Ysbrydoli merched i ystyried gyrfa ym maes STEM
18.11.2021
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu disgyblion o ysgolion cyfun lleol mewn ymgais i annog mwy o ferched i ystyried gyrfa ym maes STEM, gan ganolbwyntio ar y diwydiant technoleg sy’n ehangu.
Gwahoddwyd y disgyblion 11 i 16 oed i Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol y brifysgol i ddysgu’n ymarferol am STEM mewn cydweithrediad â Chynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW STEM Cymru).
Cydnabyddir yn gyffredin fod menywod heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn y brifysgol ac yn y gweithlu cyffredinol. Dengys data diweddar gan UCAS mai dim ond 35% o fyfyrwyr STEM ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig sy’n fenywod.
Er y bu peth cynnydd, fel y tystia data ymgyrch WISE, sy’n dangos bod mwy na miliwn o fenywod yn gweithio mewn swyddi STEM craidd ar draws y Deyrnas Unedig bellach, mae llawer i’w wneud o hyd i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y maes hwn.
Yn y Drindod Dewi Sant mae gan fyfyrwyr fynediad at fentora a chymorth gan academyddion benywaidd sydd wedi gwneud gyrfa ym maes STEM, ac mae rhaglen ‘Merched mewn TG’ yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yn ceisio atgyfnerthu’r neges hon drwy ymgysylltu â disgyblion ledled Cymru.
Cynhaliwyd yr ymweliad cyntaf ar 10 Tachwedd gan gynnwys 14 o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd, gyda’r nod o annog merched i ystyried cyrsiau STEM ar gyfer addysg uwch drwy roi blas ar y cyrsiau a’r gyrfaoedd sydd ar gael.
Meddai Dr Nitheesh Murugan Kaliyamurthy, Darlithydd yn Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol y Drindod Dewi Sant: “Ar ôl cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau drwy gydol y dydd, roedd y merched wedi mwynhau eu profiad yn y brifysgol ac wedi cael gwell dealltwriaeth o’r gyrfaoedd eang sydd ar gael iddynt yn y gwahanol ddiwydiannau STEM megis TG, Rhwydweithio, Seiberddiogelwch, Gemau ac Amlgyfryngau.
“Rydyn ni’n bwriadu trefnu rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol i wella gwelededd menywod yn y meysydd hynny.”
Cafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai oedd yn arddangos yr amrywiol feysydd o fewn TG a Chyfrifiadura ac yn amlygu cyfleoedd gyrfa.
Cafwyd sgwrs hefyd am yr amrywiol gyfleoedd i Ferched ym meysydd Rhwydweithio, Meddalwedd a Seiberddiogelwch, a gyflwynwyd gan Dr Nitheesh Kaliyamurthy.
Lluniodd tîm o staff a myfyrwyr o’r Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol amrywiol weithgareddau ac adnoddau i ddangos y cyfleoedd ehangach a llwybrau gyrfa. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys archwilio perifferolion caledwedd cyfrifiaduron personol a deall eu swyddogaethau, dylunio a chodio robotiaid i dynnu siapiau amrywiol gan ddefnyddio pecynnau Lego Mindstorms EV3, chwarae gemau a deall y stori y tu ôl i’w datblygiad a deall delweddau fel fframiau i animeiddio ffilmiau.
Cynhaliodd Richard William Morgan, Darlithydd yn Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol y Drindod Dewi Sant sesiwn ryngweithiol gyda’r disgyblion i’w helpu i ddeall y rhesymeg y tu ôl i Ddylunio a Datblygu Gemau a’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael, a dangosodd y Darlithydd Nabeel Masih y technegau sy’n gysylltiedig ag animeiddio ffilm.
Cymerwch olwg ar y cyrsiau Cyfrifiadura sydd ar gael yn y Drindod Dewi Sant Abertawe Cyrsiau Cyfrifiadura | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk). I gael gwybod rhagor am y rhaglen Merched mewn TG ac i holi sut y gall ysgol gymryd rhan, cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk