Cwrs Tsieinëeg cyntaf Cymru ar gyfer oedolion i’w addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
10.02.2022
I siaradwyr Cymraeg sydd wedi cael awydd erioed i ddysgu Tsieinëeg erioed ond heb lwyddo i ddod o hyd i gwrs a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma’ch cyfle chi i wneud hynny o’r diwedd.
Morwenna Tang, Tiwtor y Cwrs
Mae Athrofa Confucius wedi datblygu cwrs sgwrsio 10 wythnos newydd sbon sy'n mynd â dysgwyr ar daith rithwir o amgylch Tsieina, ac sydd wedi ei addysgu gan diwtor rhugl ei Chymraeg, Morwenna Tang. O gysur eu soffa eu hunain, caiff dysgwyr eu cyflwyno i'r holl iaith Tsieinëeg sylfaenol sydd ei hangen ar gyfer taith i Tsieina, o gynllunio'r daith drwodd i lanio yn Beijing, teithio i safleoedd eiconig, siopa, a sgwrsio â phobl leol.
Mae'r cwrs yn gwneud dysgu Tsieinëeg yn hawdd gyda'r dull addysgu arbennig a ddatblygwyd gan Athrofa Confucius, gan ddefnyddio patrymau brawddegau â chod lliw a chanllawiau ynganu. Gan ganolbwyntio ar Tsieinëeg llafar, mae'r cwrs yn cwmpasu'r holl sefyllfaoedd bob dydd hanfodol a wynebir gan deithwyr i Tsieina. Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd gan ddysgwyr yr holl hyder y mae arnynt ei angen i gyfathrebu pan fyddant yn teithio i Tsieina.
Meddai Tiwtor Tsieineaidd Athrofa Confucius, Morwenna Tang: 'Nǐhǎo a chroeso i'm mamwlad Tsieina. Rwyf wrth fy modd yn cael bod yn dywysydd ar y daith rithwir 10 diwrnod hon. Mae Tsieina'n enwog am ei Mur Mawr, ei megaddinasoedd sy'n newid ar gyflymder gwyllt, ac wrth gwrs ei thrysor cenedlaethol, sef yr hen bandas hoffus. Bydda i’n eich helpu chi i lywio'ch ffordd o gwmpas y wlad gymhleth ac amrywiol hon wrth i chi ddysgu ymadroddion ymarferol wrth fynd ymlaen.'
Mae Tsieinëeg Goroesi yn berffaith i unrhyw un nad oes ganddo fawr ddim gwybodaeth flaenorol am iaith a diwylliant Tsieina. Mae'n sylfaen hanfodol i unrhyw un sy'n bwriadu teithio i Tsieina ar gyfer hamdden, astudiaethau neu waith, neu sy'n awyddus i ddysgu am iaith a diwylliant Tsieina.
Mae'r cwrs hefyd ar gael drwy gyfrwng y Saesneg. Addysgir fersiwn cyfrwng Cymraeg y cwrs ar-lein, rhwng 17:30 a 19:00 gan ddechrau ar 1 Mawrth 2022, a dysgir y fersiwn Saesneg yn bersonol rhwng 14:00 a 15:30 gan ddechrau ar 2 Mawrth 2022 yng Nghanolfan Busnes a Diwylliant Tsieina Athrofa Confucius, 5ed Llawr, Ysgol Fusnes Abertawe Y Drindod Dewi Sant, Stryd Fawr, Abertawe SN1 1NE.
I gael rhagor o fanylion a chofrestru, ewch i wefan Athrofa Confucius https://www.uwtsd.ac.uk/confucius-institute/courses/
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Krystyna Krajewska k.krajewska@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076