Darlith Athrawol yn archwilio sut y gall darpariaeth brifysgol arloesol ddiwallu anghenion ymarferwyr profiadol sy’n ceisio symud i gam nesaf eu datblygiad.


10.05.2022

Bydd yr Athro Annette Fillery-Travis yn cyflwyno’r ddarlith athrawol nesaf ‘Making the Familiar Strange – exploring a pedagogy for epistemic practitioners’ ddydd Mercher, 25 Mai am 4pm.

 Professorial lecture explores how innovative University provision can meet the needs of seasoned practitioners seeking to move into their next stage of development.

Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddarlithoedd misol a fydd yn cael eu cyflwyno gan staff academaidd y Brifysgol sydd wedi derbyn teitlau Athrawol.

Bydd yr Athro Fillery-Travis yn archwilio sut y gall darpariaeth brifysgol arloesol ddiwallu anghenion ymarferwyr profiadol sy’n ceisio symud i gam nesaf eu datblygiad.

Yr Athro Fillery-Travis oedd Pennaeth Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol tan iddi helpu i ddatblygu Coleg Doethurol arloesol y Brifysgol lle mae bellach yn Gyfarwyddwr.  Meddai:

“Yn y ddarlith hon hoffwn archwilio rôl SAU ym mywyd gwaith gweithwyr proffesiynol o fewn eu sefydliadau eu hun.   A ydym yn ceisio ychwanegu at allu unigolyn i weithredu o fewn terfynau eu safbwynt presennol ar waith, bywyd a chymdeithas, ynteu a ydym yn ceisio galluogi ein myfyrwyr i archwilio safbwyntiau mwy cymhleth, amwys ac ansicr?

Mae amgylchedd arloesi a datblygu sefydliadau wedi newid yn sylweddol yn y degawdau diweddar, ac mae hyn yn rhoi heriau arwyddocaol i arweinwyr a gweithwyr gwybodaeth wrth iddynt geisio ffynnu a chyfrannu’n effeithiol.  Awgryma ymchwil diweddar i ddyfodol gweithwyr y bydd y rheiny sy’n mynd i mewn i’r farchnad waith ar hyn o bryd yn nodweddiadol yn newid gyrfa ddeuddeng gwaith yn ystod eu bywyd gwaith (Ehlers, 2020). Mae hyblygrwydd o’r fath yn galw am lefel uchel o ystwythder dysgu. Ni all cymwysterau addysg uwch mwyach gael eu dynodi’n syml yn ofyniad er mwyn cael eich dethol ar ddechrau gyrfa ddewisol. Bydd angen eu diweddaru a’u hamrywio trwy gydol gyrfa unigolyn. Fodd bynnag, ni all ffurf na swyddogaeth y datblygiad hwn ddilyn ‘llwybr datblygiad llorweddol’ confensiynol cynyddu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud y swydd ond yn hytrach rhaid iddynt fynd i’r afael â’r llwybr ‘datblygiad fertigol’, sef cynyddu’r agwedd, yr ystwythder gwybyddol, a’r ymwybyddiaeth i weithredu ar lefelau cynyddol o gymhlethdod ac awdurdod.”

Mae’r Athro Fillery-Travis yn uwch addysgwr hyfforddwyr, yn ymchwilydd ac yn awdur. Ar ôl gyrfa lwyddiannus yn wyddonydd ymchwil, pan fu’n Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yn Gadeirydd Grŵp Bwyd y DU ac yn awdur dros 50 o bapurau academaidd, datblygodd ddiddordeb dwfn mewn datblygu gweithwyr proffesiynol ar ôl archwilio ei hanghenion ei hun o ran datblygiad proffesiynol. Dechreuodd ail yrfa’n hyfforddwr, yn addysgwr ac yn diwtor gyda’r Sefydliad Datblygiad Proffesiynol lle daeth yn Brif Swyddog Gweithredol gan ddylunio rhaglenni arweinyddiaeth i reolwyr y sector cyhoeddus ac arweinwyr ysgol, ac yn rheolwr ar raglenni hyfforddi hyfforddwyr ar draws ystod o sectorau.

Yn dilyn cyfnod sabothol ym Mhrifysgol Manceinion yn 2008 yn datblygu rhaglenni proffesiynol a hyfforddi i Benaethiaid Ysgol, gofynnwyd iddi ymuno â Phrifysgol Middlesex yn Bennaeth Cyfadran y Ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Proffesiynol. Yn ystod ei chyfnod ym Middlesex goruchwyliodd fwy nag ugain o ddoethuriaethau hyfforddi gan arwain y Grŵp Ymchwil Gwaith a Dysgu lle gweithiodd yn ymgynghorydd i ystod o sefydliadau Fortune 500, gan gynnwys Nationwide US, ar draws ystod o sectorau.

A hithau’n brif ymchwilydd i brosiect pan-Ewropeaidd a gyllidwyd gan yr UE ar y Ddoethuriaeth Fodern, daeth yn arbenigwr nodedig ym maes doethuriaethau proffesiynol (modern) cyn ymuno â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn bennaeth Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol cyn datblygu Coleg Doethurol y Brifysgol lle mae’n dilyn ei brwdfrydedd dros hwyluso datblygiad proffesiynol unigolion.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae’r bleser gennyf wahodd yr Athro Fillery-Travis i gyflwyno ei darlith athrawol a’i llongyfarch ar gyflawni’r teitl.  Mae’r Athro Fillery-Travis yn awdurdod blaenllaw ar ddysgu proffesiynol a dysgu trwy brofiadau, sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r Brifysgol.”

Cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 25 Mai 4pm, yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin ac ar-lein drwy Microsoft Teams

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ond gofynnir i westeion gadw lle ymlaen llaw drwy anfon e-bost i: Digwyddiadau-Events@uwtsd.ac.uk 

Nodyn i'r Golygydd

 

 

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk