Athrawes Sefydliad Confucius y Drindod Dewi Sant wedi ennill y brif wobr yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Addysgu Mandarin y DU


23.05.2022

Mae Ms Huang Wenyi, athrawes Tsieinëeg yn Sefydliad Confucius y Drindod Dewi Sant, a chynathrawes Dosbarth Confucius yn Ysgol Uwchradd Crucywel, wedi ennill y brif wobr yn rownd derfynol Pencampwriaeth Addysgu Mandarin y DU

Mandarin Teaching 1

Trefnwyd y Bencampwriaeth Addysgu gan y Ganolfan ar gyfer Addysg Iaith a Chydweithrediad (Centre for Language Education and Cooperation –  CLEC –  a elwid  Hanban gynt) ynghyd â’r Pwyllgor Prydeinig ar gyfer Profi’r Iaith Tsieinëeg (British Chinese Language Testing Committee) a’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Athrawon Iaith Tsieinëeg (British Chinese Language Teachers’ Association). Hon oedd y gystadleuaeth gyntaf o’i math i gael ei chynnal yn y wlad hon

Gwnaeth tua 100 o athrawon o’r 29 o Sefydliadau Confucius a geir yn y DU, gan gynnwys Sefydliadau Confucius a leolir ym Mhrifysgol Rhydychen, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol  South Bank Llundain, gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn 2021. Yn y rowndiau terfynol eleni, gwnaeth Huang Wenyi argraff ar y beirniaid gydag ansawdd ei haddysgu a chreadigrwydd ei 

hadnoddau addysgu ar-lein, ac o ganlyniad, o’r 19 a gyrhaeddodd y rownd derfynol, hi gafodd y sgôr uchaf.

Ar glywed dyfarniad y beirniad, meddai Huang Wenyi: “Rwyf wrth fy modd ar ennill prif wobr y gystadleuaeth hon ac yn falch i gynrychioli Sefydliad Confucius Py Drindod Dewi Sant. Hoffwn ddweud ‘diolch’ wrth fy nghydweithwyr am yr holl gefnogaeth y gwnaethant roi i mi.”

Cafodd y digwyddiad ei ddarlledu yn Tsieina gan Xinhua News Agency, Sina News a chyfryngau eraill.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â k.krajewska@uwtsd.ac.uk

UWTSD Confucius Institute teacher wins first prize in the UK Mandarin Teaching Championship finals

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076