Cyn-fyfyriwr yn hwylio i lwyddiant ac yn gwahodd staff addysgu i fwrdd y llong


01.06.2022

Roedd staff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn bresennol ar lansiad Ewropeaidd llong fordeithiau fwyaf y byd yn daith ymgyfarwyddo i ddatblygu partneriaethau diwydiant.

Roedd y digwyddiad tridiau ar fwrdd llong newydd Royal Caribbean International (RCI), Wonders of the Sea, drwy wahoddiad yn unig ac yn bresennol roedd y cyfryngau, busnesau teithio, partneriaid corfforaethol ac arweinwyr y diwydiant. Roedd yn gyfle gwych i staff Ysgol Lletygarwch a Thwristiaeth Y Drindod Dewi Sant gael profiad o’r llong a dysgu rhagor am y diwydiant mordeithio rhyngwladol drwy fynd i ddigwyddiadau corfforaethol a samplu'r gwasanaethau lletygarwch a gwesteion rhagorol.

Cyfarfu'r staff â rheolwyr RCI i ddatblygu cysylltiadau diwydiant ymhellach a fydd yn cefnogi addysgu ac yn datblygu cyfleoedd cyflogadwyedd i fyfyrwyr o raglenni Twristiaeth, Digwyddiadau, Rheoli Cyrchfannau Rhyngwladol, Rheoli Gwestai a Gastronomeg.

Daeth y gwahoddiad i ymweld â'r llong newydd gan y cyn-fyfyriwr Craig Jarrett, a ddechreuodd ei yrfa yn astudio rhaglen Rheoli Hamdden yn y diwydiant yn Y Drindod Dewi Sant. Ar ôl graddio, bu'n gweithio mewn cyrchfan sgïo Ffrengig a datblygodd brofiad o reoli gwestai cyn ymuno â'r RCI a gweithio mewn ystod o swyddi gweithredol ar y bwrdd. Gan weithio ei ffordd i fyny yn y cwmni, daeth Craig yn Gyfarwyddwr Bwyd a Diod Asia cyn symud i Miami lle mae bellach yn Gyfarwyddwr Gwerthiannau Corfforaethol, Cymhelliant a Siarter.

Meddai Craig: "Wrth ymuno â'r Drindod Dewi Sant bron 20 mlynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi dychmygu y byddwn i lle'r ydw i heddiw. Rwy wedi bod yn gweithio i Royal Caribbean International ers dros 13 mlynedd, a gallaf ddweud yn hyderus fy mod i’n dal i ddefnyddio rhai o’r hanfodion a gafodd eu hegluro yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol hyd heddiw. Roedd y pynciau defnyddiol a'r ffordd y cafodd y radd ei chyflwyno yn fy annog i gadw mewn cysylltiad â'r Brifysgol ac mae'n wych gweld fy narlithydd Jacqui Jones yn dal i arwain y ffordd yn y diwydiant Twristiaeth.

"Mae'n braf gweld y brifysgol yn parhau i feithrin perthynas newydd â'r diwydiant byd-eang, gan agor cyfleoedd mawr i fyfyrwyr gael cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ar ôl iddynt raddio. Mae bywyd yn gyfuniad o lwc, gwaith caled a'r tîm cywir. Rwy'n gwybod bod fy amser yn Y Drindod Dewi Sant yn iawn."

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd ar gyfer twristiaeth, digwyddiadau a chyrsiau Rheoli Cyrchfannau Hamdden Rhyngwladol yn Y Drindod Dewi Sant: "Roedd y digwyddiad lansio a'r daith ymgyfarwyddo  yn gyfle gwych i ni ddatblygu ein gwybodaeth a'n cysylltiadau diwydiant ymhellach er budd myfyrwyr ar draws y portffolio o gyrsiau.

"Mae Craig wedi bod yn gefnogwr gwych i'n rhaglenni, yn rhedeg Dosbarthiadau Meistr yn ystod y pandemig ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i ddilyn yn ei ôl traed.  Rwy'n hynod falch o lwyddiant gyrfa Craig ac roedd yn arbennig iawn gallu dal i fyny a dathlu ei lwyddiant yn arweinydd diwydiant byd-eang."

Mae Craig yn un o nifer o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant sydd wedi mwynhau lleoliadau a gyrfaoedd rhagorol ar longau mordeithio yn y Caribî, UDA, Alaska, y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr bellach yn oruchwylwyr a rheolwyr, tra bydd eraill wedi dychwelyd i'r DU ac wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn twristiaeth, digwyddiadau a marchnata.

Mae dau fyfyriwr presennol ar leoliadau gyda'r grŵp RCI ar hyn o bryd, gan weithio ar Celebrity Cruises ar y Daith Arfordirol. Ymunodd Joshua Wilson o Iwerddon â'i long yn Southampton ac ar hyn o bryd mae ym môr y Baltig, tra bydd Sandra Peralto Gallisteo o Sbaen yn ymuno â'i llong yn Barcelona a bydd yn treulio'r haf yn gweithio o amgylch y Canoldir. Mae'r naill a’r llall yn hynod gyffrous o gael y cyfle i gael profiad mor ymarferol yn rhan o'u gradd.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau, ewch i adran Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch ein gwefan.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

E-bost : ella.staden@pcydds.ac.uk