Cyn-fyfyrwyr Caerfyrddin yn dathlu eu haduniad 30 mlynedd yn ystod blwyddyn deucanmlwyddiant Y Drindod Dewi Sant


16.06.2022

Mae Teresa, Melinda a Marie wedi bod yn cwrdd pob blwyddyn ers graddio, ac eithrio yn ystod y cyfnodau clo. Meddai Teresa Barrett, a gwblhaodd radd BAdd Anrh. mewn Saesneg a Drama yn 1996 ac sydd nawr yn Gydlynydd Ffoneg Blwyddyn 2 a Chyfnod Allweddol 1: Rydym yn cwrdd unwaith y flwyddyn ac fel arfer yn aros yn ein cartrefi ein gilydd, ond gan fod hyn yn dathlu tri deg mlynedd, roedd rhaid bod yng Nghaerfyrddin. Rydym yn cadw mewn cysylltiad o hyd trwy ein grŵp WhatsApp a gwnaethom ddefnyddio Zoom yn ystod y pandemig. Pryd bynnag rydym yn cwrdd, rydym yn chwerthin am ein hamser yn y Brifysgol ac yn pori ein hen luniau. Roedd yn amser arbennig a lluniwyd perthnasoedd arbennig iawn.”

Carmarthen alumni celebrate their 30th reunion during UWTSD’s bicentennial year.

Cwblhaodd Marie Smith BA Anrh. mewn Astudiaethau Theatr ac Astudiaethau Crefyddol. Gwnaeth Marie gais i’r Drindod trwy’r broses Glirio ac yn wreiddiol fe ystyriodd fynychu gwahanol brifysgol ond cafodd groeso mor gynnes ar gampws Caerfyrddin na wnaeth hi oedi cyn derbyn ei lle yno, ac mae ganddi lawer o atgofion melys am gyfnod ei hastudiaethau. Mae Marie wedi cael gyrfa ugain mlynedd ym maes hyfforddi, ac mae hi bellach yn gweithio’n rhan amser i elusen ganser plant. Dywed Marie “Ni fyddaf fyth eto mewn lle llawn meddyliau cyffrous, ffres o gymaint o wahanol gefndiroedd. Efallai mai bywyd prifysgol yw hynny, ond roeddwn wrth fy modd. Roedd yno bobl greadigol, feddylgar, anarferol, barod eu barn a chwrddais am ffrindiau oes. Roeddwn wrth fy modd â’m darlithoedd, roedd y gweithdai theatr yn anhygoel, ac roeddwn yn dwlu ar agwedd ddiwylliannol yr AddGref. Roedd fy narlithwyr yn frwdfrydig ac yn wybodus. “

Carmarthen alumni celebrate their 30th reunion during UWTSD’s bicentennial year.

Astudiodd Melinda Craddock, Dirprwy Brif Athro ym Merthyr Tudful, radd BAdd Anrh. mewn Saesneg a Drama, gan gwblhau hyfforddiant addysgu ochr yn ochr â’i gradd. Meddai Melinda: “Mae gennyf atgofion melys iawn o’m hamser yn Y Drindod. Roedd fy rhieni’n arfer chwerthin gan mai fi oedd un o’r cyntaf, fel arfer, i ddychwelyd bob tymor ac yn un o’r rhai olaf i adael. Nosweithiau Mercher a Gwener oedd nosweithiau’r undeb, byddem yn dechrau yn y dref, ond yn cyrraedd Undeb y Myfyrwyr yn y pen draw. Dyna ble roeddech yn cwrdd â phawb a ble roeddech yn cael y clecs i gyd! Roedd yn rhatach mynd i mewn os oeddech yn gwisgo lan ar nosweithiau thema, fel Calan Gaeaf a San Ffolant. Nos Sul oedd noson cwis tafarn ym mar y Lofft, a byddai pethau’n mynd yn gystadleuol ond yn sbort bob tro. Weithiau, roedd y Brifysgol yn rhy fach, o ran bod pawb yn gwybod eich busnes, ond yr ochr arall i hyn oedd bod pawb yn gofalu am ei gilydd, roedd ymdeimlad o gymuned go iawn yno.

Yr hyn sydd gan y ffrindiau hyn yn gyffredin yw eu cariad at Gaerfyrddin a’u profiad prifysgol, o ddawnsiau haf i gystadlaethau gwisg ffansi, brwydrau peli eira enfawr yn y gaeaf i syrffio ar garpedi i lawr coridor Dewi B. Roedd Teresa’n ystyried Caerfyrddin yn ail gartref iddi ac mae’r triawd wrth eu boddau’n cwrdd i hel atgofion. Meddai Marie: “I ni ein gilydd, nid ydym yn fam na’n wraig na’n athrawes na’n rheolwr i’n gilydd, ni yw Marie, Melinda & Teresa, y myfyrwyr 18 oed.” Dymunwn lawer mwy o flynyddoedd hapus o aduniadau wrth i’r Drindod ddathlu ei deucanmlwyddiant yn falch.

Os hoffech rannu eich stori cyn-fyfyriwr, cysylltwch â ni ar alumni@uwtsd.ac.uk

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad trwy Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Y Drindod neu ddysgu rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Gwybodaeth Bellach

Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184  (4184)                                                                     
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk