Arweinydd Menter y Drindod Dewi Sant yn derbyn gradd PhD
29.03.2022
Mae heddiw (29.03.2022) yn ddiwrnod arbennig i’r brifysgol gan fod un o’i staff yn graddio gyda PhD a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr.
Yn ystod ei hymchwil, canolbwyntiodd yr Athro Cyswllt Kathryn Penaluna ar y synergeddau rhwng addysg dylunio a dulliau gweithredu y profwyd eu bod yn cefnogi cyflogadwyedd myfyrwyr. Yn benodol, edrychodd ar y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y nifer cynyddol o fusnesau bach a bwrw ymlaen â mentrau newydd - boed yn rhai cymdeithasol, diwylliannol a/neu fasnachol.
‘Roedd adborth gan ein cyn-fyfyrwyr yn ganolog i’m hastudiaeth’, meddai Kath, ‘dim ond nhw all ddweud beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Roedd gan y myfyrwyr dylunio ddigonedd o bethau cadarnhaol i’w dweud, a gwnaethant fy helpu’n fawr i ddeall pam fod y ffordd y cawsant eu haddysgu wedi eu helpu cymaint.”
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi derbyn llawer o ganmoliaeth eisoes mewn cyflogadwyedd a menter, trwy’r safleoedd uchaf cyson yn nhablau cynghrair yn y DU. Kath sy’n cyfarwyddo ymchwil y Brifysgol yn y maes, gan arwain y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol a gydnabyddir yn rhyngwladol, felly mae derbyn cydnabyddiaeth ar lefel PhD yn ei hannog i wneud mwy.
‘Rydym yn 1af yn y DU ar gyfer busnesau newydd graddedigion sydd wedi rhedeg ers 3 blynedd neu fwy; mae'r arbenigedd rhyfeddol y mae ein cyn-fyfyrwyr wedi'i gyfrannu yn amhrisiadwy. Dyma’r prif reswm pam ein bod yn gweithio ar lefelau mor uchel, er enghraifft fel ymgynghorwyr i Ganolfan Ymchwil ar y Cyd y Cenhedloedd Unedig ac Ewrop.’
Nid yw’r galw am arbenigedd rhyngwladol Kath erioed wedi bod yn gryfach, ond ar fyfyrwyr y Brifysgol y mae hi’n canolbwyntio. Gan fod y gweithle yn mynnu hynny, mae cymorth cychwyn busnes ar gael i bob myfyriwr graddedig, gan gynnwys myfyrwyr yn y seremonïau yr wythnos hon. Efallai y byddant yn wynebu cyfleoedd gyrfa nad oeddent erioed wedi'u dychmygu, ac mae cyngor gan eu rhagflaenwyr yn rhoi mantais fawr iddynt.