Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn arddangos talent fel rhan o’r Prosiect byd-eang ‘Without Borders’
18.03.2022
Mae staff a myfyrwyr Coleg Celf Abertawe PCYDDS ymhlith 300 o gyfranogwyr sy’n gysylltiedig ag 21 o grwpiau ar draws y byd sydd wedi cyfrannu at brosiect celf byd-eang newydd. Mae ‘Without Borders’ wedi ceisio diddymu ffiniau, creu cynghreiriau a chysylltu â chymdogion gyda’r bwriad o ddod a phobl greadigol ynghyd er mwyn cydweithio ar arddangosfa deithiol ryngwladol o weithiau ar bapur – casgliad o dudalennau gan artistiaid.
Mae Without Borders wedi’i guradu gan Jonathan Powell, Cyfarwyddwr Oriel yr Elysium, a Heather Parnell, artist, a chyd-olygydd 1SSUE. Mae’r arddangosfa hon o weithiau celf bellach wedi gwneud ei ffordd o Kyoto i Nagoya yn Japan ar ran nesaf ei thaith o gwmpas y byd.
Ar ddiwedd yr arddangosfa hon, caiff y tudalennau hyn eu casglu at ei gilydd a’u hanfon ymlaen i leoliad arall er mwyn cael eu datgysylltu, eu harddangos ac yna, eu hail-gydosod cyn symud eto i’r lleoliad nesaf. Gwnaiff yr arddangosfa deithio ledled y byd, ac ar ddiwedd y daith, caiff y llyfr ei roi mewn llyfrgell o gasgliadau arbennig. Gallwch hefyd gael at y tudalennau yma.
Meddai Katherine Clewett, Cyfarwyddwr Rhaglen Sylfaen Tyst. AU Celf a Dylunio PCYDDS: “Rwyf wrth fy modd wrth weld bod yr arddangosfa erbyn hyn wedi cyrraedd ei chyfnod nesaf. Mae ‘Without Borders' yn cynnwys gwaith gan aelodau staff a myfyrwyr Coleg Celf Abertawe mewn cydweithrediad ag Oriel Gelf yr Elysium.
“Mae hwn yn brosiect digidol ac yn arddangosfa ffisegol sy’n esblygu gyda’r bwriad o ddod â chymunedau ac artistiaid ynghyd o bob rhan o’r byd.
“Mae teitl yr arddangosfa yn ategu syniadau a safbwyntiau ynglŷn â ffiniau gwleidyddol-gymdeithasol cyfredol. Roedd y prosiect yn gyfle i fyfyrwyr a staff adfyfyrio ar gysylltiadau cyfyng a chwilio am ymatebion cyfunol.
“Mae cyfranwyr Coleg Celf Abertawe yn cynnwys myfyrwyr a staff y cyrsiau Sylfaen, Gradd a MA, ac maent yn arddangos gwaith mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys arlunio, paentio, ffotograffio a gwnïo.
“Rydym unwaith eto yn ddiolchgar i Jonathan yn Oriel Gelf yr Elysium am ein gwahodd ni i gyfrannu at yr arddangosfa amserol hon ac am weithio gyda ni wrth i ni ei dilyn o gwmpas y byd.”
Meddai Jonathan Powell: “Diolch yn fawr i Izuru Mizutani – Cyfarwyddwr Canolfan Celf a Meddwl Nagoya am gynnal yr arddangosfa uchelgeisiol hon. Hefyd, diolch yn fawr i Masahiro Kawanaka ac Art Spot Korin, Kyoto am ein croesawu ni yn flaenorol.”
Meddai’r artist a’r trefnydd prosiect Heather Parnell: “Mae’r arddangosfa hon, a’r hyn y mae hi’n ei gynrychioli, wedi dod yn fwy arwyddocaol nag erioed. Mae’r rhyddid i gysylltu â, ac i rannu gyda’n cymdogion, heb unrhyw rwystrau, ac mewn heddwch, yn sylfaenol i lwyddiant dynolryw.”
Mewn ymateb i’r argyfwng sy’n datblygu yn Wcráin, caiff cornel ‘Gweddi am Heddwch’ arbennig ei osod yn Oriel yr Elysium, lle gall artistiaid fynegi eu bwriad i weddïo am ddiogelwch pobl Wcráin.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk