Cyhoeddi Dr Rowan Williams yn brif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Canolfan Ymchwil y Drindod Dewi Sant i Brofiadau Crefyddol
16.05.2022
Mae Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol wedi cyhoeddi mai Dr Rowan Williams, y Barwn Williams o Ystumllwynarth, a chyn Archesgob Caergaint, fydd y prif siaradwr yn y gynhadledd flynyddol a gynhelir ar 9 Gorffennaf 2022.
Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Alister Hardy a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, mae'r gynhadledd eleni yn dwyn y teitl "Profiadau Cyfriniol: Ddoe a Heddiw" a chaiff ei chynnal yn Theatr Cliff Tucker y Brifysgol yn Llambed, a'i ffrydio'n fyw ar-lein.
Meddai’r Athro Bettina Schmidt, Athro Astudiaethau Crefyddol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil:
“Rydym wrth ein bodd bod Dr Rowan Williams wedi cytuno i fod yn brif siaradwr i ni eleni. Bydd yn siarad am y cyfrinydd pwysig, Julian o Norwich, a bydd yn ychwanegu dirnadaeth o'i safbwynt unigryw ei hun i'r hyn sy'n addo bod yn gynhadledd a thrafodaeth ddiddorol iawn.
Bydd y gynhadledd yn edrych ar brofiadau cyfriniol yn y gorffennol a'r presennol, ac o wahanol safbwyntiau. Yn ogystal ag adfyfyrio ar gyfrinwyr o’r oesoedd canol bydd y gynhadledd hefyd yn edrych ar brofiadau cyfriniol mewn Sufiaeth."
Mae Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol, a noddir gan Ymddiriedolaeth Alister Hardy, yn gartref i archif sydd â dros 6,000 o adroddiadau gan bobl o bob cwr o'r byd sydd wedi cael profiad ysbrydol neu grefyddol mewn lleoliadau eglwysig yn ogystal ag ym myd natur. Wedi’i sefydlu gan Syr Alister Hardy yn 1969 yng Ngholeg Manceinion, Rhydychen, trosglwyddwyd y ganolfan ymchwil i gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed ym mis Gorffennaf 2000. Nod y ganolfan yw astudio adroddiadau cyfoes am brofiadau crefyddol neu ysbrydol. Ychwanegodd yr Athro Bettina Schmidt:
"Dros hanner can mlynedd yn ôl - yn 1969 - gwahoddodd Hardy ysgolheigion i Rydychen i drafod a oedd dull gwyddonol o astudio profiadau crefyddol ac ysbrydol yn bosibl. Yn dilyn y symposiwm cyntaf hwn, sefydlodd y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol. Bellach, hanner canrif yn ddiweddarach, mae academyddion yn parhau i fynd ati i astudio profiadau ysbrydol a chrefyddol, er bod mwy o frys yng nghyd-destun seciwlareiddio cynyddol.”
Roedd Syr Alister Hardy’n Wyddonydd o fri a byddai’n mynd i’r afael â maes cymhleth profiadau crefyddol ac ysbrydol yn yr un ffordd ddisgybledig a gwyddonol ag y byddai’n ymdrin â gwyddoniaeth naturiol. Gan ofyn i bobl anfon adroddiadau ato am brofiadau uniongyrchol gyda phwerau ysbrydol neu grefyddol, sefydlodd y Ganolfan Ymchwil sydd wedi bod yn rhan flaengar o’r astudiaeth academaidd o brofiadau crefyddol ers hynny.
Mae diddordebau ymchwil aelodau'r Ganolfan yn amrywio o iechyd ac ysbrydolrwydd; prentisiaethau ysbrydol; syniadau crefyddol am y corff a’r hunan; cyfathrebu â’r meirw a meddiannu gan y meirw; dulliau trawsddiwylliannol o ymdrin â phrofiadau o drothwy marwolaeth a siamaniaeth. Mae eu hymagweddau’n amrywio o anthropoleg i astudiaethau crefyddol i seicotherapi.
Mae'r Ganolfan hefyd yn cyhoeddi cyfnodolyn ar-lein, mynediad agored, a adolygir gan gymheiriaid, o'r enw The Journal for the Study for Religious Experience, yn ogystal â chynnig MRes mewn Profiad Crefyddol yn y Drindod Dewi Sant.
Rhaglen
10 a.m. - Croeso
- Yr Athro Bettina Schmidt, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol
- Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Yr Athro John Harper, Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Alister Hardy
10.20 a.m. - Darlith Llambed Alister Hardy
- Yr Athro Rowan Williams, Prifysgol Caergrawnt
The Soul and the Trinity in Julian of Norwich, gyda sesiwn Holi ac Ateb
11.40 a.m.
- Yr Athro Lisa Isherwood, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Margery Kempe: God's wild housewife!
12.30 – 2.00 p.m.- EGWYL GINIO
2.00 - 4.30 pm
- Yr Athro Ron Geaves, Prifysgol Caerdydd
The “Inmost Heart” of Islam - Yr Athro Marta Helena de Freitas, Prifysgol Gatholig Brasilia - UCB
Brazilian psychotherapists' narratives about mystical experiences in clinical contexts - Yr Athro Bettina Schmidt, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Rudolf Otto and a reflection on mystical experiences during the Covid-19 pandemic
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar dudalen Eventbrite y gynhadledd
Am wybodaeth bellach, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/cy/llyfrgell/canolfan-ymchwil-profiad-crefyddol-alister-hardy/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076