Canmoliaeth i fyfyriwr graddedig Plismona a Throseddeg
31.03.2022
Graddiodd Callum Samuel o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yr wythnos hon gyda BSc mewn Plismona a Throseddeg a derbyniodd y clod ychwanegol o gael canmoliaeth am ei draethawd hir israddedig.
Dywedodd Callum “Rwy’n falch iawn o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni dros y pedair blynedd diwethaf. Mae’n arbennig iawn gan fy mod wedi derbyn canmoliaeth am fy nhraethawd hir am ennill y marc uchaf yn y flwyddyn”.
Roedd ei draethawd hir yn archwilio ffactorau yn ymwneud ag a oedd y boblogaeth myfyrwyr yn fwy agored i radicaleiddio ai peidio. Roedd ei waith ymchwil yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth o rôl y rhyngrwyd mewn terfysgaeth fodern, yn ogystal â chyfweliadau â chyn swyddogion yr heddlu gwrthderfysgaeth a’r rhai sy’n gwasanaethu yn y maes, academyddion a myfyrwyr.
Dywedodd Callum, sy’n hanu o Lanelli: “Fy hoff fodiwlau oedd gwrthderfysgaeth a fy nhraethawd hir yn edrych i mewn i ddylanwadau posibl ar gyfer radicaleiddio’r gymuned myfyrwyr. Deuthum i'r casgliad bod pedwar ffactor posibl o'u cyfuno a allai ysgogi meddwl radical, sef iechyd meddwl gwael, mynediad i'r rhyngrwyd, ieuenctid, yn ogystal â byw oddi cartref. Rwy’n ddiolchgar iawn i fy nhiwtor Wynne Jones am fy argymell am ganmoliaeth”.
Ar hyn o bryd mae’n astudio’r radd meistr mewn Cyfiawnder Troseddol a Phlismona ac ar ôl hynny mae’n gobeithio ymuno â Heddlu Dyfed Powys a’i fwriad yw cael gyrfa fel ditectif.
Dywedodd Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas PCYDDS: “Bu Callum yn gweithio’n galed yn gyson trwy gydol tair blynedd ei radd israddedig ac roedd yn llwyr haeddu ei ganmoliaeth. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi dewis aros ymlaen gyda ni i gwblhau ei radd Meistr. Rydym yn falch o Callum ac yn dymuno’r gorau iddo ar gyfer yr hyn a fydd, yn sicr, yn yrfa lwyddiannus yn yr Heddlu”.