Arloesedd yn Abertawe: Adeiladu Dyfodol Disgleiriach
28.07.2022
Mae adeiladu dyfodol disgleiriach yn uchel ar yr agenda ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle bu digwyddiad dan arweiniad siaradwyr a gynhaliwyd ar y cyd â Ship Shape yn dathlu arloesedd yn Abertawe trwy rannu sgiliau ac arbenigedd entrepreneuraidd newydd busnes a'r byd academaidd.
Datblygwyd y digwyddiad Arloesi yn Abertawe: Adeiladu Dyfodol Disgleiriach, wedi ei drefnu gan Ship Shape a’r Athro Cyswllt entrepreneuriaeth y Brifysgol, Kathryn Penaluna, ar y cyd â Fintech Cymru, gyda'r nod o ddod â busnesau technoleg at ei gilydd a'r ecosystem sy'n tanio arloesedd.
Cyhoeddwyd partneriaeth gydweithredol rhwng Y Drindod Dewi Sant a Ship Shape i helpu Prifysgolion a diwydiant i nodi buddsoddwyr cyfalaf menter posibl yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yn 2021, a’r digwyddiad hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o fentrau sy'n ceisio cefnogi'r rhanbarth.
Meddai Daniel Sawko o Ship Shape: "Mae arloesedd yn rhan o DNA Abertawe. Mae dod â chwaraewyr allweddol at ei gilydd yn golygu rhagor o gyfleoedd i ddod o hyd i ffyrdd o wneud y deisen yn fwy a pharhau i gyflawni’n well na’n maint. Rydym yn gyffrous am ragor o ddigwyddiadau fel hyn ac mae'n ymddangos bod galw mawr amdano!"
Kathryn Penaluna: "I ddatblygu ein gallu ymhellach i fod yn eco-system i Gymru (a thu hwnt), mae'r Drindod Dewi Sant wedi buddsoddi mewn Ship Shape, y mae ei ddulliau chwilota yn dod o hyd i gyllidwyr ar gyfer sylfaenwyr busnes. Mae'n angen amlwg, a bydd yr arbenigedd yn gaffaeliad sylweddol i'n myfyrwyr a'n graddedigion. Mae pawb ar eu hennill yn y bartneriaeth hon. "
Wedi'i leoli yn HQ Urban Kitchen y ddinas a’i agor gan Ddirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes Y Drindod Dewi Sant, Barry Liles OBE, gan arddangos llwyddiant busnesau technoleg sydd â’u gwreiddiau yn Abertawe a helpu i arwain arloesedd yn y ddinas yn y dyfodol.
Rhannodd Matt Warren, Prif Swyddog Gweithredol Veeqo, Paul Dennis o Awen Collective, Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol Fintech Cymru, TJ Amas, Prif Swyddog Gweithredol Quoteonsite a Daniel Sawko, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Ship Shape o’u harbenigedd.
Cafwyd hefyd ganfyddiadau gan Steve Phillips o Community Bank, Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Richard Scott sylfaenydd busnes ConTech, Richard Harris - Pennaeth Masnach, Llywodraeth Cymru, ac Anthony Miles, Prif Swyddog Gweithredol DST Innovations.
Roedd y gwesteion yn cynnwys Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, Yr Athro Andrew Campbell, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorydd Economaidd Llywodraeth Cymru, Simon Ripton, arbenigwr arloesedd, Llywodraeth Cymru, a Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, David Hopkins.
Rhannodd y Brifysgol ei chynlluniau hefyd ar gyfer The Innovation Matrix - platfform newydd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ymchwil a gwybodaeth y Drindod Dewi Sant i gysylltu â mentrau rhynghwladol, busnesau bach a chanolig, micro-fentrau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr, eu cefnogi. Nod y Matrics Arloesi yw ysgogi twf masnachol ar gyfer economi Cymru sydd wedi ei grymuso'n ddigidol ac sy’n ehangu.
Mae gan Y Drindod Dewi Sant fri rhyngwladol am ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol ei myfyrwyr a graddedigion, mae sgiliau o'r fath wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn rhaglenni. Fis diwethaf, enwyd y Brifysgol yn Brifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn yn Seremoni Gwobrau E Driphlyg Ewrop 2022 yn Fflorens, yr Eidal.
Mae ffigurau'r llywodraeth yn cadarnhau'r llwyddiant a ddaw yn sgil hyn, gan fod y Brifysgol yn 2020-2021 wedi ei rhoi yn y safleoedd canlynol:
#1 yn y DU ar gyfer busnesau newydd sy'n dal i fod yn weithredol ar ôl 3 blynedd.
#1 yn y DU am gyfanswm y cwmnïau gweithredol.
Mae prifysgolion yn allweddol i economi sy'n ffynnu ar ôl Covid, ac mae'r Drindod Dewi Sant yn annog datblygiad dyfeisiadau a gwybodaeth newydd i ychwanegu gwerth masnachol, cymdeithasol, a diwylliannol at gymdeithas.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078