Darlithwyr o’r Drindod Dewi Sant yn teithio i Helsinki i rannu eu gwybodaeth ym maes Gwaith Ieuenctid
21.10.2022
Yn ddiweddar teithiodd darlithwyr o’r ddisgyblaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn y Drindod Dewi Sant i Helsinki i gymryd rhan mewn Cynhadledd ar Addysg Uwch ym maes Gwaith Ieuenctid.
Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Academaidd, Dr Nichola Welton, a’r Cyfarwyddwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol, Angharad Lewis, i’r digwyddiad hwn yn rhan o fenter ryngwladol er mwyn rhannu eu profiad a’u gwybodaeth helaeth ym maes gwaith ieuenctid.
Fe wnaeth Partneriaeth Ieuenctid Cyngor Ewrop yr UE, rhaglen Hyfforddi a Chydweithio SALTO, ynghyd â Gweinyddiaeth Addysg a Diwylliant y Ffindir, Asiantaethau Cenedlaethol Ieuenctid Erasmus+ yr Almaen a’r Ffindir, Iwerddon, Serbia, Georgia a Phortiwgal, gychwyn Gweithgaredd Dysgu gan Gymheiriaid yn ymwneud ag Addysg a Hyfforddiant i Weithwyr Ieuenctid.
Fel rhan o weithredu’r Gweithgaredd Dysgu gan Gymheiriaid, trefnodd Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Humak yn y Ffindir Gyfarfod Arbenigol yn ymwneud ag Addysg Uwch mewn Gwaith Ieuenctid ar 20-23 Medi 2022 yn Helsinki, y Ffindir. Roedd y cyfranogwyr yn y seminar arbenigol yn cynrychioli sefydliadau addysg uwch sy’n darparu neu’n cynllunio addysg uwch mewn gwaith ieuenctid, a gweinyddiaethau llywodraeth sy’n gyfrifol am ddatblygu gwaith ieuenctid yn y gwledydd a oedd yn cymryd rhan.
Nod y Gweithgaredd Dysgu gan Gymheiriaid oedd datblygu dealltwriaeth gyffredin o addysg a hyfforddiant o safon i weithwyr ieuenctid rhwng y gwledydd oedd yn cymryd rhan. Bwriadwyd hefyd gymryd cam ymhellach at gydweithio ar draws sectorau, astudio dulliau gwledydd o ddarparu addysg a hyfforddiant ffurfiol i weithwyr ieuenctid, archwilio datblygiad cymwyseddau gweithwyr ieuenctid, ac archwilio sut y gellir defnyddio safonau, offer a dulliau Ewropeaidd a rhyngwladol mewn cyd-destun o’r fath, a chreu rhwydwaith o addysgwyr gwaith ieuenctid mewn addysg uwch.
Fel cyfranogwyr panel arbenigol, cyfrannodd Dr Nichola Welton ac Angharad Lewis eu profiad a’u myfyrdodau eu hunain ar ddatblygu portffolio Gwaith Ieuenctid y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys y BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS), a’r MA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS). Bydd cyfleoedd o’r fath i rannu profiad yn caniatáu i’r Drindod Dewi Sant lywio gwaith cynllunio ac arfer rhyngwladol yn ogystal â chael cyfleoedd arwyddocaol i gydweithio. Mae’r gwahoddiad i gyfrannu at y Gweithgaredd Dysgu gan Gymheiriaid hefyd yn ategu gwerth Tîm Ieuenctid y Drindod Dewi Sant o ran arbenigedd mewn addysg ac ymchwil ym maes Gwaith Ieuenctid.
Meddai Dr Nichola Welton:
“Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn i gael y cyfle i ymgysylltu â 15 o Brifysgolion yn Ewrop sy’n darparu hyfforddiant Gwaith Ieuenctid mewn Seminar Arbenigol a gynhaliwyd gan Brifysgol Gwyddorau Cymhwysol Humak yn Helsinki. Bydd hyn yn arwain at adeiladu cysylltiadau a sylfeini ar gyfer cyfleoedd cydweithio pellach. Dangosodd y seminar yn glir sut y mae addysg nad yw’n ffurfiol drwy waith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y Ffindir ochr yn ochr ag addysg ffurfiol, a sut y gall gwaith Ieuenctid gyfrannu at ddarparu sylfaen ar gyfer hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol yn ogystal â chyfleoedd ehangach i Bobl Ifanc yn y gymdeithas”.
Meddai Angharad Lewis
“Roedd yn fraint cynrychioli’r Drindod Dewi Sant a Chymru yn y Seminar Arbenigol yn Helsinki, a chyfnewid arfer da gydag eraill ar draws Ewrop. Rydym wedi meithrin nifer o gysylltiadau yr ydym yn gobeithio eu harchwilio ymhellach. Roedd hwn yn brofiad grymusol, ac yn arddangos gwerth Gwaith Ieuenctid ar draws Ewrop”.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476