Darlithwyr Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ar flaen y gad o ran datblygu addysg Blynyddoedd Cynnar a Pholisi Gofal ac Arfer yng Nghymru.


14.03.2022

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae addysg blynyddoedd cynnar a gofal yng Nghymru wedi gweld datblygiadau sylweddol yn dilyn cyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru a chyhoeddiad diweddar y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a Ariennir Nas Cynhelir (Cymru) a’r Cyfarwyddyd Galluogi Dysgu (Cymru)

Curriculum for funded non-maintained nursery workshop

Yma, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar wedi chwarae rôl allweddol, drwy gynghori, ysgrifennu a datblygu’r cwricwlwm a’r cyfarwyddyd a wnaiff hysbysu’r polisïau hyn, sydd ar flaen y gad o ran polisi ac arfer yn y sector plentyndod cynnar nas cynhelir.   

Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar o fewn Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn frwdfrydig dros hyrwyddo pwysigrwydd y proffesiwn blynyddoedd cynnar, a sicrhau bod yr unigolion gweithgar a thalentog sy’n gweithio yn y sector yn cael eu gwerthfawrogi a’u cydnabod.

Mae Natalie MacDonald, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen y radd 2-flynedd hyblyg a gyflwynir gyda’r nos yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Arbenigol y Cyfnod Sylfaen.  Dywedodd:

"Mae’n wych bod yn rhan o rywbeth a wnaiff arwain nid dim ond at newid polisi ac arfer, ond gwnaiff hefyd gefnogi cydnabod y wybodaeth, y sgiliau a’r ymarferwyr rhagorol sydd eisoes yn bodoli yn ein sector nas cynhelir. Mae llawer o’n myfyrwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n astudio ar y rhaglen radd a gyflwynir gyda’r nos, yn gweithio llawn amser ac yn astudio ar yr un pryd, ac felly maent wrth galon yr arfer y mae’r gwaith hwn yn ei dargedu. Mae hyn yn ein galluogi ni i fod yn flaenllaw yn y sector, yn chwarae rôl allweddol o ran newidiadau mewn polisi ac arfer, gan sicrhau bod gan ein myfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau mwyaf diweddar i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar ac addysg."

Meddai Natasha Young, darlithydd o'r Tîm Blynyddoedd Cynnar:

 “Roedd hi’n bleser chwarae rhan yn natblygiad y dogfennau galluogi llwybrau a chwricwlwm nas cynhelir. Rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael cyfle i gyfrannu at weithgor a oedd yn cynnwys ymarferwyr ac arbenigwyr ym maes blynyddoedd cynnar, gan greu cyfarwyddyd perthnasol ac ymarferol er mwyn cefnogi sector sydd eisoes yn cyflawni pethau arbennig. Wedi’u creu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr, gyda llawer ohonynt yn fyfyrwyr yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r dogfennau hyn yn canolbwyntio ar roi anghenion a buddiannau plant wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud, rhywbeth y dylai pob un ohonom ymdrechu i’w wneud yn y blynyddoedd cynnar.”

Mae Natalie a Natasha wedi bod yn ymgysylltu â sefydliadau trydydd sector, megis Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn lledaenu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cwricwlwm nas cynhelir, ac maent ar hyn o bryd, ynghyd ag aelodau eraill o’r tîm blynyddoedd cynnar, yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n datblygu pecyn o adnoddau e-ddysgu er mwyn cefnogi’r cyflwyno. 

 Meddai Dr Nichola Welton, Cyfarwyddwr Academaidd Gweithredol y Ganolfan Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg:

"Mae aelodau’r tîm blynyddoedd cynnar a gofal, a’u rhaglenni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ar flaen y gad o ran datblygiadau polisi ac arfer yng Nghymru. Mae’r rhan y gwnaeth Natalie a Natasha ei chwarae fel aelodau o Grŵp Ymgynghorol Arbenigol y Cyfnod Sylfaen, a’r rhan ehangach y gwnaeth y timau ei chwarae wrth ddatblygu adnoddau e-ddysgu er mwyn cefnogi cyflwyniad y Cwricwlwm newydd ar gyfer lleoliadau a Ariennir Nas Cynhelir yn enghraifft o hyn.  O ganlyniad, bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â’n rhaglenni wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gweithio o fewn y fframwaith newydd a darparu’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer babanod a phlant ifanc Cymru."

 

 

 

Childhood, Youth and Education lecturers at the forefront of developing Welsh Early Years education and Care Policy and Practice.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk