Un o raddedigion BA Perfformio yn serennu ar Rownd a Rownd.
10.09.2021
Mae un o raddedigion y cwrs BA Perfformio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael rhan yn yr opera sebon poblogaidd ‘Rownd a Rownd’.
Bydd Meredydd Rhisiart o Flaenau Ffestiniog yn chwarae rhan Efan Hopkins ar y rhaglen boblogaidd sy’n cael ei darlledu bob nos Fawrth a nos Iau ar S4C am 8.25 yr hwyr. Cymeriad hyderus 17 oed yw Efan sydd weithiau’n orhyderus.
Cafodd Meredydd y cyfle i fynd am glyweliad, ac yna darganfod drwy ei asiant Ryder Management ei fod wedi bod yn ddigon lwcus i dderbyn y rhan.
Meddai Meredydd,
“Dwi’n teimlo’n hapus ac yn lwcus iawn fy mod i wedi cael rhan ar raglen deledu Cymraeg, ac yn edrych ‘mlaen i weld y cymeriad a’i stori yn datblygu.”
Graddiodd Meredydd yn ddiweddar o’r cwrs BA Perfformio yng Nghaerdydd. Penderfynodd astudio’r cwrs gan ei fod yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau actio, canu a dawnsio. Mae Meredydd yn hynod o ddiolchgar i’r darlithwyr a fu’n ei gynorthwyo.
“ Yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod Dewi Sant, cefais y cyfle i gael hyfforddiant a chydweithio gyda sawl perfformiwr proffesiynol, yn ogystal a chael sgyrsiau a chymorth ganddynt i fedru datblygu fy ngyrfa.”
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru,
“Rydym yn hynod falch o lwyddiant Meredydd. Braf fydd gweld o yn rhan o’r rhaglen boblogaidd hon ac yn ymuno a dau arall o’n cyn-fyfyrwyr Heledd Roberts a Josh Morgan.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476