Y Drindod Dewi Sant yw’r brifysgol gyntaf i gofrestru fel partner i Climate.Cymru
23.07.2021
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gofrestru fel un o bartneriaid Climate.Cymru.
Mae Climate Cymru yn gwahodd sefydliadau ac unigolion ar draws Cymru i ymuno â’r ymgyrch sy’n anelu at fynd â barn 50,000 o leisiau i COP26, uwchgynhadledd amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig sydd i’w chynnal yn Glasgow ym mis Tachwedd.
Mae’r Brifysgol eisoes wedi ymuno â nifer o brifysgolion a sefydliadau yng Nghymru i ddatgan argyfwng amgylcheddol. At hynny, mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymgorffori cynaliadwyedd yn egwyddor graidd yn ei chynllunio.
Yn ei llenyddiaeth noda Climate Cymru: “Wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd gynyddu, mae llawer yn y fantol yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Fel y rhai sy’n croesawu COP26, mae’n arbennig o bwysig i Lywodraeth y DU ddangos arweinyddiaeth o ran brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae rhan bwysig gan Gymru i’w chwarae, a nod yr ymgyrch yw sicrhau bod llywodraethau Cymru a’r DU yn dangos arweinyddiaeth gydag ymrwymiadau ystyrlon, cyfiawn ac yn seiliedig ar dystiolaeth yn COP26. Ffocws allweddol yw sicrhau bod ardaloedd a demograffeg Cymru, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli, yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu ac yn cael eu hystyried wrth i ni wneud y newidiadau angenrheidiol yn ein cymdeithas”.
Drwy ymuno ag ymgyrch Climate Cymru caiff y Brifysgol gyfle i ymwneud â COP26 fel rhan o raglen cyfathrebu ac eiriolaeth yr ymgyrch.
Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe a Phennaeth y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter (INSPIRE): “Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gefnogi’r ymdrechion byd-eang i symud i economi ddi-garbon. Arfer cynaliadwy yw’r sylfaen y mae ein holl arloesi, ymchwil a menter wedi eu hadeiladu arni. Mae integreiddio Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU yn addysg y cenedlaethau cyfredol a chenedlaethau’r dyfodol yn hanfodol er mwyn i ni allu cyflwyno’r newidiadau hollbwysig ac angenrheidiol i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.”
Meddai’r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Cenhadaeth y Drindod Dewi Sant yw trawsnewid addysg er mwyn i ni drawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae datblygu cynaliadwy’n egwyddor gynllunio allweddol o fewn y Brifysgol sydd wedi’i hymgorffori ar draws ein campws, ein cwricwlwm, ein diwylliant a’n cymuned.
“Mae’n bleser mawr i ni mai ni yw’r Brifysgol gyntaf i roi ein henw wrth yr ymgyrch hon. Mae ymuno â sefydliadau sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd yn ganolog i ddulliau trawsnewid y Brifysgol. Cydnabyddwn fod angen gweithredu ar frys ac y gall pob ymdrech, waeth pa mor fach, wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant y blaned ac i lesiant cenedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Sam Ward, rheolwr ymgyrchu Climate.Cymru: “Rwy’n hapus iawn bod y Drindod Dewi Sant yn bartner i Climate Cymru, y sefydliad addysg uwch cyntaf i gefnogi’r ymgyrch. Mae prifysgolion yn cynrychioli segment pwysig o’r gymdeithas, a gyda’u dylanwad mae cyfle ganddynt i effeithio ar gyflymder a graddfa’r ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Ein gobaith yw y bydd cyfranogiad y Drindod Dewi Sant yn ysbrydoli ei myfyrwyr, ei staff a phrifysgolion eraill i ymuno â’r ymgyrch hon, wrth i ni symud tuag at COP26, yr uwchgynhadledd amgylcheddol hollbwysig yn hwyrach eleni”:
Nodyn i'r Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth am Climate.Cymru, ewch i: Prifysgol y Drindod Dewi Sant - Climate Cymru
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476