16 Mehefin 2022
Daucanmlwyddiant - Man Geni Addysg Uwch yng Nghymru
Mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi datblygu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i nodi'r dathliadau. Fe welwch fanylion ar ein tudalennau gwe sy'n cynnwys rhestr o ddigwyddiadau o'r fath. Mae'r rhain yn cael eu diweddaru'n barhaus wrth i fwy o ddigwyddiadau gael eu cadarnhau, a byddwn yn eu rhannu trwy'r Bwletin Staff. Rhowch wybod i ni os hoffech gynnwys unrhyw ddigwyddiadau yn ein calendr. Mae ein gwaith cynllunio yn ystyried cyd-destun Coronafeirws posibl yn 2022 ac felly mae trefniadau wrth gefn ar waith.
Mae’r tîm Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi creu cyfres o arddangosfeydd ffisegol ac ar-lein yn ogystal â seminarau i ddathlu’r unigolion allweddol yn stori’r Brifysgol a’r trysorau sydd yn ei chasgliadau.
Yn y cyfamser, dyma restr o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.