Cyn-fyfyriwr Animeiddio Cyfrifiadurol Arloesol yn creu menter amlgyfrwng sydd wedi ennill gwobrau adref yn Kampala
10.10.2022
Graddiodd David Masanso, animeiddiwr sydd wedi ennill gwobrau, o’r Drindod gyda BA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol 3D yn 2007. Pan ddychwelodd i Uganda, sefydlodd David gwmni amlgyfrwng digidol Crossroads yn Kampala, sydd wedi tyfu’n un o stiwdios animeiddio mwyaf Dwyrain Affrica, gan gyflogi tîm o dros 50 o animeiddwyr. Mae ei hwb animeiddio yn creu popeth o ffilmiau byr wedi’u animeiddio, cynnwys addysgol, hysbysebion teledu, i gynnwys codi ymwybyddiaeth a rhaglenni dogfen.
Tyfodd ei gariad at animeiddio wrth wylio’r ffilmiau Toy Story pan oedd yn blentyn, ac ar ôl rhywfaint o ymchwil dewisodd Y Drindod gan fod y cwrs Animeiddio yn ymarferol a galwedigaethol. Meddai David: “Y peth gorau am y cwrs oedd dysgu sgiliau drwy ddulliau ymarferol,yn ogystal â’r digwyddiadau SANDS. Drwy wyliau diwrnodau animeiddio Abertawe cefais gyflwyniad i stiwdios mawr a chyfle i rwydweithio a dysgu sgiliau busnes gan arbenigwyr y diwydiant creadigol. Y peth pwysicaf am animeiddio yw’r grym i adrodd straeon apelgar.”
Breuddwyd David oedd adrodd straeon Affricanaidd trwy gartwnau, fel bod plant Affrica yn gallu perthnasu i’w rhaglenni teledu a gweld eu bywydau eu hunain wedi’u hadlewyrchu ynddynt. Mae’r tîm yn gweithio ar Mukago, cyfres deledu i blant wedi’i seilio ar emau Affricanaidd, ond wedi’u plethu gyda sgiliau datrys problemau a STEM, i greu cynnwys sy’n helpu i hybu’r system addysg gan apelio i blant ar yr un pryd. Mae Crossroads wedi ennill nifer o wobrau, ac mae David yn cyfrannu at bolisi am gynnwys i’r Weinidogaeth TGCh yn Uganda.
Fel arloeswr yn niwydiant animeiddio Uganda, gwelodd David fod y diffyg sgiliau animeiddio a chyfrifiadurol yn broblem wrth sefydlu’r busnes felly yn 2012, datblygodd gynllun hyfforddi sydd wedi helpu mwy na 250 o fyfyrwyr i gael sgiliau gwerthfawr ym maes animeiddio. Mae hyn wedi darparu ffrwd o dalent ar gyfer y diwydiant yn Affrica ac ar gyfer ei fusnes ei hun. Hefyd, mae e wedi creu clwb animeiddio Crossroads i blant, sy’n trefnu rhaglenni hyfforddi celf ar gyfer plant, sy’n gallu ennill arian wrth iddynt ddysgu, drwy ddarparu lleisiau ar gyfer cartwnau’r cwmni. Hefyd, mae yna Fŵt-camp Celf Cyfrifiadurol uwch, gan ddarparu gweithdai ar animeiddio a deallusrwydd artiffisial dan arweiniad Andrew Maximov, Mentor Creadigol Crossroads.
Phil Organ, Uwch Ddarlithydd ar gyfer y radd BA (Anrh) mewn Animeiddio a VFX meddai: “Roedd diwedd y 90au a dechrau'r 2000au yn sicr yn arwydd o gynnydd yn y diddordeb mewn animeiddio digidol 3D, yn dilyn ȏl troed y ffilmiau mawr poblogaidd gan PIXAR, Dreamworks ac eraill. Ein prifysgol ni yn Abertawe oedd un o’r rhai cyntaf yn y DU i gynnig cyrsiau Animeiddio Cyfrifiadurol 3D. Roedd David yn astudio bryd hynny, yn rhan o garfan fawr, ac roedd bob amser yn dod â llawer o bositifrwydd a'i natur gyfeillgar gynnes i bob dosbarth. Fe allech chi ddweud bod ganddo benderfyniad i ddysgu cymaint ag y gallai, ac i wneud yn dda ar ôl graddio.
Nid yw’n syndod iddo gychwyn cyrsiau a hyfforddiant animeiddio ei hun, gan fanteisio ar yr hyn a ddysgodd gyda ni yma yn y Drindod Dewi Sant, a thrwy hynny rymuso oedolion ifanc a myfyrwyr i feistroli MAYA a meddalwedd animeiddio arall. Mae bellach wedi dod yn arweinydd arobryn yn y diwydiant ac yn gyfarwyddwr cyfres â gweledigaeth, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddarpar animeiddwyr i ddilyn yn ȏl ei draed yn Affrica. Mae ei yrfa wir wedi ehangu i bob maes ym myd addysg ac adloniant, gan sefyll allan fel coeden Acacia gref, wedi'i fframio ar y gorwel fel esiampl ysbrydoledig ar wastatir Uganda; dechreuodd y cyfan o'r hyn a blannwyd ar ein cwrs animeiddio yn Abertawe yr holl flynyddoedd yn ôl.”
Hefyd, David yw sylfaenydd Women in Animation Uganda, a sefydlwyd i greu ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer animeiddwyr benywaidd trwy bartneriaethau gydag ysgolion a phrifysgolion. Mae hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn rhan o DNA Crossroads, sy’n trefnu cyrsiau hyfforddi ac interniaethau niferus ym maes animeiddio, gan dargedu pobl ifanc a merched yn arbennig mewn ymdrech i gynrychioli a hyrwyddo grwpiau ymylol yn y tîm hwyluso. Bellach, mae pum deg y cant o dîm animeiddio Crossroads yn ferched.
Cred David bod dyfodol disglair i animeiddio yn Uganda ac ar draws Affrica. Gan y cyfandir hwn mae un o’r poblogaethau ifancaf, ac mae platfformau ffrydio newydd a sianeli teledu newydd yn ymddangos yn gyflym. Ochr yn ochr â hyn, mae’r gostyngiad yng nghost defnyddio’r rhyngrwyd yn golygu bod y platfformau niferus hyn yn awchu am gynnwys, y gall animeiddwyr ei gyflenwi. Mae David yn edrych ymlaen at ymateb i’r cyfleoedd hynny ac ymestyn y busnes, dan ddarparu gwell rhagolygon ar gyfer crewyr digidol yn y farchnad hon sy’n tyfu.
Gwybodaeth Bellach
Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer, Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184 (4184) / 07850 321687
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk alumni@uwtsd.ac.uk