Arbenigwyr i asesu effaith ddigidol ar fywydau Mwslimaidd
10.10.2022
Bydd arbenigwyr, gan gynnwys yr Athro Gary R. Bunt o’r Drindod Dewi Sant, yn ceisio creu darlun cliriach o’r ffordd y mae llwyfannau ar-lein yn effeithio ar strwythurau traddodiadol o fewn Islam ar draws y cyfandir.
Shahjalal Jamia Masjid, Leeds (llun: G. Bunt).
Dan arweiniad y Ganolfan Astudio Islam yn y Byd Cyfoes ym Mhrifysgol Caeredin, mae'r tîm ymchwil wedi derbyn bron i €1.4miliwn gan Collaboration of Humanities and Social Sciences in Europe i ganolbwyntio ar y ffordd y mae technoleg ddigidol yn siapio barn Mwslimiaid Ewropeaidd ar ystod o faterion yn ymwneud â ffydd.
Dywed ymchwilwyr, er bod llwyfannau digidol wedi cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau Mwslimaidd Ewrop, mae hyn wedi ehangu gwahaniaethau rhwng cenedlaethau o fewn y grwpiau hyn. Mae brodorion digidol, er enghraifft, yn fwy tebygol na chenedlaethau hŷn o werthfawrogi YouTube fel ffynhonnell gwybodaeth Islamaidd dros y mosg lleol neu safleoedd traddodiadol eraill o ddysgu crefyddol.
Mae'r tîm ymchwil am ddyfnhau dealltwriaeth o greu, defnydd a dylanwad yr hyn a elwir yn Amgylcheddau Islamaidd Ar-lein (OIEs) mewn cyd-destunau Ewropeaidd. Bydd y prosiect yn ymchwilio i nodweddion OIEs cyfoes, a'u heffaith ar arferion cymdeithasol a chrefyddol gwahanol boblogaethau Mwslimaidd yn Ewrop.
Bydd ymchwilwyr yn archwilio sut mae poblogaethau Mwslimaidd mewn pum gwlad – Lithwania, Gwlad Pwyl, Sbaen, Sweden a’r DU – yn defnyddio llwyfannau digidol i rannu cyngor ar faterion yn ymwneud ag Islam. Byddant yn archwilio sut mae OIEs yn llunio ymddygiadau a chredoau unigol mewn gwahanol leoliadau cenedlaethol a sut maent yn rhyngweithio â rhwydweithiau Mwslimaidd, llunwyr polisïau a sefydliadau trydydd sector.
Mae’r Athro Gary R. Bunt yn Gyd-Ymchwilydd ar gyfer prosiect Islam Digidol Ar Draws Ewrop, yn gweithio’n benodol ar agweddau ar fynegiant ar-lein Mwslemaidd y DU a’i berthynas ar draws cyd-destunau Ewropeaidd. Mae hyn ochr yn ochr â’i waith arall ar ymchwilio i amgylcheddau seiber-Islamaidd, gan gynnwys fel Prif Ymchwilydd y prosiect Digital British Islam a ariennir gan ESRC. Mae prosiect CHANSE yn cynnwys penodiad Ymchwilydd Ôl-ddoethurol i’w leoli yn y Drindod Dewi Sant cyn bo hir. Mae'r Athro Bunt yn edrych ymlaen at weithio gyda gweddill y tîm. Dywedodd:
“Rwy’n falch iawn o gael gweithio gyda chydweithwyr ar draws y DU ac Ewrop ar y prosiect ymchwil sylweddol hwn, sy’n agor dealltwriaeth newydd o gymdeithasau Mwslemaidd mewn cyd-destunau Ewropeaidd amrywiol, yn enwedig o ran eu rhwydweithio digidol a’u defnydd. Mae’r prosiect yn tynnu ar agweddau o fy ymchwil bresennol ar seiber-Islam, ac mae’n dda gweld sut mae hyn yn cael ei ymestyn trwy astudiaethau gronynnog gan bartneriaid academaidd yng Ngwlad Pwyl, Sbaen, Sweden, Lithwania a’r DU.”
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076