Y Drindod Dewi Sant yn cynnig Ysgoloriaeth Noddfa
07.12.2021
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) wedi cyflwyno cynllun Ysgoloriaeth ar gyfer ceiswyr noddfa. Mae’r Ysgoloriaethau Noddfa wedi’u hanelu at bobl â statws ffoadur, diogelwch dyngarol neu geisiwr lloches ac fe’u cynigir mewn cydnabyddiaeth o’r aflonyddwch i addysg y mae pobl wedi’u dadleoli yn ei brofi.
Mae’r Drindod yn ymrwymo i ddileu rhwystrau i gyfranogiad mewn Addysg Uwch a wynebir gan y rheiny sy’n ceisio lloches yn y DU ac mae’n cefnogi Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru, sef y cam diweddaraf tuag at uchelgais Cymru i ddod yn genedl noddfa i bawb sy’n dewis ei gwneud yn gartref iddynt.
Mae Abertawe wedi bod yn Ddinas Noddfa am 11 o flynyddoedd ac mae gan Y Drindod hanes hir o weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy ei phartneriaeth gydweithredol gyda Grŵp Dinas Noddfa Abertawe, yn cyflwyno gweithdai a chefnogaeth mewn cymunedau lleol.
Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn gwneud cais am statws Prifysgol Noddfa a fydd yn galluogi i ffoaduriaid a cheiswyr lloches gael mynediad i addysg a chefnogaeth rad ac am ddim yn ystod eu hastudiaethau.
Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser gan y Brifysgol gefnogi Cynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru trwy gynyddu cyfleoedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyrchu i addysg bellach ac addysg uwch. Ein cynllun Ysgoloriaeth Noddfa yw’r cam cyntaf yn ein taith sy’n bwriadu annog cyfranogiad yn ein rhaglenni a sicrhau y gallwn greu diwylliant o groeso i bobl sy’n ceisio noddfa o fewn, a thu hwnt i’n campysau. Mae’r Drindod yn ymrwymo i hyrwyddo cynwysoldeb a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd drwy sicrhau bod pawb sy’n gallu elwa o addysg yn cael y cyfle i wneud hynny.”
Meddai Rhys Dart, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr: “Mae Cynllun Ysgoloriaeth y Brifysgol yn ein galluogi i ddarparu lle wedi’i ariannu ar gyfer myfyrwyr cymwys ac i ddarparu pecyn cymorth i’w galluogi i astudio naill ai ar lefel israddedig neu ôl-raddedig. Hefyd, mae ein prosesau’n bwriadu cydnabod a gwerthuso cymwysterau blaenorol yn erbyn fframwaith cymwysterau’r DU gan fod llawer o’r rheiny sy’n ceisio lloches yn aml yn bobl gymwys a medrus iawn sy’n gallu, ac yn, gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n cymdeithas.”
Meddai Julie James, Aelod o Senedd Cymru ar gyfer Gorllewin Abertawe: “Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi eu Hysgoloriaeth Lloches a fydd yn caniatáu mynediad i’r Brifysgol a chefnogaeth i fyfyrwyr â statws ffoadur neu geisiwr lloches y DU.
“Bydd yr ysgoloriaethau’n darparu cynllun hepgor ffioedd dysgu a chymorth astudio ychwanegol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gymaint o bobl barhau â’u haddysg pan fyddant yn ymgartrefu yn Abertawe sydd wedi bod yn Ddinas Noddfa ers dros un mlynedd ar ddeg. Mae gan Y Drindod hanes hir o weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, bydd yr ysgoloriaeth hon yn galluogi i ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyrchu addysg a chefnogaeth yn rhad ac am ddim yn ystod eu hastudiaethau.
Gyda mwy o bobl nag erioed yn cael eu gorfodi i ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth o gwmpas y byd, sefydlwyd y cynllun Prifysgolion Noddfa yn 2017 gan Ddinas Noddfa, elusen genedlaethol sy’n gweithio i ddarparu lleoedd diogel i bawb.
Mae Dinas Noddfa wedi creu partneriaeth gydag Article 26 – prosiect sy’n cefnogi myfyrwyr sydd wedi ceisio noddfa yn y DU i gyrchu a llwyddo mewn addysg uwch – Student Action for Refugees a sefydliadau eraill i ddatblygu’r rhwydwaith Prifysgolion Noddfa.
Nod y cynllun yw ysbrydoli a chefnogi prifysgolion i fabwysiadu diwylliant ac ymarfer o groeso yn eu sefydliadau eu hunain, yn eu cymunedau ehangach, ac ar draws sector Addysg uwch y DU.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk