Arian newydd ar gyfer prosiect ‘Teithwyr Chwilfrydig’
03.10.2022
Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn falch o gyhoeddi y bydd prosiect ymchwil newydd dan nawdd yr AHRC yn cychwyn y mis hwn (Hydref 2022).
‘Barmouth’ gan Moses Griffith (ca 1778) Llyfrgell Gendedlaethol Cymru
Bydd y prosiect cydweithredol hwn gyda Phrifysgol Glasgow a’r Natural History Museum, Llundain, yn creu golygiadau academaidd cyntaf o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban.
Prosiect yn torri tir newydd fydd ‘Teithwyr Chwilfrydig 2: Golygiadau Digidol o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a'r Alban’. Gan gyfuno golygu testunol traddodiadol â thechnegau newydd o’r dyniaethau digidol, dyma fydd y golygiadau ysgolheigaidd cyntaf o deithiau Thomas Pennant (1726–98), naturiaethwr a hynafiaethydd o Downing, sir y Fflint. Byddant ar gael ar lein i ddefnyddwyr o bob math.
Bydd cydweithrediad ag ystod eang o bartneriaid yn caniatáu inni gysylltu’r testunau hanesyddol â delweddau a gwybodaeth o lyfrgelloedd cenedlaethol Cymru a’r Alban, National Maritime Museum, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Historic Environment Scotland.
Meddai’r Athro Mary-Ann Constantine, arweinydd y prosiect: ‘Cafodd Teithiau Pennant ddylanwad mawr ar ddelweddu Cymru a'r Alban – dylanwad sy’n parhau hyd heddiw. Dyn ni’n falch iawn o gael cydweithio eto gyda’n partneriaid ym Mhrifysgol Glasgow, a braint yw gweithio gyda’r Natural History Museum i archwilio sut roedd diddordebau Pennant fel naturiaethwr wedi gyrru ei deithiau. Mae’n gyfle gwych i roi bywyd newydd i’r testunau cyfoethog ac amlhaenog hyn.’
Bydd tîm y Teithwyr Chwilfrydig hefyd yn cydweithio gydag ysgolion a chymunedau yn sir y Fflint ac Ynys Skye, ac yn cyd-drefnu arddangosfeydd â Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, a’r Gilbert White House yn Selbourne.
Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Teithwyr Chwilfrydig
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076