Cynhadledd Dogfennu Jazz 2022
04.10.2022
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â Threftadaeth Jazz Cymru, yn cynnal pedwaredd gynhadledd flynyddol Dogfennu Jazz yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, rhwng 9 a 12 Tachwedd.
Bydd y gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar thema amrywiaeth a'r nod yw creu fforwm rhyngddisgyblaethol cynhwysol ac eang ei gwmpas er mwyn miniogi ymwybyddiaeth, rhannu astudiaethau a phrofiadau, a chanolbwyntio'r drafodaeth ar agweddau niferus amrywiaeth mewn jazz heddiw.
Y prif siaradwyr fydd Dr Joan Cartwright, awdur, lleisydd a chyfansoddwr jazz a blues byd enwog, a Dr Francesco Martinelli, hanesydd jazz enwog, addysgwr ac awdur "The History of European Jazz". Ymhlith y siaradwyr eraill fydd Jenna Bailey, awdur o Ganada, hanesydd llafar a gwneuthurwr ffilmiau dogfen sydd wedi ennill gwobrau, y bydd ei llyfr nesaf ar Fand Merched Ivy Benson.
Fe fydd perfformiadau byw hefyd gan Burum, band unigryw Cymreig sy'n asio traddodiad gwerin Cymru a jazz, gyda pherfformiadau eraill i'w cadarnhau.
Treftadaeth Jazz Cymru yw'r casgliad Jazz aml-gyfrwng hynaf yn y DU, a hwn yw'r unig gasgliad sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth jazz merched ac etifeddiaeth ddiwylliannol cerddoriaeth Americanaidd Affricanaidd yng Nghymru, wedi'i leoli yng Nghanolfan Dylan Thomas y Brifysgol. Dechreuodd yn 1986 gyda Hanesion Llafar ac adolygiad o unrhyw ddeunydd tebyg yng nghasgliadau archifol Cymru a’r DU. Dros y blynyddoedd, casglwyd llawer o Hanesion Llafar. Creodd y cysylltiadau hyn sylfaen gwaith Prosiect a rhoddion parhaus.
Meddai'r Athro Jen Wilson, pianydd Jazz, awdur, cyfansoddwr a sylfaenydd Treftadaeth Jazz Cymru: "Mae'r Gynhadledd yn fenter newydd i ni a dylai ennyn diddordeb rhyngwladol yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru sydd ar gael yn ein Casgliadau. Rwy'n ddiolchgar i'n Bwrdd Ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a'r Drindod Dewi Sant am ddiogelu'r archif ddiddorol a phwysig hon ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Ychwanegodd: "Hanesion Llafar sydd wrth wraidd unrhyw brosiect hanes neu dreftadaeth, gan ddatgelu bywydau'r anenwog yn ogystal â'r sêr mawr. Mae'r holl straeon hyn yn helpu i lunio sut y datblygodd ein treftadaeth ddiwylliannol.
"Yn ddiweddar, mae'r Brifysgol Agored wedi defnyddio ein gwaith ymchwil ar gyfer eu cyfres cerddoriaeth How Jazz Came to Wales. Defnyddiodd y rhaglen ddogfen BBC4 ar y gantores blues Ottilie Patterson, ‘My Name is Ottilie’, hefyd ein gwaith ymchwil a Hanes Llafar Ottilie. Cafodd ei gwneud gan DoubleBand Films a chaiff ei dangos yn 2023. "
Meddai'r Athro Ian Walsh, Profost Campysau Abertawe a Chaerdydd Y Drindod Dewi Sant, "Mae Dogfennu Jazz 2022 yn llawer mwy na chynhadledd academaidd, ac mae'n ddathliad o’r rôl unigryw y mae jazz wedi ei chwarae wrth lunio tirwedd ddiwylliannol a chreadigol Abertawe ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif. Cynigodd lwyfan gweladwy ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant mewn oes pan oedd y naill a’r llall yn brin."
Bydd y gynhadledd yn codi'r cwestiynau canlynol:
Pwy sy'n rhoi llais i amrywiaeth yn y byd jazz?
Beth mae amrywiaeth yn ei olygu mewn Astudiaethau Jazz yn benodol?
Ydy jazz, yn arfer cerddorol a chymdeithasol, yn cyfrannu i ddeialog rhyngddiwylliannol?
Ydy jazz wedi pontio ffiniau y tu hwnt i'w isddiwylliannau?
Ydy amrywiaeth a chynhwysiant yn broblemau o fewn addysg ac ymchwil prif ffrwd, rhaglenni, safbwyntiau, moeseg, a methodolegau?
Beth allwn ni ei ddweud am ymarfer jazz, ei hanesion, a'i gymunedau?
Cyhoeddwyd galwad am bapurau sy'n mynd i'r afael â'r thema amrywiaeth ac mae'n cynnig y pwyntiau gadael canlynol:
* Jazz ar/mewn Ffilm a Theledu
* Jazz yn Arfer Cymdeithasol
* azz a Thechnoleg
* Jazz a Rhyw
* Jazz a Rhywioldeb
* Jazz a Gwleidyddiaeth
* Jazz ac Estheteg
* Jazz a Diwylliant Gweledol
* Jazz ac Anabledd
* Jazz a Gwaith Byrfyfyr
* Jazz a'r Amgylchedd/Ecoleg
* Jazz a'r byd rhithwir/AI
* Jazz a Llesiant
* Arfer Perfformio Jazz
* Jazz yn y Dychymyg Poblogaidd
* Jazz yn Ddisgwrs
* Jazz a'i Etifeddiaeth Treftadaeth
* Jazz a'i Chymunedau Sy'n Dod i'r Amlwg
Mae Treftadaeth Jazz Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Jazz Aberhonddu.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk