Cyn-fyfyriwr Perfformio yn cael Rôl West End yn y Sioe Jersey Boys


02.08.2022

Mae Joey Cornish, un o raddedigion cwrs BA Perfformio yng Nghaerdydd, wedi’i ddewis i chwarae rhan Joe Pesci ac yn eilydd ar gyfer rhan Frankie Valli yng nghynhyrchiad y West End o Jersey Boys. Mae’r BA Perfformio yn gwrs arloesol, cyfrwng Cymraeg a addysgir yn ddwys dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r cwrs yn datblygu perfformwyr amlddisgyblaethol, hyderus sydd â gwybodaeth gadarn am y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt, ac sydd â chysylltiadau â’r diwydiannau hynny. Mae cyn-fyfyrwyr y cwrs wedi cynnwys Lloyd Macey (2017), perfformiwr yn yr X-factor, a chanwr medrus.

Meddai Joey: “Roedd y cyfnod a dreuliais ar y cwrs Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant Caerdydd yn sbringford perffaith i gam nesaf fy ngyrfa. I mi, y cam hwnnw oedd ceisio hyfforddiant pellach a rhoddodd y cwrs yr arfau a phrofiad perffaith i mi allu gwneud hynny. Dysgais gymaint yn ystod fy amser yn Y Drindod yn cynnwys llu o sgiliau a thechnegau rwy’n eu defnyddio bob dydd, wrth ymarfer a pherfformio. Mae cael gradd mewn dwy flynedd yn fonws hefyd am ei fod yn golygu y gallwn ddechrau ar fy ngyrfa’n gynt. Dydw i ddim yn meddwl bod hyfforddiant ar lefel ysgol ddrama trwy gyfrwng y Gymraeg yn bodoli yn unman arall!”

Meddai Eilir Owen-Griffiths, Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs BA Perfformio: “Rydym yn falch iawn o gyraeddiadau Joey. Fel myfyriwr, gwnaeth fanteisio ar bob cyfle a oedd ar gael iddo gan gofleidio’r radd, ac mae hyn wedi talu. Dymunaf yn dda iddo yn y bennod newydd hon ar lwyfan y West End!” 

Gwybodaeth Bellach

Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM

Principal Communications and PR Officer Alumni

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr

Ffôn/ Phone 01792 481184  (4184) / 07850 321687                                                               

E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk