Academyddion y Brifysgol yn rhannu arbenigedd seiberddiogelwch a blockchain ym Macedonia
22.12.2022
Cyflwynodd Dr Carlene Campbell, Athro Cyswllt Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Odayne Haughton, Cymrawd Ymchwil, eu gwaith yn 3edd Gynhadledd Ryngwladol ar Gymwysiadau Gwyddorau Cyfrifiadura, Rhwydweithio, Telathrebu a Pheirianneg (CoNTESA) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Mother Teresa yng Ngogledd Macedonia ym mis Rhagfyr ac a noddir gan IEEE.
Trefnwyd y gynhadledd gan Gymdeithas Ryngwladol Addysgwyr ac Ymchwilwyr (IAER) a daeth ag ymchwilwyr a datblygwyr o'r byd academaidd a diwydiant ynghyd.
Roedd Dr Carlene Campbell yn brif siaradwr ar y diwrnod cyntaf a rhoddodd sgwrs o’r enw ‘Rôl Seiberddiogelwch 2022 a Thu Hwnt: Heriau ac Ansicrwydd’ gyda ffocws ar Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol.
Cyflwynodd Odayne Haughton bapur o’r enw ‘Gwerthuso integreiddiad Technolegau Blockchain mewn Rheoli Cadwyn Gyflenwi’ a chafodd wahoddiad i gyflwyno’r ymchwil hwn yn y gynhadledd.
O'r 40+ o bapurau a gyflwynwyd i'r gynhadledd i'w cyhoeddi, dim ond 18 a dderbyniwyd ac o’r 18 cyflwynydd, cafodd papur a chyflwyniad Odayne eu cydnabod drwy’r wobr am y papur gorau.
Tra’u bod yng Ngogledd Macedonia, cyfarfu’r ddau â’r cyn Ddirprwy Brif Weinidog a Chyfarwyddwr presennol Cyllid Arloesi a Datblygu Technoleg Gogledd Macedonia i drafod cyfleoedd cydweithredol posibl ar gyfer MADE Cymru, prosiect Cyflymydd Digidol SMART a’r Chanolfan Arloesedd Ymchwil Cyfrifiadura Cymhwysol (ACRIC) yn y Brifysgol.
Mae Odayne yn rhan o fenter MADE Cymru y Brifysgol ac mae wedi bod yn ymchwilydd gweithgar yn cynnig cyngor ar dechnolegau blockchain trwy brosiectau ymchwil a datblygu gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru. Yn 2022, roedd yn rhan o’r tîm a ddewiswyd fel un o naw cyfranogwr ar gyfer y cynllun ymchwil a datblygu a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru o’r enw ‘Demonstrating the Potential of Blockchain’.
Mae Dr Campbell yn un o'r cynghorwyr arbenigol ar brosiect Cyflymydd Digidol SMART. Mae’r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys tîm o gynghorwyr arbenigol yn y diwydiant sy’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i’w helpu i nodi’r dechnoleg gywir i roi hwb i’w elw net. Hi hefyd yw sylfaenydd Canolfan Arloesi Ymchwil Cyfrifiadura Cymhwysol newydd y Brifysgol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk