Cymuned Driathlon PCYDDS yn helpu staff a myfyrwyr i gadw’n gryf eu cymhelliad
08.04.2022
Mae cymuned hyfforddi wedi cael ei sefydlu er mwyn ysgogi a chefnogi cyfranogwyr o’r brifysgol sy’n cymryd rhan yn Nhriathlon Abertawe PCYDDS. Caiff y digwyddiad hwn ei gynnal ar safle SA1 ar Fai 28ain - 29ain.
Mae’r grŵp cyfathrebu hefyd yn sicrhau bod negeseuon ysgogiadol ac awgrymiadau ynglŷn â hyfforddiant yn gallu cael eu rhannu, a bod staff a myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhagflaenu’r digwyddiad.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn parhau â’i phartneriaeth ag Activity Wales Events (AWE), drwy ddarparu cyfleoedd er mwyn bod myfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth o ddisgyblaethau yn gallu cymryd rhan weithredol wrth baratoi ar gyfer un o brif ddigwyddiadau chwaraeon y ddinas.
Mae Triathlon Abertawe PCYDDS yn un o driathlonau pellter sbrint blaenllaw’r wlad, ac mae’n cael ei ddarlledu drwy bartneriaid cyfryngau AWE, sef Sianel 4 ac Eurosport. Mae’r digwyddiad unigryw hwn yn rhoi blas ar gynnwrf heb ei ail canol y ddinas, ac yn dal yr olygfa arfordirol syfrdanol sydd i’w gweld ar hyd ei daith amrywiol, gan gynnwys datblygiad aml-filiynau SA1 Glannau Abertawe’r Brifysgol.
Dim ond un o nifer o ddigwyddiadau chwaraeon proffil uchel a gaiff eu cefnogi gan y Brifysgol eleni yw hwn. Bydd PCYDDS yn noddi’r digwyddiad IRONKIDS Wales ar Fedi 10fed fel rhan o’i phartneriaeth gydweithredol ag IRONMAN Wales.
Bydd y Brifysgol hefyd yn cefnogi’r digwyddiad ‘Cyfres Bara Triathlon y Byd’ (World Triathlon Para Series) annibynnol cyntaf erioed, a chaiff hwn ei gynnal yn Abertawe ar ddydd Sadwrn Awst 6ed, a thriathlon IRONMAN 70.3 agoriadol Abertawe, a gaiff ei gynnal ar ddydd Sul Awst 7fed.
Fel pob digwyddiad arall a gaiff ei gefnogi gan y Brifysgol, mae Triathlon Abertawe PCYDDS yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr ledled pob campws sydd gan y Brifysgol gael profiad gwaith bywyd go iawn. Mae cael tîm o staff a myfyrwyr yn cymryd rhan yn y triathlon wedi rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau sy’n ymwneud â chwaraeon gael profiad o weithio gyda chleientiaid . Mae myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi rhoi ar brawf ac wedi hyfforddi cleientiaid, ac mae myfyrwyr Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi darparu gwasanaeth tylino a chymorth gydag anafiadau.
Meddai Geraint Forster, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff PCYDDS: “Rydym bob amser yn ceisio mewnosod cyfleoedd er mwyn datblygu cymwyseddau proffesiynol ar ein cyrsiau. Mae cael tîm o staff a myfyrwyr sy’n ymdrechu cyrraedd nod cyfunol yn darparu cleientiaid byd go iawn er mwyn bod myfyrwyr yn gallu mireinio eu sgiliau arnynt a chymhwyso eu gwybodaeth ddamcaniaethol at arfer.
“Mae’r bartneriaeth ag Activity Wales Events hefyd yn darparu cyfleoedd ymchwil ar gyfer staff, yn ogystal â datblygu’r cwricwlwm ym meysydd llythrennedd corfforol, iechyd ac ymarfer corff sydd yn rhan o strategaeth y Brifysgol i gydweithio â busnes a diwydiant er mwyn darparu buddion diriaethol o ran profiad y myfyrwyr.”
Mae Julie Jones, partner Busnes AD PCYDDS yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn ei thriathlon cyntaf. Meddai hi: “Rwy’n rhedeg llawer ac wedi gwneud hynny am lawer o flynyddoedd, ond nid fel rhan o grŵp – dim ond rhediadau hir ar fy mhen fy hun, neu weithiau gyda fy ngŵr. Rwy’n hyfforddi ar gyfer fy 13eg marathon – Marathon Mawr Cymru a gynhelir ar Ebrill 10fed ac rwyf wedi rhedeg rasys marathon mewn llawer o ddinasoedd hyfryd, megis Efrog Newydd, Athen, Fenis, Paris ac Amsterdam.
“Dechreuais nofio’n iawn ym mis Rhagfyr, ac am fy mod wedi bod dim ond dwywaith ar fy meic, rwy’n teimlo felly, erbyn hyn, fel dechreuwr go iawn, pe bai hynny ar gefn beic neu yn y pwll nofio. O gymharu â rhedeg, mae triathlon i weld yn eithaf cymhleth - mae ‘tri-suits, wetsuits, cleats, transitions, a brick runs’ i gyd yn newydd i mi, ac rwy’n ceisio eu deall!
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o dîm a chyfranogi ar ran PCYDDS, a gwneud rhywbeth gwahanol.”
Meddai Matthew Evans, Prif Weithredwr Activity Wales: “Mae PCYDDS yn un o bartneriaid cyflawni blaenllaw’r byd Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth wedi gweld nid dim ond bod y Brifysgol yn gallu darparu profiadau galwedigaethol wedi’u trefnu o gwmpas triathlon pellter sbrint blaenllaw’r wlad, ond hefyd ar gyfer y digwyddiad ei hun, gydag Abertawe fel cyrchfan dinesig a’r Brifysgol yn cael eu darlledu i dros 100 o wledydd ledled y byd gan wneud yn fawr o gyfle teledu unigryw iawn. Teimla ein tîm ei bod hi’n fraint fawr i weithio gyda’r myfyrwyr ar nifer o brosiectau creadigol ac arloesol.”
Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd PCYDDS: “Mae’n bleser gan y Brifysgol barhau i gefnogi Triathlon Abertawe. Mae’n gyfle ardderchog i fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon pwysig a gynhelir yng nghalon canol y ddinas, lle mae gennym gampysau. Mae’r digwyddiad hwn yn galluogi’r Brifysgol i gydweithio â phartner allweddol er mwyn darparu buddion diriaethol o ran profiad y myfyrwyr, ond hefyd, mae’n ein galluogi ni i gefnogi digwyddiad sy’n ceisio rhoi hwb i weithgareddau economaidd Abertawe drwy ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr at y ddinas.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk