Arddangosfa New Designers yn croesawu myfyrwyr cwrs BA Crefftau Dylunio’r Drindod Dewi Sant am y tro cyntaf
05.07.2022
Ymddangosodd myfyrwyr o’r cyrsiau BA Crefftau Dylunio a BA Gwydr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am y tro cyntaf yn nigwyddiad New Designers yn Llundain yr wythnos ddiwethaf gyda’u harddangosfa Made In...
Roedd y sioe’n gymysgfa eclectig o waith gan wneuthurwyr newydd, cyffrous a hon oedd yr arddangosfa go iawn gyntaf i’r rhaglen Crefftau Dylunio, sy’n dal i fod yn ifanc iawn, gan ei gwneud yn arbennig o arwyddocaol wedi nifer o flynyddoedd o arddangosfeydd ar-lein oherwydd y pandemig.
Gweithiodd y myfyrwyr yn galed i gyflwyno arddangosfa oriel broffesiynol yn llawn cerameg arbrofol, cyfryngau cymysg, tecstilau, gwydr, metel ac enamel i’r cyhoedd yn gyffredinol ac i weithwyr proffesiynol y diwydiant a ddaeth i’r arddangosfa.
Ar y ddwy raglen, mae modd i fyfyrwyr ddewis eu cyfeiriad eu hun a chael y rhyddid i greu gwaith a all fod yn gysyniadol neu dan arweiniad deunyddiau, gan ddefnyddio synwyrusrwydd dylunio ac esthetig cadarn. Mae’r holl waith yn dathlu cariad at wneud a materoldeb.
Yn arddangosfa’r New Designers eleni, mae enghreifftiau o waith myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn amrywio o gerfluniau gwydr siwgr bregus tu hwnt Emma Martin i ddisgiau gwydr tywynnu yn y tywyllwch arloesol Sophia Henry a beintiwyd â llaw, i godi ymwybyddiaeth am rywogaethau sydd mewn perygl.
Cafodd y cyhoedd gyfle i weld llestri tywyll a diddorol Bethany Coram sy’n cynnwys ystod o ffobiâu, i arteffactau estron chwareus, lliwgar, cerameg ac edafedd Carwyn Llewelyn.
Cafwyd cadwyn decstilau faint ystafell gan Sam Mathias a archwiliai obsesiwn a phethau lluosog drwy gannoedd o ddolenni a oedd yn dwyn gemwaith i gewri i’r meddwl, gan ddangos amynedd dyfal yn y gwaith llafurddwys hwn. Tynnwyd llestri Kate Scale o ddelweddau o grwpiau o bobl wrth iddi archwilio’r syniad o gynhwysiant a dod ynghyd.
Mae’r stori’n parhau gyda Megan Jamieson a gysegrodd ei sioe i’r fferm lle cafodd ei magu, mewn dathliad hyfryd o le a chof. Gweithia Meg gyda deunyddiau cynaliadwy a phalodd ei chlai ei hun ar y fferm i greu llestri gweadog, sy’n gwneud dolen deimladwy rhwng y darnau a’r lle.
Meddai Anna Lewis, darlithydd ar raglen Crefftau Dylunio’r Drindod Dewi Sant: “Mae arddangosfa New Designers yn blatfform ardderchog i’n graddedigion. Cyrhaeddodd Kate Scale y rhestr fer am y wobr Cydwybod Creadigol am yr effaith gymdeithasol orau, ac roedd myfyrwyr eraill yn brysur yn cwrdd ag orielau, y Wasg a chwmnïau dylunio i sicrhau cyfleoedd yn y dyfodol.
“Mae’r profiad o gwrdd â graddedigion eraill o bob rhan o’r DU i rwydweithio a chefnogi eich gilydd hefyd yn amhrisiadwy. Mae’n rhoi cyffro mawr i ni gyd weld pa gamau nesaf y bydd ein graddedigion yn eu cymryd.”
I gael rhagor o wybodaeth a lluniau o waith myfyrwyr anfonwch e-bost at Anna.lewis@utwsd.ac.uk, ac mae modd gweld y sioe ar-lein dros yr haf.
Bydd ail arddangosfa o waith gan fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn agor yn New Designers yr wythnos hon, 6-9 Gorffennaf, a bydd yn cynnwys myfyrwyr o gyrsiau Graffeg, Darlunio, Dylunio Cynnyrch a Dylunio Dodrefn.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078