Cyfarwyddwr wedi'i benodi i arwain yr Academi Chwaraeon newydd
16.06.2022
Mae Lee Tregoning wedi’i benodi’n gyfarwyddwr newydd Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Nod yr Academi, sydd newydd ei sefydlu, yw cefnogi myfyrwyr sy'n ymwneud â chwaraeon perfformiad uchel i gynnal a datblygu eu perfformiad.
Bydd Lee yn gweithio ochr yn ochr ag Undeb y Myfyrwyr a thîm chwaraeon, iechyd a ffitrwydd Y Brifysgol i ddarparu rhaglen o weithgareddau i helpu myfyrwyr i gyflawni eu nodau chwaraeon. Bydd y rhain yn cynnwys hyfforddi technegol a sgiliau, cryfder a chyflyru, maeth a diet, therapi chwaraeon yn ogystal â rheoli ffordd o fyw.
Bydd yr Academi yn galluogi myfyrwyr o bob rhan o gampysau a rhaglenni’r Brifysgol yng Nghymru i gael mynediad i gyfleusterau arbenigol y Brifysgol, gan gynnwys ystafelloedd ffitrwydd, clinigau therapi, y ganolfan antur awyr agored yn ogystal â rhai sefydliadau partner sy’n cynnwys Clwb Pêl-droed, Trac Athletau a Felodrome Caerfyrddin
Dywedodd Lee, sydd hefyd yn gyfarwyddwr rhaglenni graddau sylfaen ac israddedig chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr:
“Rwy’n gyffrous iawn gyda fy rôl newydd yn y Brifysgol gyda’r Academi Chwaraeon newydd. Fy nod fydd sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i ddod yn athletwyr a rhoi’r cyfle iddynt gyflawni eu llawn botensial mewn meysydd academaidd a chwaraeon.”
Yn raddedig o Brifysgol Brunel yn Llundain a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae gan Lee dros 40 mlynedd o brofiad mewn chwaraeon fel chwaraewr a hyfforddwr. Yn ystod ei ddyddiau chwarae bu’n chwaraewr tenis safonol y sir, chwaraeodd rygbi’r gynghrair i fyfyrwyr Cymru a myfyrwyr Prydain Fawr a rygbi’r Undeb i Gymry Llundain dan 19, Saracens dan 21, Blaendulais, Glyn-nedd ac i’w bentref genedigol, Cwmgwrach.
Mae Lee yn eiriolwr brwd dros ffitrwydd ac wedi hyfforddi rygbi, tennis ap-droed i wahanol dimau ac unigolion gan gynnwys Pêl-droed Ysgolion Afan Nedd, Rygbi Bechgyn Ysgol Castell-nedd, Urdd Dan 18 Cenedlaethol, Rygbi tîm 7 a chlwb ar gyfer pob grŵp oedran o D7 i hŷn yng Nghlwb Rygbi Castell-nedd Athletic lle mae'n dal i gymryd rhan. Mae’n aelod gwasanaethol o bwyllgor Grŵp Hŷn Undeb Rygbi Ysgolion a Cholegau Cymru.
Ymunodd â Choleg Sir Gâr fel darlithydd yn 1998 fel darlithydd rhaglenni addysg bellach ac uwch ac am y 22 mlynedd diwethaf bu ei brif rôl hyfforddi yn Academi Rygbi Coleg Sir Gâr fel hyfforddwr cynorthwyol, prif hyfforddwr a Chyfarwyddwr Rygbi. Yn ystod ei amser yno mae'r tîm wedi ei ddatblygu i fod yn un o brif raglenni Academi Rygbi'r DU.
Meddai Lee: “Rwyf wedi bod yn ffodus i hyfforddi llawer o chwaraewyr sydd wedi dod drwy’r academi rygbi sydd wedi mynd ymlaen i ennill anrhydeddau rhyngwladol dan 18 a dan 20. Mae nifer wedi mynd ymlaen i fod yn chwaraewyr proffesiynol, ac mae sawl un wedi mynd ymlaen i ennill capiau rhyngwladol llawn gan gynnwys chwaraewyr rhyngwladol presennol Cymru Gareth Davies, Scott Williams, Josh Adams, Keiran Hardy, Gareth Thomas, Sam Parry a Ryan Elias. Mae hefyd wedi bod yn wych gweld Josh, Gareth ac Adam Jones yn mynd ymlaen i gynrychioli Llewod Prydain ac Iwerddon.
“Ond yr un mor bwysig yw’r cannoedd o chwaraewyr rydw i wedi’u hyfforddi sydd wedi parhau i chwarae rygbi i safonau amrywiol tra’n mynd ymlaen i yrfaoedd hynod lwyddiannus mewn amrywiaeth o ddiwydiannau”.
Dywedodd yr Athro Catrin Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor ar ei benodiad: “Hoffwn groesawu Lee i’r Brifysgol i arwain ein Hacademi Chwaraeon sydd newydd ei sefydlu. Rwy’n falch iawn y bydd ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu gallu chwaraeon ochr yn ochr â’u hastudiaethau ac y bydd y Brifysgol yn cystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol ar gyfer timau chwaraeon i fyfyrwyr”.