Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i gynnal Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams
07.11.2022
Bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cynnal Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams ar nos Fercher, 9 Tachwedd.
Yr Athro Barry Lewis o'r Dublin Institute for Advanced Studies (DIAS).
Sefydlwyd y Ddarlith Goffa hon yn 2001 er cof am y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams a’r diweddar Mrs Gwen Williams.
Y siaradwr gwadd eleni yw’r Athro Barry Lewis o'r Dublin Institute for Advanced Studies (DIAS). Astudiodd yr Athro Lewis Ieithoedd Modern a Chanoloesol ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn gwneud gradd Meistr yno yn Adran ASNC ym 1998–9. Rhwng 1999 a 2004 bu’n fyfyriwr doethurol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 2001 fe’i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Tra yno, gweithiodd ar dri phrosiect: ‘Beirdd yr Uchelwyr’, ‘Guto'r Glyn’ a ‘Chwlt y Seintiau yng Nghymru: Ffynonellau a Chyd-destunau’. Ymunodd ag Ysgol Astudiaethau Celtaidd DIAS ym mis Tachwedd 2014.
Testun y ddarlith fydd, ‘O vitae sanctorum i gywyddau’r saint’. Canwyd llawer o gerddi Cymraeg i anrhydeddu seintiau yn ystod canrif neu ganrif a hanner olaf yr Oesoedd Canol. Er bod hwn yn ymddangos fel petai’n fath newydd o ganu sy’n dod i’r amlwg gyntaf yng ngwaith Iolo Goch, ni thyfodd allan o wagle. Y tu ôl i’r cerddi hyn roedd corff helaeth o fucheddau Lladin, y vitae sanctorum. Mae rhai o’r vitae hyn wedi goroesi hyd heddiw, ond gwyddom fod llawer mwy ohonynt gynt: anrhydeddwyd canran dda o seintiau Cymru, fel yn achos seintiau gweddill byd Cred, â buchedd neu o leiaf â darlleniadau litwrgïol. Yn y ddarlith hon trafodir sut yr aeth y beirdd ati i greu cyfrwng newydd i gyfarch eu nawddseintiau lleol, gan dynnu ar y traddodiad Lladin hŷn, gan ateb anghenion cynulleidfa pur wahanol.
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Rydym yn hynod falch o groesawu’r Athro Barry Lewis yn ôl i’r Ganolfan i draddodi’r ddarlith hon eleni. Mae’r Athro Lewis yn ysgolhaig dawnus ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad.’
Cynhelir y ddarlith ar lein nos Fercher, 9 Tachwedd 2022, am 5.00 o’r gloch. E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i dderbyn y ddolen Zoom.
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/
Gwybodaeth Bellach
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076