Coleg Celf Abertawe ac orielau lleol yn cydweithio i gynnal arddangosfa aml-leoliad sy’n dathlu creadigedd yn y ddinas


20.09.2022

Gwnaiff arddangosfa gelf aml-leoliad a chydweithrediad rhwng Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Oriel Glynn Vivian, Artistiaid GS, Oriel Mission ac Oriel Elysium agor gyda digwyddiad lansio ar Fedi 24ain ar draws canol dinas Abertawe.

A black and white image of artists working together on large paintings on a wall

Gwnaiff yr arddangosfa arbennig hon ar draws lleoliadau gwahanol ddod â gorffennol a phresennol cymuned greadigol Abertawe ynghyd, gan gydnabod y cydweithrediadau pwysig rhwng sefydliadau celf lleol sydd wedi digwydd dros y degawdau a’r canrifoedd diwethaf.

Yn cynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol PCYDDS, ynghyd ag artistiaid lleol, yn ogystal â deunydd archifau a chyfweliadau, mae’r digwyddiad yn dathlu blwyddyn ddaucanmlynyddol PCYDDS o Addysg Uwch yng Nghymru a’r rôl annatod y mae addysg gelf gan Goleg Celf Abertawe wedi’i chwarae o ran cymuned ddiwylliannol a hunaniaeth y ddinas.

Ar ddydd Sadwrn Medi 24ain, fe fydd hwnt-agoriad i bob un o’r lleoliadau er mwyn bod ymwelwyr yn gallu mynychu’r lansiad ym mhob lleoliad yn olynol a heb frys. Mae’r amseroedd fel a ganlyn:

Stiwdio Griffith, Coleg Celf Abertawe, Campws Dinefwr, 2-4pm

Oriel Glynn Vivian, 4-6pm

Oriel Mission, 4-6pm

Artistiaid GS, 5-7pm

Oriel Elysium, 7-9pm

Mae Katherine Clewett ac Alex Duncan, darlithwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, wedi chwarae rhan gyfrannol yn y cysylltiad. Medd Clewett: “Mae PCYDDS yn dathlu ei daucanmlwyddiant drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y ddinas. Mae’n gydweithrediad o ddwyochredd a haelioni a rennir rhwng Coleg Celf Abertawe ac orielau lleol sy’n dangos haenau sîn gelf fywiog Abertawe. 

Ychwanega Alex Duncan: “Mae’r Oriel Mission, yr Oriel Elysium, yr Oriel Glynn Vivian a’r Stiwdios GS, pob un ohonynt, wedi cynorthwyo myfyrwyr mewn llawer o ffyrdd ac wedi deall bod ysgolion celf yn darparu lle i holi, i ddadlau ac i gydweithio. Mae’n fan lle mae gweithiau sydd ar hanner yn cael cyfle  i aros a chael eu hystyried, yn hytrach na bod pobl yn brysio heibio nhw. Safle lle gall dysgu ac arbrofi ymarferol ffynnu.   

“Nid dathliad o Goleg Celf Abertawe fel rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn unig yw hwn, ond mae hefyd yn gydnabyddiaeth o werth a pherthnasedd cyfredol ysgolion celf ar draws y DU, lle mewn rhai achosion, mae eu bodolaeth dan fygythiad.”

Gwnaiff yr arddangosfa barhau ar agor tan Dachwedd 5ed a dylai ymwelwyr wirio amser agor pob lleoliad unigol bob dydd, ac eithrio pan fydd yr amserlen uchod yn gymwys. Mae croeso i bob ymwelydd, ac fe fydd lluniaeth ar gael ar eu cyfer.   

Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf  Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ddarparwr blaenllaw yng Nghymru a’r DU o gyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, ac mae wedi dod yn 3ydd yn y DU am Ddylunio a Chrefft, 5ed yn y DU am Gelf, a 9fed yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078