Athrofa Confucius yn partneru â chymuned Tsieineaidd Abertawe i ddathlu Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieineaidd.
16.06.2022
Ddydd Sadwrn, 11 Mehefin roedd Theatr y Grand Abertawe yn llawn bwrlwm gyda channoedd o ymwelwyr yn bresennol ar gyfer Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieineaidd a drefnwyd ar y cyd gan Athrofa Confucius y Drindod Dewi Sant a Chymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru (CIWA). Daeth aelodau o’r cyhoedd a’u teuluoedd ynghyd i fwynhau rhaglen undydd o weithdai crefft ac ymarferion llesiant Tsieineaidd, a pherfformiadau dawns, caneuon a cherddoriaeth Tsieineaidd traddodiadol.
Hwn oedd y digwyddiad diwylliannol mawr cyntaf i’w gynnal gan Athrofa Confucius yn Abertawe ers cyn dechrau’r pandemig dair blynedd yn ôl. Yn ystod y seremoni agoriadol, soniodd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, am gysylltiadau hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol gyffredin pobl Tsieina a Chymru. Yn ei araith, diolchodd Mr Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Caerfyrddin a Llambed i Athrofa Confucius a Chymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru am eu hymdrechion i gefnogi’r gymuned leol sy’n dod dros effeithiau’r pandemig, ac am gynnig gweithgareddau llesiant Tsieineaidd traddodiadol i’r cyhoedd.
Thema’r digwyddiad oedd llesiant Tsieineaidd drwy ddiwylliant. Cafodd yr ymwelwyr gyfle i fwynhau persbectif newydd ar iechyd meddwl a llesiant drwy weithdai celf a cherddoriaeth Tsieineaidd megis “Caligraffi: Prydferthwch Llythrennau Tsieineaidd”, “Hyrwyddo cyfeillgarwch drwy gerddoriaeth: y Sither Tsieineaidd,” a “24 Tymor yr Haul a Gofal Iechyd”.
Roedd y digwyddiad yn ddathliad gwirioneddol gymunedol a rhyng-genedlaethau. Fel rhan o sioe ddiwylliant Tsieineaidd, perfformiodd myfyrwyr o ysgol uwchradd Bryn Tawe y ddawns bop “The Most Dazzling Chinese Style” a pherfformiodd disgyblion oed cynradd o Ysgol Tsieinëeg Athrofa Confucius ganeuon Tsieineaidd. Perfformiodd aelodau o Gymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru ddawns Tsieineaidd draddodiadol, a pherfformiodd myfyriwr o’r Academi Sinoleg (ar gampws Llambed y Drindod Dewi Sant) y darn i’r ffidil “Liang Zhu”. Yn ogystal â’r sioe ddiwylliant, cafwyd dwy ddarlith: “Menywod o Gymru yn Tsieina” a “Theithiau Treftadaeth Tsieineaidd”, gan alluogi rhyngweithio bywiog gyda’r gynulleidfa.
Dywedodd Lisa Liu, Cyfarwyddwr Tsieineaidd Athrofa Confucius: “Roedd yn bleser cwrdd â chynifer o aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiad. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn niwylliant Tsieina ac yn enwedig y modd y mae cymaint o gelfyddyd a diwylliant Tsieina yn hybu iechyd a llesiant. Yn ystod y cyfnod hwn o deithio cyfyngedig i Tsieina, roeddem hefyd yn gallu dangos rhai o drysorau twristiaeth Tsieina drwy sgyrsiau ac arddangosfa gan fod y digwyddiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Ganolfan Ddinesig Diwylliant a Thwristiaeth Beijing, a Chanolfan Ddinesig Diwylliant, Radio, Teledu a Thwristiaeth Hangzhou. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan gynifer o sefydliadau.”
Nodyn i'r Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â k.krajewska@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476