Cyfarwyddwr Sefydliad Heddwch Byd-eang Y Drindod Dewi Sant yn ennill Gwobr Heddwch Schengen a Gwobr Heddwch Lwcsembwrg
21.06.2022
Mae Scherto Gill, Athro Ymchwil a Chyfarwyddwr Sefydliad Byd-eang y Ddynoliaeth dros Heddwch, wedi ennill Gwobr Heddwch Sefydliad Heddwch Schengen a Lwcsembwrg.
Mae'r Athro Gill yn derbyn gwobr Heddwch Mewnol Eithriadol 2022 am "ei hymdrechion a'i mentrau amlwg i hyrwyddo heddwch" mewn seremoni a gynhelir yn yr Adeilad Schuman hanesyddol yn Lwcsembwrg ddydd Gwener, 17 Mehefin.
Scherto Gill yw Cyfarwyddwr Menter UNESCO ar Iachâd ar y Cyd, Cyfiawnder Cymdeithasol a Lles Byd-eang ac mae hefyd yn Uwch Gymrawd yn Sefydliad Heddwch Guerrand-Hermès, yn aelod o fwrdd Fforwm Ysbryd y Ddynoliaeth, ac mae'n Ymddiriedolwr Fforwm Codi Heddwch Byd-eang.
Mae'n aelod o fwrdd golygyddol nifer o gyfnodolion, gan gynnwys International Journal for the Study of Spirituality. Mae'n cadeirio Gweithgor Addysg Fforwm Rhyng-ffydd y G20 ac mae'n Gymrawd Oes Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA).
Wrth dderbyn ei gwobr, meddai Scherto: "Mae'n ennill Gwobr Heddwch Lwcsembwrg 2022 yn anrhydedd enfawr. Mae’n gydnabyddiaeth o'r gwaith pwysig y mae Sefydliad Byd-eang y Ddynoliaeth dros Heddwch Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn ei wneud."
Yn ymchwilydd, mae diddordebau Scherto yn canolbwyntio ar ddeall heddwch, llesiant dynol a ffyniant byd-eang yn brosesau deinamig. Ymhlith y cysyniadau allweddol y mae'n eu datblygu gyda chydweithwyr, mae heddwch cadarnhaol, addysg sy'n canolbwyntio ar bobl, gwerthuso perthynol mewn addysg, llesiant cyfannol, deialog dwfn, gwella ar y cyd, a llywodraethu cydweithredol. Mae Scherto wedi bod wrthi'n archwilio ffyrdd o gymhwyso'r syniadau hyn mewn adeiladu heddwch, arloesi addysgol, adfywio cymunedol, a thrawsnewid cymdeithasol.
Mae Scherto wedi cyhoeddi'n helaeth ym meysydd addysg, lles a heddwch, gan gynnwys Lest We Lose Love (sydd i ddod, Gwasg Anthem) Beyond the Tyranny of Testing: Relational Evaluation in Education (Gwasg Prifysgol Rhydychen), Ethical Education: Towards An Ecology of Human Development (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), Happiness, Flourishing and the Good Life: A Transformative Vision for Human Well-Being (Routledge), a Understanding Peace Holistically (Peter Lang).
Am y degfed flwyddyn yn olynol, mae Sefydliad Heddwch Schengen a Fforwm Heddwch y Byd wedi dyfarnu Gwobr Heddwch Lwcsembwrg i heddychwyr a gweithredwyr heddwch eithriadol. Maer wobr yn cyd-fynd ag ymdrechion Sefydliad Heddwch Schengen, a sefydlwyd yn 2005, ac a gymeradwywyd yn 2007 gan Ei Uchelder Brenhinol Archddug Henri, ym Melin Drafod, Heddwch sy'n cefnogi’r gwaith o adeiladu heddwch.
Yn ‘Ysbryd Schengen,' cychwynnodd Sefydliad Heddwch Schengen Fforwm Heddwch y Byd, llwyfan byd-eang ar gyfer gweithredwyr heddwch a mentrau heddwch. Mae digwyddiad amlddisgyblaethol blynyddol Fforwm Heddwch y Byd yn cysylltu gweithredwyr heddwch o bob cwr o'r byd i gyfarfod, cyfnewid syniadau a gyda'i gilydd i gael rhagor o effaith.
Yn 2012, cyflwynwyd Gwobr Heddwch Lwcsembwrg am y tro cyntaf yn wobr i heddychwyr eithriadol. Yn gyntaf, cafodd enillwyr fedal efydd a oedd â darlun o Nelson Mandela. Er 2017, mae enillwyr yn derbyn cerflun o gadair deircoes gan yr artist o Columbia, Duvan Lopez, a phedwaredd goes y gadair hon wrth y bwrdd i adeiladu heddwch ydym ni.
Mae Sefydliad Heddwch Schengen a Fforwm Heddwch y Byd wedi cyflwyno Gwobr Heddwch Lwcsembwrg yn flynyddol er 2012. Dyfernir rhwng 8 a 13 o wobrau bob blwyddyn i sefydliadau ac unigolion mewn categorïau sy'n amrywio o weithredwyr heddwch i heddwch amgylcheddol.
2022 Categorïau/ Enillwyr Gwobr Heddwch Lwcsembwrg
Gweithredwyr Heddwch Eithriadol - Dr Kevin Clements ac Aminatou Haidar
Addysg Heddwch Eithriadol - Addysg Gaia
Ymdrechion Heddwch Eithriadol - Dinas Barcelona
Technoleg Heddwch Eithriadol - Frances Haugen
Heddychwr Ieuenctid Eithriadol - Nicolas Maggi Berrueta
Cymorth Heddwch Eithriadol - Dominicus Rohde
Heddwch Mewnol Eithriadol - Yr Athro Scherto Gill
Chwaraeon Eithriadol dros Heddwch - Sefydliad Barca
I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Heddwch Lwcsembwrg, Fforwm Heddwch y Byd, neu Sefydliad Heddwch Schengen, ewch i www.LuxembourgPeacePrize.org a http://worldpeaceforum.org