Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyn-gaplan yr heddlu a darlledwr y BBC
04.07.2022
Mae’r Parchedig Tom Evans wedi’i ddyfarnu’n Gymrawd Er Anrhydedd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn seremoni raddio a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Llun).
Mae cyn gaplan Heddlu Dyfed Powys a darlledwr y BBC wedi’u hanrhydeddu i gydnabod ei waith gwirfoddol a’i ymrwymiad i werthoedd y Brifysgol.
Mae Tom Evans yn gyn aelod o staff Coleg y Drindod Caerfyrddin a ymunodd â’r Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn 1992 cyn cael ei benodi i swydd Cyfarwyddwr y Ganolfan Dysgu Gydol Oes, ac wedi hynny yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr hyd ei ymddeoliad yn 2008.
Wrth gyflwyno Tom, meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campysau Caerfyrddin a Llambed: “Mae Tom bob amser wedi bod yn gyfathrebwr cryf ac effeithiol. Mae’r gallu hwn i gyfathrebu ag eraill – i ddewis eich geiriau’n ofalus, i ddeall eich cynulleidfa a chysylltu â nhw ar yr amser a’r lle iawn, i allu cydymdeimlo ag eraill ac i rannu barn mewn ffordd glir, gredadwy a dilys – wedi i bod wrth galon ei yrfa lwyddiannus. Mae cyfathrebwyr hynod effeithiol hefyd yn wrandawyr da iawn a dyma, byddwn i’n dadlau, yw cryfder mwyaf Tom. Mae bob amser wedi darparu clust anfeirniadol, sy’n gwrando ar bawb, ac mae’n siarad â phawb mewn iaith y gallant ei deall.”
Wrth dderbyn ei Gymrodoriaeth, dywedodd Tom:
"Mae'r Brifysgol wedi rhoi'r fraint aruthrol i mi o fod yn gymrawd o'r coleg a'r Brifysgol hon. Mae gennyf hoffter aruthrol o'r sefydliad hwn, y Brifysgol, ei staff a'i Is-ganghellor. Rwyf wedi cael cyfoeth o brofiadau yma ac yn ddiau y buasai fy mywyd yn dlotach pe na bawn wedi dod i'r Drindod."
Manteisiodd Tom hefyd ar y cyfle i gynnig rhywfaint o gyngor i'r rhai oedd yn graddio yn y seremoni. Ychwanegodd:
"Rydych chi eisoes wedi clywed bod hwn yn un cam i mewn i'ch dyfodol, mae llawer mwy o gamau a chamau dysgu i'w cymryd eto yn eich bywyd. Fe welwch y geiriau 'Trawsnewid Addysg, Trawsnewid bywydau' o gwmpas y campws - heddiw, chi yw canlyniad yr union weledigaeth honno. Ond peidiwch ag ystyried bod eich addysg yn gyflawn. Parhewch i ddysgu a pharhau i drawsnewid eich hunain er budd cymdeithasau'r dyfodol."
Fel y dywedodd cyn-Brif Gwnstabl Dyfed Powys, Mark Collins QPM, sydd hefyd yn gymrawd yn y Brifysgol, “Mae ein swyddogion a’n staff yn gweld rhai digwyddiadau dirdynnol a thrasig gwirioneddol, a phan fo pobl wir angen rhywun i wrando arnynt ar adegau pan fyddant yn ei chael hi’n anodd iawn, mae Tom bob amser wedi bod yno, ddydd neu nos. Mae wedi dod yn dipyn o ffigwr tadol i Heddlu Dyfed-Powys ac mae wir yn cyfoethogi lles yr heddlu.”
Ganed Tom yn Llundain a dychwelodd y teulu i Sir Aberteifi yn gynnar yn y 50au. Addysgwyd ef yn Ysgolion Cynradd Llwynygroes a Betws Bledrws; Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan; Coleg Diwinyddol Coffa, Abertawe; Y Brifysgol Agored a Phrifysgol Cymru, Caerdydd.
