Cymru a'r Byd: Cynefin, Gwladychiaeth a Chydgysylltiadau Byd-eang
25.05.2022
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd arbennig ar 6 a 7 Mehefin er mwyn edrych ar rhai o’r dadleuon mawr yn hanes Cymru.
Mae ‘Cymru a’r Byd: Cynefin, Gwladychiaeth a Chyd-gysylltiadau Byd-eang’ yn dod ag academyddion, addysgwyr ac ymarferwyr treftadaeth ynghyd i drafod agweddau ar hunaniaeth Gymreig, ddoe a heddiw.
Wedi’i hariannu gan Sefydliad Addysg a’r Dyniaethau yn y Drindod Dewi Sant, mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad hybrid a gynhelir wyneb yn wyneb ar gampws Llambed ac ar-lein.
Wedi’i threfnu i gyd-fynd â daucanmlwyddiant y brifysgol, nod y gynhadledd yw lleoli Cymru mewn cyd-destunau byd-eang a threfedigaethol, gan ymgysylltu â dadleuon cyfredol ar ysgolheictod academaidd a pholisi cyhoeddus fel ei gilydd.
Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru archwiliad o henebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â’r fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd, yr Ymerodraeth Brydeinig a chyfraniadau hanesyddol pobl o dreftadaeth Ddu i fywyd Cymreig. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd y Llywodraeth ganfyddiadau adroddiad a gadeiriwyd gan yr Athro Charlotte Williams a arweiniodd at ymgorffori hanes BAME yn ffurfiol yn y Cwricwlwm i Gymru.
Yn unol â'r datblygiadau hyn, mae papurau'r gynhadledd yn trafod y gwahanol ffyrdd y gallai ysgolion, prifysgolion a sefydliadau treftadaeth fynd i’r afael ag etifeddiaeth barhaus o gaethwasiaeth drawsatlantig, gwladychiaeth ac anghydraddoldebau hiliol.
Prif siaradwr y gynhadledd yw’r Athro Olivette Otele, Prifysgol Bryste. A hithau’n awdurdod blaenllaw ar atgofion o gaethiwed, roedd yr Athro Otele yn rhan o’r grŵp gorchwyl a gorffen ac awdur archwiliad 2020. Etholwyd yr Athro Otele yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Mai 2022.
Dywedodd un o drefnwyr y gynhadledd, Dr Alexander Scott, Darlithydd mewn Hanes Fodern: “Mae’n anrhydedd croesawu’r Athro Otele a llu o siaradwyr o bob rhan o’r byd i Lambed.
“Mae gennym ni gyfres gyffrous o bapurau sy’n trafod cysylltiad Cymru â lleoedd mor bell i ffwrdd â’r Unol Daleithiau a’r Wcráin.
“Ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed barn y cynadleddwyr ar rai o’r materion mwyaf llosg yn y gymdeithas gyfoes.
“Mae Cymru yn cynnig lens unigryw ar hanes byd-eang, ar ôl bod yn destun gwladychiaeth fewnol ac wedi cymryd rhan mewn imperialaeth dramor.
“Mae datblygiadau diweddar hefyd wedi dangos bod Cymru’n arwain y ffordd mewn ymdrechion i wneud addysg yn fwy cynrychioliadol a chynhwysol, a bod y genedl yn barod i gael sgyrsiau anodd am ei gorffennol.”
Tynnodd Dr Scott sylw at y ffaith bod themâu’r gynhadledd yn berthnasol yn lleol yn Llanbedr Pont Steffan. Mae ei ymchwil wedi amlygu bod cymwynaswyr gwreiddiol Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn cynnwys caethweision ac unigolion a elwodd o fasnach drefedigaethol.
Dywedodd Dr Scott: “Mae’n bwysig i Lambed gynnal y gynhadledd hon yn 2022.
“Er mor braf yw dathlu daucanmlwyddiant y brifysgol, rydyn ni’n bod yn anonest os ydyn ni’n methu â chydnabod bod rhai o sylfaenwyr y brifysgol yn wladychwyr a pherchnogion caethweision.
“Yr enghraifft amlycaf yw Thomas Phillips, a roddodd 20,000 o lyfrau i lyfrgell y brifysgol. Gwnaeth Phillips ei ffortiwn gyda’r British East India Company, a defnyddiodd hwn i brynu planhigfa gaethweision yn St Vincent.
“Mae cysylltiadau eraill ag ymerodraeth yn gyffredin yn hanes cynnar y brifysgol.
“Er enghraifft, roedd pensaer Hen Adeilad y coleg, Charles Robert Cockerell, yn dod o deulu o ddynion y British East India Company, nifer ohonynt wedi derbyn iawndal am golli caethweision ar ôl cael eu diddymu yn y 1830au.
“Mae caethwasiaeth a gwladychiaeth yn rhan o hanes y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan. Mae ‘Cymru yn y Byd’ yn un cam tuag at gydnabyddiaeth lawnach o hynny.”
Mae modd cofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy siop ar-lein y Drindod Dewi Sant. Mae cyfraddau gostyngol ar gael i fyfyrwyr ac ar gyfer presenoldeb ar-lein yn unig.
Am fanylion pellach, e-bostiwch: walesandtheworld@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076