Darlithydd Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn graddio gydag MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
05.07.2022
Mae Natasha Jones, sy'n ddarlithydd Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi graddio gydag MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.
Mae gan Natasha gysylltiad hir â'r ddisgyblaeth yn Y Drindod Dewi Sant, gan raddio yn 2018 gyda gradd BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar. Mae hi hefyd wedi gweithio'n fwy diweddar fel athrawes ysgol uwchradd sy'n addysgu gyda'r rhaglen Cam wrth Gam i ddarparu cymwysterau Gofal Plant ac Addysg lefel 3.
Mae wedi defnyddio ei harfer ei hun i ysbrydoli a datblygu'r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr blynyddoedd cynnar.
Meddai Natasha: "Agorodd y cymhwyster hwn ddrysau i mi yn bersonol, er enghraifft roeddwn i'n 'au pair' yng Ngwlad yr Iâ dros yr haf i deulu a phlentyn ifanc. Ar ôl dychwelyd o'r swydd, bûm yn ddigon ffodus i gael y cyfle i weithio yn y feithrinfa ar gampws prifysgol Caerfyrddin, y Gamfa Wen. Rhoddodd y rôl hon brofiad gwerthfawr i mi o weithio gyda phlant a datblygu ar ran fy ngallu i addasu i anghenion pob plentyn.
"Er mwyn mynd ar drywydd fy angerdd o weithio gyda phlant, manteisiais ar y cyfle i weithio’n gynorthwyydd dosbarth yn Ysgol y Dderwen. Fe wnaeth hyn hefyd fy helpu i ehangu fy nealltwriaeth a'm sylfaen wybodaeth o weithio gyda phlant, ac i ddeall sut i ofalu amdanynt mewn amgylchedd gofalus. "
Dywedodd Natasha ei bod am barhau â'i thaith ddysgu gyda'r Drindod Dewi Sant drwy astudio gradd meistr i gael dealltwriaeth gyfannol o ddatblygiad plentyn hyd at gyfnod oedolyn. Ym mis Awst 2019 cofrestrodd gyda'r rhaglen Gwaith Ieuenctid a Chymuned, gyda'r nod o allu cefnogi pobl ifanc i ddatblygu'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn addysgol.
Mae Natasha wedi gweithio mewn ystod eang o feithrinfeydd, ysgolion a chlybiau lleol, i wella ei dealltwriaeth o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae hi bellach wedi ymuno â'r tîm Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg a bydd yn parhau i ddefnyddio ei phrofiad ei hun i ysbrydoli myfyrwyr Addysg Uwch yn y sectorau blynyddoedd cynnar, ieuenctid ac addysg i ddilyn eu teithiau dysgu eu hunain.
Wrth i'r Brifysgol ddathlu ei daucanmlwyddiant mae mor wych gweld myfyrwyr fel Natasha yn cynnal eu perthynas â'r Drindod Dewi Sant ar ôl graddio. Wrth wneud hynny, gall ddefnyddio ei phrofiad ei hun yn fyfyriwr i ddatblygu cyrsiau'r dyfodol.
Yn fyfyriwr cyfrwng Cymraeg a astudiodd ei holl fodylau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd Natasha hefyd yn arbennig o arwyddocaol yn natblygiad ac arloesedd darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.
Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae dros fil o ymarferwyr bellach wedi cael eu hyfforddi yn y Gymraeg drwy'r rhaglen.
Meddai’r darlithydd Glenda Tinney: "Mae bob amser yn bleser gweld cyn-fyfyrwyr yn gwneud mor dda ac yn datblygu eu gyrfaoedd. Roedd Natasha yn fyfyrwraig israddedig arbennig a phan glywais i ei bod hi’n mynd i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig, yn ogystal â gweithio fel athrawes ysgol uwchradd, roeddwn i’n gwybod y byddai'n ddylanwad ardderchog i'r sector. Mae ein cyrsiau yn gofyn am ddarlithwyr sy'n gallu cyfuno profiad academaidd ac ymarfer ac felly roedd Natasha yn ychwanegiad amlwg at y tîm Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg.
"Mewn sector lle mae'n hanfodol ein bod ni’n datblygu ethos dwyieithog cryf ac yn gallu hyfforddi'r to nesaf o ymarferwyr cyfrwng Cymraeg yn y sectorau blynyddoedd cynnar, ieuenctid ac addysg, bydd Natasha yn gaffaeliad mawr, ar ôl dilyn ei hastudiaethau ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi eisoes wedi dangos ei hymrwymiad i addysg a gofal cyfrwng Cymraeg, yn rhan o'i gwaith gyda rhaglen Cam wrth Gam y Mudiad Meithrin. Ardderchog Natasha, mwynha’r graddio a chroeso i'r tîm."
Wrth i Natasha edrych i'r dyfodol, ychwanegodd: "Rwy'n glir am y camau posibl i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach, er enghraifft, hoffwn ymchwilio a myfyrio ar ddigwyddiadau mawr y flwyddyn fel y gallaf yn y pen draw gymryd y cyfrifoldeb o arwain ar fy mhen fy hun.
"Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig ymwybyddiaeth o sut y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru; Os ydych chi'n angerddol am blant ac yn mwynhau gweithio gyda nhw, edrychwch ar yr hyn sydd gan y brifysgol i'w gynnig i chi! "
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476