Ym 1968, yn ystod ei flwyddyn olaf yn y Coleg Diwinyddol, gwasanaethodd Tom fel Myfyriwr Bugeilio yn Eglwys Gynulleidfaol Gymraeg y Tabernacl, Sgiwen, ac ar ei Ordeiniad yn 1969 dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Eglwys Annibynnol Gymraeg Bethania, Y Tymbl Uchaf, Llanelli. Yn 1975 fe’i penodwyd gan Gymorth Cristnogol, i ddechrau i wasanaethu fel Ysgrifennydd Ardal Canolbarth Cymru a Gwent ac yn 1987 daeth yn ‘Ysgrifennydd Addysg Cenedlaethol’ yr elusen yng Nghymru.
Yn 1989 derbyniodd Tom swydd Uwch Gynhyrchydd yn Adran Grefydd BBC Radio Cymru, Llandaf. Yn ystod Haf 1992 gwahoddwyd Tom i gymryd swydd Uwch Ddarlithydd Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac arhosodd yn y Coleg hyd ei ymddeoliad yn 2008.
Ar ei ymddeoliad, gwasanaethodd Tom ar Gyfarwyddiaeth Dyslecsia Cymru a ‘Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser’. Cyflawnodd y dyletswyddau hynny tan 2012, pan ddaeth yn ‘Gaplan Gwirfoddol yr Heddlu’ gyda Chaplaniaeth newydd Heddlu Dyfed-Powys. Yn 2013, fe’i penodwyd yn ‘Gaplan Arweiniol yr Heddlu Gwirfoddol’ yr Heddlu, gan ddatblygu ac adeiladu tîm caplaniaeth aml-ffydd cryf o fewn yr Heddlu, rôl y bu’n gwasanaethu ynddi tan ei ‘ail’ ymddeoliad yn 2021. Yn 2017, cydnabuwyd cyfraniad Tom i Gaplainiaeth yr Heddlu gan Uchel Siryf Dyfed ar y pryd.
Yn ystod ei gyfnod fel Caplan, dyfarnwyd ‘Tystysgrif Gwerthfawrogiad y Prif Gwnstabl’ a dau ‘Gymeradwyaeth y Prif Gwnstabl’ i Tom am y gefnogaeth a rannodd gyda swyddogion a staff yn ystod nifer o brif ddigwyddiadau anodd.
Tra’n gwasanaethu fel Caplan Arweiniol Gwirfoddol yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys, gwasanaethodd Tom ar Gyfarwyddiaeth ‘Caplaniaeth Heddlu’r DU’ a oedd newydd ei ffurfio; chwaraeodd ran allweddol wrth gael ‘Caplaniaeth Heddlu’r DU’ i agor trafodaethau gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i sefydlu rhaglen astudio DPP a fydd yn galluogi Caplaniaid yr Heddlu ledled y DU, yn ogystal â Chaplaniaid mewn ‘Gwasanaethau Argyfwng Golau Glas’ eraill, i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma ac, yn y pen draw, MA mewn 'Caplaniaeth'.
Yn dilyn trafodaethau rhwng Heddlu Dyfed-Powys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, (WAST) gwahoddwyd Tom i ddrafftio cynllun caplaniaeth gwirfoddol ar gyfer Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.
Ar ‘ymddeol’ o Gaplaniaeth yr Heddlu, hyfforddodd Tom, ac mae bellach yn gwasanaethu fel ‘Gwirfoddolwr Profedigaeth’ gyda CRUSE. Tom yw Cadeirydd presennol Cymdeithas Undeb yr Eglwysi Annibynnol Cymraeg Gorllewin Caerfyrddin.
Mae'n byw yng Nghaerfyrddin ac mae’n briod â Marilyn. Mae ganddynt ddwy ferch, Mererid ac Angharad ac wyron.