Ysgolhaig Cytgord y Drindod Dewi Sant yn mynychu cynhadledd ‘DialoguePerspectives’ i drafod Crefyddau a Bydolygon yn yr Almaen
15.12.2021
Yn ddiweddar dewiswyd Fatima Akbar Jiwani o’r Drindod Dewi Sant, Ysgolhaig Cytgord yn Ffederasiwn Rhyngwladol y Brifysgol ar gyfer Deialog Rhyng-ffydd a Rhyngddiwylliannol (IFIFICD) i fynychu’r gynhadledd DialoguePerspectives ddiweddaraf, a gynhaliwyd yn Potsdam, yr Almaen.
Er 2015, mae dros 200 o fyfyrwyr ac ymgeiswyr doethurol o dueddfrydau crefyddol a bydolygon amrywiol wedi dod at ei gilydd drwy’r rhaglen DialoguePerspectives. Gyda chymorth y Swyddfa Dramor Ffederal yn yr Almaen, mae’r rhaglen wedi’i hymestyn i lwyfan Ewropeaidd i hyfforddi darpar arweinwyr yn y byd academaidd, diwylliant, gwleidyddiaeth a busnes i ddod yn arbenigwyr mewn deialog newydd rhyng-ffydd a bydolygon sy’n canolbwyntio ar y gymdeithas.
Eleni, fe wnaeth dros 70 o fyfyrwyr ac ymgeiswyr PhD o un deg saith o wledydd Ewropeaidd gymryd rhan yn y rhaglen ‘DialoguePerspectives’. A hwythau’n hanu o gefndiroedd amrywiol, adlewyrcha’r cyfranogwyr amrywiaeth crefyddol, gwleidyddol a chymdeithasol cymdeithasau Ewrop. Yn dilyn y gynhadledd, meddai Fatima Akbar Jiwani:
“Mae DialoguePerspectives wedi llwyddo mewn ffordd gymeradwy i ddod â chyfranogwyr o wahanol ddiwylliannau, deongliadau crefyddol a bydolygon at ei gilydd i ryngweithio, cwestiynu a chymryd rhan mewn sgyrsiau anodd.
Wrth adfyfyrio ar y profiad unigryw a phwerus hwn, rwy’n teimlo’n ddiolchgar am gael fy newis ar gyfer y cyfle hwn. Roedd cwrdd â llu o bobl o gefndiroedd diwylliannol, proffesiynol a chrefyddol amrywiol yn gam mawr ymlaen ynddo’i hun! Er bod y cyfranogwyr yn ddilynwyr crefyddau/bydolygon gwahanol, roedd gan lawer ohonynt ddealltwriaeth gynhwysfawr o draddodiadau ac arferion crefyddol. Roedd rhai ohonynt eisoes yn cymryd rhan mewn prosiectau rhyng-ffydd ac yn eiriolwyr cryf dros gynwysoldeb yn eu cyd-destunau eu hunain. Mae dod i’w hadnabod nhw, eu heriau a’u profiadau wedi fy helpu i adfyfyrio ar fy hunaniaeth, fy nghryfderau a’m cyfraniad i fy hun i gymdeithas.
Edrychaf ymlaen at y seminar nesaf yn Luxembourg sy’n addo rhagor o gyfleoedd i feithrin cyfeillgarwch, cydweithio a thyfu’n bersonol fel catalydd ar gyfer posibiliadau newydd.”
Ar hyn o bryd mae Fatima Akbar Jiwani’n dilyn doethuriaeth broffesiynol mewn Astudiaethau Rhyng-ffydd ar gampws Llambed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn y gorffennol mae wedi ennill gradd meistr mewn addysgu (MTeach) a gradd Meistr yn y Celfyddydau (MA) mewn ‘Cymdeithasau a Gwareiddiad Mwslimaidd’; o Sefydliad Addysg (IOE) Coleg Prifysgol, Llundain (UCL), a’r ‘Athrofa Astudiaethau Ismaili’ (IIS), Llundain. Mae hefyd wedi cwblhau gradd meistr mewn Economeg o Brifysgol Mumbai (India, 1997), gradd baglor mewn Addysg (BEd) yn 2007 a gradd Baglor (BA) arall mewn Economeg yn 1995.
Wrth sôn am ei chyfnod yn y Drindod Dewi Sant, ychwanegodd Fatima Akbar Jiwani:
“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar fy nhraethawd doethurol ar y testun ‘Archwilio profiadau myfyrwyr o ddosbarthiadau crefyddol Ismaili a'u dylanwad ar eu hunaniaeth grefyddol'. Addysg grefyddol yw un o’r ymatebion gorau i gwestiynau dirfodol. Fe wnaeth hyn fy arwain i wneud cais am ddoethuriaeth Broffesiynol yn y Drindod Dewi Sant ar y rhaglen astudiaethau rhyng-ffydd. Fel rhan o’m doethuriaeth, rwy wedi mwynhau dysgu am amrywiol athrawiaethau crefyddol, ac rwy wedi cael y cyfle i gyfrannu nifer o bapurau ar astudiaethau rhyng-ffydd."
Dywedodd Dr Angus Slater, Darlithydd mewn Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Rhyng-ffydd yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae Fatima wedi cyfrannu’n fawr at ein rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Astudiaethau Rhyng-ffydd yn Llambed yn ystod ei hastudiaethau a thrwy ei gweithgaredd rhyng-ffydd allanol. Mae'r agwedd hon ar ymarfer proffesiynol ochr yn ochr â dysgu academaidd yn nodweddiadol o'n rhaglenni rhyng-ffydd yn y Drindod Dewi Sant ar lefel doethuriaeth a meistr."
Mae rhagor o wybodaeth am Ffederasiwn Rhyngwladol y Brifysgol ar gyfer Deialog Rhyng-ffydd a Rhyngddiwylliannol (IFIFICD) ar gael ar wefan y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076