Bwrdd Hynafiaethau a Threftadaeth Gwladwriaeth (SBAH) Irac a'r Drindod Dewi Sant i Adsefydlu Caer Ddinesig Heet yn Anbar


08.06.2022

Mae Bwrdd Hynafiaethau a Threftadaeth Gwladwriaeth (SBAH) Irac ei fod yn partneru gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i astudio ac adsefydlu caer ddinesig hanesyddol Heet yn llywodraethiaeth Anbar mewn ymgynghoriaeth â’r teuluoedd sy’n byw ar y safle ac yn y gymuned leol ehangach.

Iraq’s State Board of Antiquities and Heritage (SBAH) announced today that it is partnering with University of Wales Trinity Saint David to study and rehabilitate the historic citadel of Heet in Anbar governorate in consultation with the families inhabiting the site and the wider local community.

Llun gan Yr Athro Andrew Petersen

Nod y prosiect yw clirio rhannau o’r safle, ei wneud yn fwy diogel ar gyfer trigolion y gymuned a gwarchod adeileddau ac adeiladau penodol. Yna bydd y prosiect yn datblygu cynllun cadwraeth a rheoli safle hir dymor i wneud y caer ddinesig yn addas ar gyfer ymwelwyr a thwristiaid gan godi ymwybyddiaeth o’i werth yn hanes y byd.

Heet yw un o ddinasoedd hanesyddol mwyaf arwyddocaol Irac, ac mae gwareiddiadau Swmeraidd, Asyriaidd, Babilonaidd a rhai diweddarach fel yr Abasiaid wedi’i anheddu. Yn enwog am gynhyrchu bitwmen, a ddefnyddiwyd i adeiladu sigwratau Babilon ac wrth adeiladu llongau, tystiwyd i bwysigrwydd Heet gan Sargon o Akkad, llywodraethwr cyntaf yr ymerodraeth a gofnodwyd mewn hanes, yn y 23ain ganrif CC. Caer ddinesig Heet yw un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn hanesyddol yn Irac, ynghyd â’r rhai yn Kirkuk ac Erbil, a gellir hefyd ei chymharu ag Aleppo, Syria.

“Mae’r bygythiadau parhaus i Gaer ddinesig Heet yn cynnwys cyfuniad o esgeuluso, datblygu anrheoleiddiedig, lledaenu trefol a chanlyniadau gwrthdaro arfog, yn cynnwys meddiannaeth gan Islamic State”, esbonia'r Athro Andrew Petersen, archeolegydd o'r Drindod Dewi Sant, a fydd yn arwain y tîm rhyngwladol sy’n gweithio ar y gaer ddinesig. “Byd y gwaith yn cynnwys clirio rwbel o ardaloedd dethol a chofnodi canfyddiadau archeolegol, yna tirlunio’r ardaloedd hynny, adeiladu rhodfeydd, gosod goleuadau a sefydlogi adeileddau sydd wedi’u difrodi”.

Mae degau o deuluoedd yn berchen ar gartrefi ar y safle, a allai cymhlethu’r ymdrechion hyn a bydd angen eu mewnbwn ar bob cam o’r broses. “Gan ymgynghori’n agos â’r gymuned leol, yn arbennig merched lleol, bydd y prosiect yn datblygu cynllun cadwraeth a rheoli safle hir dymor i hwyluso ei amddiffyn yn yr hir dymor, gan alluogi’r gymuned i barhau i fyw a gweithio yna a chefnogi twristiaeth”, medd Petersen.

Trwy ddod at ei gilydd ar gyfer yr ymdrech hwn, mae SBAH, Prifysgol Cymru a Liwan yn dangos gwerth cydweithio a rhannu profiadau ym maes cadwraeth dreftadaeth, gydag ymagwedd arloesol sy’n dibynnu ar gynnwys y gymuned leol, yn arbennig merched.

Yn ôl y pensaer Dr Hossam Mahdy, sy’n gyfrifol am reoli safle a chadwraeth caer ddinesig Heet, “trwy gadw at yr arferion rhyngwladol gorau, efallai bydd adsefydlu’r gaer ddinesig yn Heet yn gallu bod yn astudiaeth achos ar gyfer prosiectau SBAH eraill yn Irac yn y dyfodol gan gyfuno cloddio archeolegol ag allgymorth cymunedol a rheoli cadwraeth”.

Wedi’i drefnu i bara am 24 mis, cefnogir y prosiect gan y Gynghrair Ryngwladol ar gyfer Amddiffyn Treftadaeth mewn Ardaloedd o Wrthdaro (Sefydliad ALIPH) sydd wedi’i leoli yng Ngenefa, gyda’r corff anllywodraethol treftadaeth Iracaidd ‘Liwan Organisation for Culture and Development’ yn gweithredu fel y partner gweithredol.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076