Un o enwebeion Gwobr Turner yn brif siaradwr yn Wythnos Weithredaeth y Drindod Dewi Sant 2021
23.04.2021
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o lansio Wythnos Weithredaeth flynyddol YDDS yr wythnos nesaf.
Cynhelir Wythnos Weithredaeth YDDS o ddydd Llun 26 Ebrill tan ddydd Gwener 30 Ebrill gan roi lle blaenllaw i siaradwyr gwadd gwych. Y prif siaradwr fydd Stefanos Levidis o’r cydweithfa celf “Forensics Architecture” sydd wedi’i enwebu am Wobr Turner.
Eleni bydd y digwyddiad, sy’n cael ei redeg gan staff a myfyrwyr yr adran Ffotograffiaeth yn y Drindod Dewi Sant, yn tynnu sylw at yr arfer o ymgysylltu â’r gymdeithas, ac ymhlith y siaradwyr gwadd eraill bydd Fox Irving (artist/cynhyrchydd, y Women Working Class Group), a’r artist o Abertawe Owen Griffiths.
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys lansio’r cydweithfa newydd o artistiaid cwiar yng Nghymru ‘On Your Face’, sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr, sesiynau ioga/myfyrdod a therapi celf am ddim ynghyd â gweithdai creadigol yn y gymuned.
Meddai Siân Addicott, Pennaeth Ffotograffiaeth Israddedig yn y Drindod Dewi Sant: “Nod yr Wythnos Weithredaeth eleni yw annog arfer cydweithredol rhwng myfyrwyr, pobl leol greadigol a grwpiau yn y gymuned. Mae’r pandemig wedi bod yn gyfnod o unigrwydd cynyddol i lawer ac yn anochel mae wedi effeithio ar iechyd meddwl. Bydd y digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Weithredaeth yn archwilio manteision cydweithio cymunedol a chreadigol, y berthynas rhwng celf weledol a newid cymdeithasol, ynghyd â chynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai therapi celf a sesiynau llesiant ioga/myfyrdod.
Ychwanegodd yr artist/cynhyrchydd Fox Irving: “Rwy’n hapus iawn i ddychwelyd ar ôl Wythnos Weithredaeth wych yn 2020. Gan adeiladu ar y cysylltiadau a wnaethom y llynedd, rwy’n gobeithio cefnogi a meithrin rhagor o brosiectau cydweithio creadigol gyda’r Brifysgol trwy sesiynau mentora a thrafodaethau grŵp."
Yn sgil y cyfyngiadau cyfredol cynhelir y digwyddiadau ar-lein. I gael y diweddaraf dilynwch @ffoto_swansea ar Instagram. I gael rhagor o wybodaeth/dolenni i’r sesiynau ar-lein cysylltwch â Siân Addicott
Nodyn i'r Golygydd
Credyd Lluniau:
Llun 1 Y cydlynydd prosiect Ariel Caine yn profi rig ‘lloeren gymunedol’ yn Istanbul, Twrci. (Forensic Architecture) © FORENSIC ARCHITECTURE, 2021
Llun 2 Golwg ar y gosodwaith 'Maps of Defiance' yn Biennale Dylunio Llundain 2018 (Peter Kelleher/Victoria & Albert Museum) © FORENSIC ARCHITECTURE, 2021
Llun 3 Ymchwilwyr Forensic Architecture yn gweithio gydag aelodau o NGO Yazda, yn eu hyfforddi mewn technegau dogfennu. (Forensic Architecture) © FORENSIC ARCHITECTURE, 2021
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476