Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf 2021
07.06.2021
Myfyrwyr a graddedigion Y Drindod sydd ag uchelgeisiau entrepreneuraidd o bob cwr o Gymru yn cael y cyfle unigryw i gofrestru ar wythnos Cychwyn Busnes yr Haf ar-lein yn rhad ac am ddim i helpu lansio eu syniadau busnes.
Bydd Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf, sy’n dechrau ar ddydd Llun 14 Mehefin, yn cynnig 5 diwrnod o ysbrydoliaeth, dysgu a rhwydweithio i droi syniadau’n fusnes, mentrau cymdeithasol, a gyrfaoedd llawrydd. Gall unrhyw un dros 16 oed sy’n fyfyriwr ar hyn o bryd neu wedi astudio mewn sefydliad yng Nghymru gymryd rhan.
Gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal dros 4 cyfnod ac amserlen sy’n cynnwys rhai o entrepreneuriaid mwyaf a disgleiriaf Cymru, bydd ei gwrs 5 diwrnod ar-lein yn helpu cyfranogion i feithrin, datblygu, a thyfu eu busnes. Bydd gan gaeau gŵyl rhithwir gymysgedd o siaradwyr gwadd, gweithdai rhyngweithiol, trafodaethau panel a sesiynau Cwestiwn ac Ateb byw. Ar draws pob cyfnod bydd siaradwyr gwadd arbenigol, yn trafod popeth o ymchwil a marchnata i lif arian a chyllid, yn darparu’r elfennau allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes llwyddiannus, gyrfa lawrydd, neu fenter gymdeithasol.
Eleni, mae’r siaradwyr yn cynnwys Cameron Reardon, un o fyfyrwyr Rheoli Busnes a Marchnata Y Drindod Dewi Sant sydd, yn ogystal â’i astudiaethau, wedi sefydlu ei fusnes ei hun – Bug Box.
Wedi’i sefydlu yn 2017, mae Bug Box yn siop entomoleg sy’n mewnforio, bridio a gwerthu pryfaid egsotig fel tarantwlaod, sgorpionau, a nadredd miltroed ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Prif gwsmeriaid y cwmni yw entomolegwyr amatur, ysgolion, sŵau, a chanolfannau ymchwil gwyddonol.
Meddai Cameron: “Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf 2021, yn arbennig o weld pa mor llwyddiannus oedd y digwyddiad llynedd. Rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan dîm menter y brifysgol gyda phethau fel treth a dogfennau cyfreithiol ac rwy’n gyffrous iawn i ysbrydoli myfyrwyr eraill i sefydlu eu busnes eu hunain.
Bydd Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Mentergarwch yn Y Drindod, yn cyflwyno gweithdy ar-lein yn ystod y digwyddiad, ‘Cymerwch egwyl, mae’r coffi yma: cyfle i feddwl am Eiddo Deallusol.’
Meddai’r Athro Penaluna: “Mae gan y myfyrwyr a graddedigion doreth o greadigrwydd a diben y gweithdy hwn yw eu grymuso i werthfawrogi ei werth, iddyn nhw eu hunain ac eraill, boed at ddibenion cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd.”
Meddai Dylan Williams-Evans, Eiriolwr Mentergarwch Y Drindod yn Athrofa Ymarfer Gynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Mentergarwch y Brifysgol: “Roedd Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf 2020 yn brosiect gwych ar y cyd rhwng darparwyr AU ac AB Cymru lle’r oedd dros 500 o bobl wedi cofrestru i fynychu, cawsom adborth gwych ac enillasom Wobr Genedlaethol. Eleni, mae’r digwyddiad wedi esblygu’n Ŵyl lle bydd gennym lawer mwy o siaradwyr, entrepreneuriaid ac arbenigwyr i gyflwyno gwell profiad fyth i’n myfyrwyr a graddedigion gyda chyfleoedd i rwydweithio ac ennill y sgiliau gwerthfawr y bydd arnynt eu hangen ar gyfer eu gyrfaoedd entrepreneuraidd.”
Caiff y digwyddiad ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhad ac am ddim i’r rheiny sy’n astudio neu wedi astudio mewn Coleg neu Brifysgol yng Nghymru a chaiff ei ffrydio’n fyw i chi yn eich cartref eich hun.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk