Wish I Was There
07.09.2021
Mae delweddau o ddau o draethau hardd Abertawe, a grëwyd gan Jessica Morgan-Helliwell, myfyrwraig ar y cwrs Meistr Dylunio Patrymau Arwyneb yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, i’w gweld mewn Arddangosfa newydd gan Network Rail. Teitl yr arddangosfa yw Wish I Was There, ac mae’n arddangos gwaith y genhedlaeth nesaf o arlunwyr i ddathlu dychweliad teithio ar y rheilffyrdd.
Y dasg a osodwyd ar gyfer cystadleuaeth Network Rail oedd i fyfyrwyr o bob rhan o’r DU greu gwaith a oedd yn adlewyrchu’r mannau yr oeddent wedi gweld eisiau teithio iddynt yn ystod y pandemig – boed yn dref, dinas, neu draeth, stryd siopa neu hyd yn oed dafarn neu barc – man a olygai rhywbeth arbennig iddynt.
Cyflwynodd ymgeiswyr bron i 270 o ddarnau o waith, gan gynnwys delweddau o bob rhan o’r wlad megis Côr y Cewri, Castell Caeredin, St Michael’s Mount, Pier Brighton, Piccadilly Circus a Phromenâd Llandudno.
Dewiswyd y printiau ‘Bae’r Tri Chlogwyn’ a ‘Bae Rhosili’ gan Jessica ymhlith y 100 uchaf ar gyfer y gystadleuaeth sy’n rhoi sylw i ddarluniadau gan arlunwyr o rai o’r mannau gorau i ymweld â nhw yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Jessica, sy’n astudio’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau: “Mae gan Abertawe rai o’r traethau mwyaf prydferth a hardd yn y DU, ac mae Bae’r Tri Chlogwyn a Rhosili yn ddau o’m ffefrynnau i! Mae’n anrhydedd mawr i mi bod fy ngwaith wedi cael ei ddewis i’w gynnwys fel hyn.
“O ran fy mhrosiectau creadigol, rwy’n cael fy ysbrydoli fwyaf gan natur a bywyd gwyllt. A minnau’n byw mor agos, mae Penrhyn Gŵyr yn ffordd wych o gael yr ysbrydoliaeth sydd ei hangen arnaf. Mae mynd am dro hir ar hyd yr arfordir hefyd yn ffordd wych o ddianc a chael seibiant.
“Pan welais i’r neges am gystadleuaeth Network Rail yng nghanol fy e-byst, meddyliais y byddai anfon fy ngwaith celf yn ffordd wych o rannu fy hoff leoedd yr oeddwn i wir wedi gweld eisiau ymweld â nhw drwy gydol y cyfnod clo, gan ddefnyddio fy mhalet lliwgar sy’n codi’r galon a’m harddull feiddgar.
“Rwy’n gobeithio bod y gwaith celf yn denu pobl sy’n awyddus i ddianc rhag bwrlwm bywyd prysur y ddinas a throi am Fae’r Tri Chlogwyn neu Rosili am awyrgylch nefolaidd.”
Meddai Syr Peter Hendy CBE, cadeirydd Network Rail: “Mae safon y gwaith celf a gyflwynwyd wedi bod yn rhagorol ac mae’n adlewyrchu cymaint rydyn ni i gyd wedi gweld eisiau teithio.
“Mae gan y rheilffordd hanes hir o greu gweithiau celf i hyrwyddo’r cyrchfannau y gall pobl deithio iddynt ar y trên, ac mae’r gwaith celf a gyflwynwyd yn adlewyrchu hynny’n llwyr. Bydd y gwaith celf hwn yn dod yn rhan o hanes, gan ddogfennu’r hyn sydd wedi bod yn gyfnod digynsail i ni i gyd.”
Mae’r arddangosfa’n teithio o amgylch gorsafoedd prysuraf Prydain yr haf hwn.
I gael rhagor o wybodaeth ac i brynu copïau o’r gweithiau celf, ewch i wishiwasthere.love
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk