Cyfres arddangosfeydd haf Coleg Celf Abertawe


25.05.2022

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi agor eu harddangosfa haf flynyddol i arddangos gwaith gradd mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y ddinas.

Illustration student at SCA summer show 2022

Mae gwaith gan fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu gradd o amrywiaeth o gyrsiau creadigol yn cael ei arddangos yn adeiladau Dinefwr, ALEX a'r BBC yn y Drindod Dewi Sant, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canolfan Cwadrant Abertawe ac Oriel Elysium, gyda sioeau dethol hefyd yn arddangos yn Llundain yn ddiweddarach yn yr haf.

Agorodd yr arddangosfeydd ar 20fed Mai ac fe fyddant yn parhau ar agor i’r cyhoedd nes 1af Mehefin (ac eithrio dyddiau Sul a gwyliau banc), gan ddarparu cyfle ardderchog i weld allfeydd creadigol gwych y myfyrwyr mewn amrywiaeth enfawr o gyfryngau.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe Y Drindod: "Mae'r Drindod Dewi Sant yn falch iawn ein bod, unwaith eto, ym mlwyddyn ein daucanmlwyddiant, yn gallu agor ein drysau i'r cyhoedd a chroesawu ymwelwyr i weld gwaith y myfyrwyr sy'n graddio eleni o Goleg Celf Abertawe.

“Fel un o brif ganolfannau'r DU ar gyfer celf, dylunio a'r cyfryngau, mae'r Drindod Dewi Sant yn falch o lwyddiant ei myfyrwyr a'r safonau y maent yn eu cyflawni. Mae pwysigrwydd yr artist, y dylunydd, y gwneuthurwr ffilmiau, a'r meddwl dyfeisgar wrth ddehongli ein hamseroedd ac adrodd straeon pwysig yn hanfodol yn y cyfnod heriol hwn.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd yng Ngholeg Celf Abertawe: "Mae'r Sioe Graddedigion yn ddathliad ac yn benllanw astudiaeth israddedig ac ôl-raddedig myfyrwyr, lle byddwch yn profi creadigrwydd gwych ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc celf a dylunio. Mae colegau celf yn newid y byd – bydd ein myfyrwyr, y byddwch yn gweld eu gwaith pan fyddwch yn ymweld â'r sioe, yn mynd yn eu blaenau i newid y byd”.

Mae manylion y cyrsiau sy’n arddangos ym mhob lleoliad i’w gweld ar wefan y sioe haf, ac wedi’u cynnwys isod:

Dinefwr: SA1 3EU

Hysbysebu Creadigol

Celf Gain

Dylunio Graffig

Ffotograffiaeth

Patrwm Arwyneb a Thecstilau

ALEX: SA1 5DU

Celf a Dylunio Sylfaen

Crefftau Dylunio

Dylunio Cynnyrch a Dodrefn

MA Dialogau Cyfoes

BBC: SA1 5DT

Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (20fed Mai yn unig)

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: SA1 3RD

Darlunio

Elysium: SA1 5BH

MA Dialogau Cyfoes

(Y sioe ar agor 11am-3pm bob dydd tan 28ain Mai)

Canolfan Siopa’r Cwadrant, Uned 26-27 SA1 3QW

Celf Gain (Y sioe ar agor 11am-5pm, 21ain-29ain Mai)

Campws IQ Glannau Abertawe: SA18EW

Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

(Y sioe ar agor 6.30pm 9fed Mehefin, yna bob dydd 10am-5pm 9fed – 16eg Mehefin)

Canolfan Dylan Thomas: SA11RR

Ffilm a Theledu (10fed Mehefin yn unig)

 

Bydd yr arddangosfa ar gael i’w gweld ar-lein o 7fed Gorffennaf.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

E-bost: ella.staden@uwtsd.ac.uk