Y Garfan Gyntaf o Fyfyrwyr yn Graddio o’r Rhaglen Peirianwyr Mentrus
05.07.2021
Mae’r garfan gyntaf o fyfyrwyr wedi graddio o raglen Peirianwyr Mentrus ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r cwmni technoleg newydd iungo Solutions wedi dylunio a darparu rhaglen gydgwricwlaidd i gynorthwyo peirianwyr israddedig i ddatblygu sgiliau parod at waith a gwybodaeth am yrfaoedd mewn entrepreneuriaeth. Darparwyd y rhaglen beilot trwy gydweithrediad â’r Drindod Dewi Sant a’r Academi Frenhinol Peirianneg, gyda charfan o 20 o fyfyrwyr.
Cafodd prosiectau o bob rhan o Ddiwydiant De Cymru eu curadu gyda chymorth cyfleuster MADE y Drindod Dewi Sant. Roedd cwmni integreiddio roboteg, Reeco, gwneuthurwr meysydd chwarae cynhwysol, G L Jones, a'r ganolfan hyfforddi gweithgynhyrchu digidol, DMIW, ymhlith y cwmnïau wnaeth osod briffiau prosiectau’r myfyrwyr.
Meddai Rachel Davies, Cyfarwyddwr DMIW: “Mae’r rhaglen Peirianwyr Mentrus yn cynnig profiad heriol a buddiol unigryw i fyfyrwyr mewn diwydiant, yn ogystal â sefydliadau megis Canolfan Arloesi Cymru ar gyfer Gweithgynhyrchu Digidol, trwy ddarparu mecanwaith i ryngweithio â pheirianwyr y dyfodol a mynd i’r afael â phroblemau busnes cyffredin mewn amgylchedd byd go iawn.
“Gwnaeth agwedd a phroffesiynoldeb y myfyrwyr tuag at y prosiectau, ynghyd â’u cyflwyniadau terfynol, argraff dda arnaf, yn enwedig yr ystyriaethau ehangach a wnaed ynghylch y marchnadoedd a’r cyfleoedd busnes.”
Cwblhaodd y myfyrwyr ddeuddeg gweithdy sgiliau mentrus, gan ddysgu am ddamcaniaethau dylunio, datblygu cynnyrch, marchnata a strategaeth, materion cyfreithiol ac ariannol, a rheoli cyfalaf dynol. Cefnogwyd y gwaith o gyflwyno’r rhaglen gan siaradwyr gwadd o gwmnïau newydd sydd â’r potensial i dyfu megis Ship Shape.
Meddai Alistair Baillie, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredu Ship Shape: “Roedd yn bleser bod ar y panel ar gyfer Peirianwyr Mentrus a gwrando ar gyflwyniadau’r myfyrwyr. Yn amlwg mae talent yn y Drindod Dewi Sant, o ran y staff addysgu a’r myfyrwyr sy’n ei mynychu. Mae’n ymddangos bod Peirianwyr Mentrus yn gwrs gwerth chweil ac rwy’n hapus fy mod wedi’i gefnogi.”
Daeth y rhaglen i ben ar 23 Mehefin gyda chyflwyniadau myfyrwyr ger bron panel o feirniaid sy’n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Cefnogwyd y digwyddiad gan Barclays Eagle Labs Caerdydd, Ship Shape, a Chanolfan Arloesi Cymru ar gyfer Gweithgynhyrchu Digidol (DMIW).
Meddai Niki Haggerty-James, Rheolwr Ecosystemau yn Barclays Eagle Labs Caerdydd: “Roedd Barclays yn falch iawn i fod yn rhan o’r rhaglen a gweld y talent peirianneg sy’n datblygu yn y Drindod Dewi Sant. Mae galluogi graddedigion i gael mynediad at fentoriaeth a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol o beirianwyr yn hanfodol i economi Cymru.”
Dengys arolwg bod 98% o fyfyrwyr yn credu bod Peirianwyr Mentrus wedi bod o fudd i’w cyflogadwyedd. Roedd yr holl fyfyrwyr o’r farn fod y gweithdai’n rhai difyr.
Meddai Jessica Leigh Jones MBE, Prif Weithredwr iungo Solutions ac Athro Gwadd yn y Drindod Dewi Sant: “Mae wedi rhoi boddhad mawr gweld y myfyrwyr yn tyfu ac yn datblygu yn ystod eu taith gyda Pheirianwyr Mentrus. Dyma raglen unigryw sydd nid yn unig wedi esgor ar ddeilliannau cadarnhaol i fyfyrwyr, ond hefyd wedi cryfhau perthnasoedd rhwng y brifysgol a diwydiant lleol.”
Mae gan iungo gynlluniau i gyflwyno’r rhaglen Peirianwyr Mentrus fel gwersyll haf eleni ar gyfer myfyrwyr coleg y gallai eu profiad dysgu fod wedi cael ei darfu gan covid-19.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk