Blwyddyn y Teigr yn nodi lansiad Ailddatblygiad Heol San Helen yn Abertawe


26.01.2022

Er mwyn helpu i ddathlu Gŵyl Wanwyn Tsieina eleni, bydd Dawns Llew Blwyddyn Newydd Tsieineaidd yn gorymdeithio ar hyd Heol San Helen yn Abertawe.

To help celebrate this year’s Chinese Spring Festival a special Chinese New Year Lion Dance will process along Swansea’s St Helen’s Road.

Wedi’i noddi gan Sefydliad Confucius y Drindod Dewi Sant, bydd Dawns Llew y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn gwneud ei ffordd erbyn hanner dydd i dai ymddeol cymunedol Tsieineaidd Swan Gardens, gan ddod â bendithion ar gyfer 2022 newydd a llewyrchus.

Mae dathliad Gŵyl y Gwanwyn ar 1 Chwefror yn cyd-fynd â lansiad cynllun datblygu gwyrdd Heol San Helen gan gwmni a arweinir gan artistiaid a menter gymdeithasol: Ffyrdd o Weithio. Mae'r sefydliad yn cydweithio â busnesau a chyrff lleol eraill i ddod â lleisiau cymunedol i adfywiad Abertawe. Mae Dawns y Llew yn cynnig symbol bywiog o adnewyddu i’r stryd gyfan, gan ddod â gobaith o ddyfodol llawer mwy disglair ar ôl dwy flynedd o'r pandemig.

Mae'r digwyddiad yn arbennig o bwysig i drigolion Cartref Pobl Hŷn Swan Gardens - y mae llawer ohonynt wedi dioddef llawer iawn o unigrwydd yn ystod  cyfnodau hir y cyfnod clo cenedlaethol.Dywedodd Rheolwr Swan Gardens, Fun Wong: 'Rydyn ni mor falch o allu cynnal Dawns y Llew i nodi Gŵyl Wanwyn Tsieina. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i'r trigolion, ac maen nhw wedi gweld eisiau dathliadau arferol y flwyddyn new  ydd. Rydyn ni’n ddiolchgar i Athrofa Confucius am noddi'r grŵp dawns  er mwyn iddyn nhw allu dod â phelydryn o hapusrwydd y gwanwyn i bawb ar Heol San Helen.'

Bydd un o athrawon Athrofa Confucius, Tang Yuqi, wrth law yn  Heol San Helen i esbonio i'r cyhoedd  arwyddocâd Dawns y Llew a pham mae Gŵyl y Gwanwyn mor bwysig i bobl Tsieineaidd. Mae Tang Yuqi, neu Morwenna fel y'i gelwir dan ei henw Cymraeg yn credu'n angerddol ym mhwysigrwydd  cyfnewid diwylliannol rhwng traddodiadau a threftadaeth Cymru a Tsieina. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn iddi allu cyflwyno  elfennau  o iaith a diwylliant Cymru a Tsieina wrth addysgu, ac erbyn hyn mae hi’n medru’r iaith yn dda.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â Krystyna Krajewska  yn Y Drindod Dewi Sant, Sefydliad Confucius k.krajewska@pcydds.ac.uk 

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076