Datblygu arweinwyr addysg uwch y dyfodol


07.03.2022

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddiwrnod o ddathlu cyraeddiadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ar draws y byd. Thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 yw ‘Break the Bias’. Boed yn fwriadol neu’n anymwybodol, mae rhagfarn yn ei wneud yn anodd i ferched symud ymlaen. Nid yw gwybod bod rhagfarn yn bodoli yn ddigon, rhai cymryd camau i greu cyfle cyfartal i bawb.

Aurora is an Advance HE programme that takes positive action to address the under- representation of women in leadership positions across the HE sector.

Rhaglen AU Uwch yw Aurora sy’n cymryd camau positif i ymdrin â thangynrychiolaeth merched mewn swyddi arweinyddiaeth ar draws y sector AU. Mae’n cefnogi merched a’u sefydliadau i gyrraedd eu potensial arweinyddiaeth trwy weithgareddau sy’n ysgogi meddwl, gweithgareddau datrys problemau cydweithredol a straeon sy’n cymell a gefnogir gan fodelau rôl benywaidd ysbrydoledig. Mae cymryd rhan yn y rhaglen yn llunio rhwydweithiau cryf o ferched ar draws y sector i rannu arfer gorau, mewnwelediadau a phrofiadau. Ers 2017, mae dros 60 o staff Y Drindod wedi cymryd rhan yn y rhaglen fel cyfranogion, mentoriaid neu fodelau rôl.

Meddai Sara Mills, Rheolwr Datblygiad Cyfundrefnol Y Drindod Dewi Sant: “Rwy’n falch iawn i allu eirioli Aurora ar gyfer Y Drindod. Mae’n fraint gwylio hyder cyfranogion Aurora yn tyfu yn ystod eu hamser ar y rhaglen a thu hwnt. Mae rhai wedi datblygu eu gyrfaoedd i lefel weithredol a nawr yn mentora eraill trwy’r rhaglen, sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd.  Diolch enfawr i’n mentoriaid mewnol, mae’n gyffrous gweld rhwydwaith Aurora Y Drindod yn tyfu! Credwn y gellir cyflawni gwell amrywiaeth trwy feithrin ymagwedd gydweithredol, bositif at ddeall a grymuso arweinyddiaeth fenywaidd a dyna yw holl ddiben Aurora.

Mae rhai o gyfranogion Aurora’r Drindod y flwyddyn hon yn rhannu eu profiadau a’u huchelgeisiau isod:

Gwnaethom ofyn iddynt...

Beth wyt ti wedi’i werthfawrogi am dy brofiad o Aurora hyd yma?

“Rwyf wedi cael fy annog i gymryd rhan yn y rhaglen Aurora yn y gorffennol ond rwyf wedi bod yn betrusgar. Rwyf mor falch fy mod wedi camu tu allan i’m maes cysurlon eleni! Mae clywed straeon y merched anhygoel eraill, o amrywiaeth eang o gefndiroedd, wedi bod yn wych. Mae’r cyfle i rwydweithio a siarad gyda chymaint o ferched ar draws y sector yn wych”. Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol, Wales Global Academy

Mae wedi rhoi cymaint o hyder i ni yn barod mewn cyn lleied o sesiynau. Rwyf wedi cytuno i fod yn gadeirydd grŵp Merched mewn STEM ar gyfer y Brifysgol. Rhywbeth na fuaswn wedi bod yn awyddus i’w wneud o gwbl tan yn ddiweddar. Mae’n fy nysgu i ymddiried ynof fi fy hun yn fwy a rhoi mwy o amser i fi fy hun.” Barbara Pugh, Swyddog Datblygu Systemau Gweithredol, Gwasanaethau Digidol

Rwyf wedi gwerthfawrogi faint o bositifrwydd ac angerdd mae Aurora wedi’u rhoi i mi i feddwl yn agored amdanaf fi fy hun a’m harweinyddiaeth. Mae wedi fy arwain i edrych ar wahanol endidau arweinyddiaeth a ble rwyf i’n eistedd o fewn yr endidau hynny. Mae hefyd wedi caniatáu i mi gwrdd ag unigolion o’r un meddylfryd, i ddod i adnabod ei gilydd ac ymhle y gallwn helpu o fewn ein gwahanol leoliadau gwaith. Mae Aurora’n gadael ei farc yn barod ar fy hyder a’m harweinyddiaeth. Rwy’n gadael pob sesiwn yn teimlo’n fwy a mwy rhydd na’r diwethaf!” Chloe Parsons, Rheolwr Datblygu Busnes, Ystadau a Chyfleusterau

“Yr hyn sydd wedi bod o fantais go iawn hyd yma yw’r cyfle i adfyfyrio ar eich hun... beth rwy’n ei wneud, sut rwy’n ei wneud e, a beth rwy’n ei ddweud wrth bobl eraill amdanaf i fy hun, p’un ai’n fwriadol neu drwy fy ymddygiad, iaith fy nghorff a’m hymagwedd. Yr hyn sy’n rhoi tawelwch meddwl i rywun o hyd, yw’r cyfle go iawn i siarad gyda charfan ehangach Aurora, o wahanol leoliadau, gwahanol swyddi ac yn wynebu heriau gwahanol ond tebyg hefyd. Mae teimlo ‘aelodaeth’ yn bwysig iawn, ac mae hyn yn cefnogi’r teimlad o ryddid a’r cyfle i siarad yn agored am heriau ... mae pobl eraill yn wynebu’r un rhai ac mae hynny’n hynod o galonogol!” Dr. Jayne Griffith-Parry, Darlithydd, Athrofa Rheolaeth ac Iechyd

 

Sut wyt ti’n rhagweld y bydd Aurora yn eich helpu wrth ymgymryd â’ch rôl a thu hwnt?

“Rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud i mi deimlo’n fwy grymus i wneud gwahaniaeth, ac arwain i ddeilliannau cadarnhaol ar brosiectau rwy’n rhan ohonynt ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.” Barbara Pugh, Swyddog Datblygu Systemau Gweithredol, Gwasanaethau Digidol

“Rwy’n gobeithio y bydd Aurora yn caniatáu i mi ddatblygu fy ngyrfa ym maes Addysg Uwch gyda phendantrwydd a hyder yn fy arweinyddiaeth. Rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi’r cyfle i mi fod ar fy ngorau, ac i ddatblygu fy nghred ynof i fy hun fel unigolyn ac yn fy rôl yn Y Drindod.” Chloe Parsons, Rheolwr Datblygu Busnes, Ystadau a Chyfleusterau

“Ar ôl mynychu fy sesiwn gyntaf, a oedd yn ffocysu’n bennaf ar hunan-adfyfyrio, cefais fy nghymell gan straeon pobl sy’n gweithio ym myd addysg. Hoffwn gwblhau’r rhaglen fel y gallaf wella fy sgiliau arweinyddiaeth a theimlaf yr hoffwn roi rhywbeth nôl i’r Brifysgol drwy fentora eraill”. Betsy Jose, Darlithydd, Athrofa Dysgu Canol Dinas

'Rwyf eisoes wedi gweld newid yn fy ymagwedd o fewn fy nhîm cymheiriaid, ac yn y ffordd rwy’n symud rhaglen newydd yn ei blaen. Mae’n ddyddiau cynnar, ac rwy’n siŵr y bydd rhagor o amser o fewn Aurora o fudd enfawr i mi wrth sefydlu rôl o fewn tîm ehangach yr athrofa a’r brifysgol. Ni fuaswn yn oedi dim wrth annog Aurora i gydweithwyr ac rwyf wedi dechrau gwneud hynny yn barod! Dr Jayne Griffith-Parry, Darlithydd, Athrofa Rheolaeth ac Iechyd

“Rwy’n gobeithio y bydd Aurora yn rhoi amser i mi adfyfyrio a bod yn fwy strategol wrth fy ngwaith, a fydd yn helpu’r tîm yn yr hirdymor. Hyd y mae, mae wedi fy helpu i ddeall beth yw fy nghymhelliant a sut i gyd-bwyso’r llwyth gwaith a phrosiectau’n unol â hynny. Inga Naruseviciute, Prif Swyddog Gweinyddol, Athrofa Dysgu Canol Dinas

Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen Aurora yn Y Drindod a sut i wneud cais, cysylltwch â ni yn staff.development@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk