Cynnig cyrsiau sgiliau digidol drwy gydweithrediad rhwng prifysgolion


23.05.2022

Mae nifer o gyrsiau sgiliau digidol ar-lein wedi'u hariannu'n llawn yn cael eu cynnig diolch i bartneriaeth rhwng Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac Prifysgol De Cymru (PDC).

A number of fully-funded online digital skills courses are being offered thanks to a partnership between the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) and the University of South Wales (USW).

Mae'r cydweithio wedi'i ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a bydd yn darparu nifer o gyrsiau ar-lein, gydag ardystiad cwblhau’n cael ei ddyfarnu ar ôl gorffen y dysgu.  

Mae'r cwrs cyntaf am ddim yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i sgiliau digidol, yn galluogi’r dysgwyr i fod yn hyderus ac yn effeithlon ar-lein. Mae'n cynnwys canllawiau mynd ar-lein, creu cyfrifon ar-lein, sefydlu a defnyddio e-bost, a chwilio'r rhyngrwyd. Bydd cyrsiau diweddarach yn cynnwys cymdeithasu a gweithio ar-lein gydag eraill, prosesu geiriau sylfaenol, a chreu CV.

Dywedodd James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Y Drindod Dewi Sant: "Mae meddu ar sgiliau digidol sylfaenol wedi dod yn hanfodol i alluogi unigolion i weithredu a chymryd rhan mewn byd sy'n cynyddol ddigidol.  Mae siopa, bancio, trefnu apwyntiadau ysbyty, a hyd yn oed talu am ginio ysgol, i gyd yn cael eu gwneud ar-lein ac mae'n hanfodol bod ein cymunedau'n cael eu cefnogi i wneud y pethau hyn yn hyderus ac yn ddiogel.

"Bwriedir i'r cyrsiau - sy'n rhyngweithiol, yn weledol ac yn cael eu cyflwyno mewn darnau bach hygyrch - gael apêl eang iawn a bod ar gael i hyd yn oed y defnyddiwr mwyaf dibrofiad."

Dywedodd Claire Johnson, Rheolwr Partneriaethau  ac Allgymorth PDC (Digidol a STEM), fod y pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol bod yn hyderus ar-lein.

"Os oes un peth mae'r blynyddoedd diwethaf wedi'i ddysgu i ni, yna bod technoleg yn rhan annatod o'n bywydau yw hwnnw," meddai. "Fu'r angen am sgiliau digidol erioed yn bwysicach wrth i ni weithio, cymdeithasu a chael mynediad at wasanaethau craidd drwy ein dyfeisiau electronig.

"I rai, fodd bynnag, gall diffyg sgiliau digidol arwain at ynysu difrifol. Yn wir, mae gan Gymru un o'r ffigurau uchaf o ran tlodi digidol yn ôl adroddiad Sgiliau Digidol Hanfodol Banc Lloyds."

Gallwch gofrestru ar gyfer y cyrsiau hyn a gweld rhagor o wybodaeth drwy fynd i https://courses.digitalme.wale

 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk