Croesawu Athro Preswyl cyntaf Cymrodoriaeth Etxepare Alan R. King
10.10.2022
Dr Imanol Larrea Mendizabal o sefydliad Soziolinguistika Klusterra fydd Athro Preswyl cyntaf Cymrodoriaeth Etxepare Alan R. King yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Mae’r Gymrodoriaeth, a enwir ar ôl yr ieithydd nodedig, y diweddar Dr Alan R. King, yn gyfle i ysgolhaig o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio a chyfrannu at addysgu a chyfnewid gwybodaeth ym meysydd sosioiethyddol a pholisi cynllunio iaith.
Bydd Imanol Larrea yn treulio chwe wythnos yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Tra yn y Ganolfan bydd Imanol Larrea yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymchwil yn ymwneud â sosioieithyddiaeth a’r iaith Fasgeg.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
“Mae’n fraint aruthrol cael cydweithio gyda Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg i greu’r Gadair Breswyl hon ym maes Sosioieithyddiaeth ac er cof am Dr Alan R King a’r cyfraniad nodedig a wnaeth i’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg ac i gynaliadwyedd ieithyddol ar draws y byd. Mae sefydlu'r Gadair hon yn creu’r sefydlogrwydd strategol yr oedd ei angen ar gyfer y cydweithio academaidd ym maes sosioieithyddiaeth, polisi iaith a chynllunio rhwng Cymru a Gwlad y Basg. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at sicrhau dyfodol amrywiaeth ieithyddol a’r prosesau adfywio ieithyddol sydd yn ein gwledydd.”
Meddai Dr Imanol Larrea, deiliad cyntaf y Gadair Breswyl, “Mae ymchwil yn hanfodol ar gyfer adfywio ein hieithoedd. Mae angen ymchwil gymhwysol, gan weithio o’r gwaelod i fyny gyda’r cymunedau a’r asiantaethau sy’n cefnogi’r iaith leiafrifol. Yn ogystal â dadansoddi a deall sefyllfa’r iaith, mae angen methodolegau priodol er mwyn gallu gwella’r sefyllfa honno mewn ffordd effeithiol. I ni yn Soziolinguistika Klusterra mae’n hollbwysig gallu cyfnewid profiadau rhwng cymunedau ieithyddol Cymru a Gwlad y Basg oherwydd mewn sawl ffordd yr ydym mewn sefyllfaoedd digon tebyg. Mae Cadair Alan R. King yn rhoi cyfle gwych i’r cyfnewid hwnnw ddod yn real.”
Meddai Irene Larraza, Cyfarwyddwr Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg: “Ni fuasai adfywio’r iaith Fasgeg wedi bod yn bosibl heb gyfranogiad allweddol gan sefydliadau a’r gymdeithas sifil. Yn yr un modd, ni fyddai gwybodaeth o’r iaith Fasgeg a’i chyd-destun wedi bod mor eang heb waith ymchwilwyr ac arbenigwyr tramor blaenllaw fel Alan R. King. Mae’n amhosib i ddiwylliant Gwlad y Basg gyrraedd pedwar ban byd heb gydweithio â'r Basgwyr oddi cartref, ein diaspora, artistiaid Basgaidd, prifysgolion rhyngwladol a sefydliadau diwylliannol o bob rhan o’r byd. Yr ysbryd hwn sydd wedi dod â ni yma a dyna pam heddiw yr hoffwn fynegi fy niolch mwyaf diffuant i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, am bartneriaeth ac am gyfeillgarwch wrth gyrraedd y nod.”
Meddai Garbiñe Iztueta, Cyfarwyddwr Hyrwyddo a Lledaenu’r Iaith Fasgeg: “Wrth agor Cadair Alan R. King, roedd y Brifysgol a Sefydliad Etxepare eisiau gosod sylfaen gadarn i’r Gadair newydd hon mewn Sosioieithyddiaeth. Dyna pam y byddwn ni’n canolbwyntio ar broses adfywio’r Fasgeg gan rannu’r heriau pwysicaf sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg a Basgeg heddiw. Bydd y ddarlith agoriadol gan Dr Imanol Larrea, Cyfarwyddwr Soziolinguistika Klusterra, yn gosod y sylfaen hon yn gadarn ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn falch iawn o’r cydweithrediad arbennig hwn gyda Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Mae Cymrodoriaeth Alan R. King yn gyfle gwych i ysgolheigion o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio, i gyfrannu at ein rhaglenni dysgu ac i gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus a phroffesiynol ym maes sosioieithyddiaeth, polisi a chynllunio iaith. Mae hwn yn gam pwysig iawn i’r Brifysgol ac i Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Dyma’r unig Gadair a noddir gan Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg mewn polisi a chynllunio iaith, ac fe wyddom mor bwysig yw’r maes hwn i Gymru ac i Wlad y Basg fel ei gilydd. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddarlith Dr Imanol Larrea yn ogystal ag at y rhaglen lawn o weithgaredd sydd ganddo ar gyfer ei gyfnod gyda ni.”
Mae gan Imanol Larrea raglen amrywiol fel rhan o’i gyfnod fel Athro Preswyl yng Nghymru.
Y digwyddiad cyntaf fydd darlith gan Dr Imanol Larrea yn dwyn y teitl “Hizkuntza ohiturak aldatzeko ikerketa soziolinguisikoa Euskal Herrian: hainbat esperientzia”/ Ymchwil Sosioieithyddol a newid arferion iaith: profiad Gwlad y Basg. Cynhelir y ddarlith nos Iau, 13 Hydref 2022, am 5.00 o’r gloch yn fyw yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein drwy Zoom. Darlith mewn Basgeg fydd hon gyda chyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg gan Begotxu Olaizola, a urddwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Wisg Las am ei chyfraniad wrth gysylltu Cymru a Gwlad y Basg.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd paned am 4:15yh. Anfonwch RSVP at canolfan@cymru.ac.uk.
Os ydych am ymuno arlein e-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i dderbyn y ddolen Zoom.
Yn dilyn y ddarlith, cynhelir derbyniad a digwyddiad diwylliannol yn Ystafell y Cyngor (ond nid ar lein) yng nghwmni Ned Thomas a beirdd o Gymru a Gwlad y Basg – Y Prifeirdd Ifor ap Glyn ac Aneirin Karadog, Beatriz Chivite a Juan Kruz Igerabide. Cychwynir am 6.15yh a gorffen am 8yh. Anfonwch RSVP at canolfan@cymru.ac.uk.
Yn ystod yr ymweliad bydd Imanol Larrea hefyd yn cynnal Gweithdy yn dilyn ymhellach ar thema’r ddarlith. Cynhelir y Gweithdy ar 28 Hydref 2-4.30pm. Manylion pellach gan nld@cymru.ac.uk. Bydd hefyd yn cynnig seminarau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar gyrsiau amrywiol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn ogystal, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, bydd yn cynnig gwersi Basgeg ar gyfer tiwtoriaid y Gymraeg.
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan 07590 428404. elin.jones@pcydds.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Ymysg y meysydd ymchwil mae Ieithoedd Celtaidd Cynnar, Hagiograffeg, Llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, Rhamantiaeth a’r Ymoleuo yng Nghymru ac Ewrop, Enwau Lleoedd yng Nghymru a Phrydain, Geiriadureg. Cyfieithu llenyddol, Sosioieithyddiaeth Gyfoes a Pholisi a Cynllunio Iaith mewn Ieithoedd Lleiafrifedig. Dyma gartref Geiriadur Prifysgol Cymru a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.
2. Mae Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn hyrwyddo cydweithio ym meysydd diwylliant a'r byd academaidd gyda phartneriaid rhyngwladol (prifysgolion, endidau diwylliannol, gwyliau, canolfannau celfyddydol, ac ati), i gynyddu presenoldeb a gwelededd rhyngwladol yr iaith Basgeg a chreadigrwydd cyfoes Gwlad y Basg ac i hyrwyddo cydweithredu a chyfnewid rhyngwladol.
3. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg i greu Cadair mewn Sosioieithyddiaeth a’i henwi ar ôl yr ieithydd nodedig Dr Alan R. King yn 2022. Mae’n rhaglen flynyddol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn y maes blaenoriaeth hwn gan y ddwy wlad. Mae Cadair Alan R. King yn un o ddeg o gadeiriau a gefnogir gan Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg mewn prifysgolion ar draws y byd, a hon yw’r unig un ym maes polisi a chynllunio iaith.
4. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.
Gwybodaeth Bellach
For more information please contact Arwel Lloyd, Principal PR and Communications Officer, on 01267 676663 / arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk