Y Drindod Dewi Sant i arddangos doniau creadigol yng Ngorymdaith Nadolig Abertawe 2021
17.11.2021
Bydd doniau creadigol myfyrwyr, staff a phartneriaid cymunedol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dod yn fyw gyda chymorth ychydig o hud a lledrith Nadoligaidd ddydd Sul, 21 Tachwedd.
Bydd fflôt a ddyluniwyd ac a wnaed gan fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Arloesi Cerebra y Brifysgol yn ymuno â'r orymdaith yng Ngorymdaith Nadolig Abertawe a Chynnau’r Goleuadau am 5pm.
Bydd Y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei daucanmlwyddiant yn 2022, gan nodi sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1822 fel man geni addysg uwch yng Nghymru. Bydd y fflôt, â phentyrrau uchel o anrhegion a ddaw’n fyw drwy hud a lledrith, hefyd yn cynnwys logo daucanmlwyddiant newydd y brifysgol yn barod ar gyfer digwyddiadau a dathliadau'r flwyddyn nesaf.
Yn cerdded wrth ochr y fflôt bydd perfformwyr Troy Boyz , menter a gefnogir gan y Drindod Dewi Sant sy'n helpu i ysbrydoli ac ennyn diddordeb pobl ifanc 16-19 oed sydd wedi profi bywydau heriol, drwy gyfrwng dawns stryd, cerddoriaeth a pherfformio.
Yn goleuo'r orymdaith bydd llusernau papur a grëwyd gan fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli a staff yng nghanolfan alw heibio Blaen-y-maes, sefydliad nid-er-elw sy'n helpu unigolion a theuluoedd.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi gwahodd ffrindiau ac aelodau o Ddinas Noddfa Abertawe i gerdded ochr yn ochr â'r fflôt i roi croeso i ddigwyddiadau’r Nadolig.
Mae gan Y Drindod Dewi Sant hanes hir o weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy ei phartneriaeth gydweithredol â Grŵp Dinas Noddfa Abertawe, gan gyflwyno gweithdai a chefnogaeth mewn cymunedau lleol.
Meddai'r Athro Ian Walsh, Profost campws Abertawe Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn brifysgol ganol dinas Abertawe ac yn bartner gyda Chyngor y Ddinas ac AGB Abertawe yn y newidiadau trawsffurfiol sy'n digwydd i wella statws Abertawe fel un o brif ddinasoedd glan môr y DU ac yn gyrchfan ddeniadol i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd.
"Ynghyd â'n partneriaid cymunedol, rydym yn falch iawn o allu cymryd rhan yn y digwyddiad Nadoligaidd arbennig hwn, i arddangos doniau creadigol nid yn unig ein myfyrwyr a'n partneriaid, ond pawb sy'n cymryd rhan."
Bydd yr Orymdaith yn cychwyn am 5pm gan fynd i Ffordd y Dywysoges, ac i fyny tuag at Sgwâr y Castell. Yma bydd Siôn Corn yn cynnau rhai o'r goleuadau Nadolig drwy hud a lledrith o'i sled ac yn codi llaw ar blant mawr a bach! Yna bydd yr Orymdaith yn parhau i fyny'r Stryd Fawr, i lawr Stryd y Berllan ac i Ffordd y Brenin, lle bydd Siôn Corn yn cynnau gweddill goleuadau Nadolig canol y ddinas, cyn mynd i lawr gweddill Ffordd y Brenin.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk