holl anturiaethau dros goffi yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant cliciwch ar y ddolen ganlynol:https://www.uwtsd.ac.uk/cy/blynyddoedd-cynnar/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076