Darlith Athrawol yn archwilio i berthnasedd barddoniaeth a chelf Helenistaidd, yn arbennig yn sgil y daucanmlwyddiant.


13.04.2022

Bydd yr Athro Mirjam Plantinga yn cyflwyno’r ddarlith athrawol nesaf, sef ‘Collaboration, Community, Identity and Engagement from Hellenistic Poetry and Art to the Bicentenary,’ ar ddydd Mercher, 27ain Ebrill am 4pm.

Mirjam Plantinga

Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddarlithoedd misol a fydd yn cael eu cyflwyno gan staff academaidd y Brifysgol sydd wedi derbyn teitlau Athrawol.

Yn ystod y ddarlith hon, bydd yr Athro Plantinga yn archwilio perthnasedd barddoniaeth a chelf Helenistaidd i ni nawr, gan ffocysu ar themâu allweddol fel cydweithio, cymuned, hunaniaeth ac ymgysylltu – themâu y mae’n arbennig o berthnasol i ni fyfyrio arnynt yn ystod dathliadau’r daucanmlwyddiant.

Cyn y ddarlith, dywedodd yr Athro Mirjam Plantinga:

“Rwy’n teimlo ei fod yn fraint fawr cyflwyno’r ddarlith hon a chael cadair athro gan y brifysgol.  Rwy’n edrych ymlaen at rannu’r ddarlith hon gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr.

Graddiodd yr Athro Mirjam Plantinga gyda gradd yn y Clasuron o Brifysgol Amsterdam, cyn cwblhau ei PhD mewn Groeg ym Mhrifysgol St Andrews. Ar ôl graddio, daeth yr Athro Plantinga yn Ddarlithydd yn y Clasuron yn Durham. Mae hi wedi gweithio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers 2000, yn gyntaf fel darlithydd yn y Clasuron, ac yna fel Pennaeth yr Adran. Daeth yn Ddeon ar Gyfadran y Dyniaethau yn 2010, yn Bro Is-Ganghellor Cysylltiol ar gyfer Profiad Myfyrwyr yn 2015, ac yna’n Bro Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Academaidd ers 2019.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

 “Mae’n bleser gennyf wahodd yr Athro Plantinga i gyflwyno ei darlith broffesiynol a’i llongyfarch ar gyflawni’r teitl.  Mae ein cyfres o ddarlithoedd athrawol yn arddangos ehangder ac ansawdd yr ymchwil sy’n cael ei gynnal yn Y Drindod Dewi Sant. Mae’n rhoi’r cyfle i’n hathrawon rannu eu hymchwil gyda chynulleidfa eang, yn cynnwys aelodau’r cyhoedd, ym mhresenoldeb teulu, ffrindiau a wahoddwyd a chydweithwyr."

Cynhelir y ddarlith ar ddydd Mercher, 27 Ebrill 4pm, yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin ac ar-lein ar Microsoft Teams.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ond gofynnir i westeion gadw lle ymlaen llaw drwy anfon e-bost i: Digwyddiadau-Events@uwtsd.ac.uk 

Byddwch yn gallu ymuno ar-lein drwy Microsoft Teams

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk