Dathlu llwyddiant myfyrwyr yn seremonïau Graddio Caerfyrddin


04.07.2022

Mae’r cyntaf o seremonïau graddio dosbarth 2022 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin heddiw (4 Gorffennaf).

Graduation 2022 Carmarthen

Mae’r seremonïau’n rhoi cyfle i ddathlu eu llwyddiant a’u hymrwymiad, ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod cyflawniadau eu myfyrwyr.

Dywedodd Is-ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, DL: “Mae’r seremoni raddio yn nodi uchafbwynt gyrfa academaidd ein myfyrwyr. Mae’n ganlyniad gwaith caled ac ymrwymiad, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan deulu a ffrindiau.

“Bydd y myfyrwyr yn graddio gyda'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen arnynt i wneud gwahaniaeth yn eu gyrfa ddewisol. Hyderaf, wrth iddynt edrych yn ôl ar eu cyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol, eu bod yn mynd â’r cyfeillgarwch niferus a’r atgofion hapus o’u hamser yma gyda nhw, ac y bydd eu profiadau yn y brifysgol yn eu gwasanaethu’n dda gydol eu hoes.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol ac yn eu hatgoffa, fel cyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, y byddwn yn ymdrechu i’w cefnogi ac yn gobeithio y byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.”

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Caerfyrddin a Llambed: “Mae gan bob un o'r rhai sy’n graddio yn y seremonïau hyn gyfraniad enfawr i’w wneud i les cymdeithas yn y dyfodol. Dyma'r eiliad i ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth, a'u hangerdd i lunio'r byd ôl-Covid, i greu normal newydd a mwy datblygedig, byd mwy cyfiawn, caredig, hardd a chariadus.

“Ar ochr arall y drws hwnnw, mae yna fyd yn llwgu am arweinyddiaeth newydd, syniadau newydd, ffyrdd newydd o feddwl. Mae yna gyfle enfawr i gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion, teuluoedd, a chymunedau cyfan. A does dim byd mwy tragwyddol, neu fwy pwerus, na’r effaith rydyn ni’n ei chael ar eraill.”

Bydd deuddydd o seremonïau yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon (Gorffennaf 4 a 5.)

Gallwch wylio pob un o’r seremonïau’n fyw ar wefan y Brifysgol drwy fynd i https://www.uwtsd.ac.uk/cy/fideo-byw/ 

Eleni mae'r Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru. Mae'r deucanmlwyddiant yn coffáu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy'n nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru.

O'r hadau a heuwyd yn Llanbedr Pont Steffan dros ddwy ganrif yn ôl i ddatblygiad ei champysau, mae'r Drindod Dewi Sant wedi tyfu'n Brifysgol aml-gampws, sector deuol sy'n darparu rhaglenni galwedigaethol berthnasol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076